Ewch i’r prif gynnwys

Sylwebaeth wleidyddol COVID-19 yn gysylltiedig â throseddau casineb ar-lein

29 Mawrth 2021

Mae athro ym Mhrifysgol Caerdydd wedi datgelu cynnydd syfrdanol mewn troseddau casineb yn erbyn pobl Asiaidd ar-lein a ysgogwyd gan drydariad gan y cyn-Arlywydd Donald Trump a oedd yn cynnwys yr ymadrodd 'Chinese virus' i ddisgrifio COVID-19.

Ar ddechrau’r pandemig, defnyddiodd yr Arlywydd Donald Trump yr ymadrodd mewn trydariad. Aeth ymlaen i amddiffyn hyn mewn sesiwn briffio i’r wasg yn y Tŷ Gwyn ddyddiau’n ddiweddarach.

Wrth gynnal ymchwil ar gyfer ei lyfr newydd, The Science of Hate, penderfynodd yr Athro Matthew Williams, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ganfod a gafodd yr ymadrodd dadleuol hwn effaith ar faint o bobl oedd yn mynegi casineb yn erbyn pobl Asiaidd ar Twitter.

“Roedd y syniad hwn a gefais yn seiliedig ar ymchwil flaenorol a ddangosodd ddigwyddiadau all-lein, megis ymosodiadau terfysgol a phleidleisiau gwleidyddol, a ysgogodd bobl i fynegi casineb ar-lein yn syth ar ôl y digwyddiad,” meddai’r Athro Williams.

Casglodd ymchwilwyr yn y LabordyGwrthGasineb, sef ble mae Williams yn Gyfarwyddwr, tua 41 miliwn o drydariadau sy’n gysylltiedig â COVID-19 rhwng 12 Mawrth ac 1 Ebrill 2020.  Gan ddefnyddio offer a ddatblygwyd yn y labordy i nodi achosion o bobl yn mynegi casineb ar-lein, gwnaethant leihau’r set ddata enfawr i tua 13,000 o drydariadau a oedd yn dangos nodweddion casineb yn erbyn pobl Asiaidd.

Dysgodd yr Athro Williams, fod nifer y trydariadau a oedd yn mynegi casineb yn erbyn pobl Asiaidd wedi cynyddu 656% yn ystod y 48 awr ar ôl i Donald Trump ddefnyddio’r ymadrodd dadleuol am y tro cyntaf.

Roedd llawer o'r trydariadau a anfonwyd ar ôl sylw Donald Trump yn llawn casineb ac yn bryderus iawn. Roedd rhai pobl yn mynegi rhwystredigaeth ynghylch cynlluniau’n cael eu canslo, fel partïon pen-blwydd, a digwyddiadau chwaraeon yn cael eu gohirio, gan ddefnyddio hashnodau a oedd yn cynnwys iaith hiliol ac annynol.

Dysgodd yr Athro Williams fod rhai o’r trydariadau hynod ddifrifol, ac o bosibl troseddol, yn galw am drais eithafol yn erbyn pobl Tsieineaidd.

Daeth mwyafrif y trydariadau a oedd yn llawn casineb gan gyfrifon a oedd yn gysylltiedig â'r UD, tra bod o leiaf 317 wedi dod o'r DU.

Cafodd llawer o'r trydariadau mwy eithafol eu dileu o fewn 24-48 awr, naill ai gan Twitter neu'r unigolyn gwreiddiol, efallai gan eu bod yn difaru.

Mae ymchwil yn LabordyGwrthGasineb Prifysgol Caerdydd wedi canfod cysylltiad rhwng casineb gwrth-ddu a gwrth-Fwslimaidd ar-lein a chasineb ar y strydoedd.

Mae Science of Hate yn dogfennu sut y bu cynnydd sylweddol yn y casineb yn erbyn pobl Asiaidd ar y strydoedd yn ystod wythnosau cyntaf y pandemig, yn unol â’r casineb ar-lein.

Ar ôl chwe wythnos yn unig ers i'r pandemig ddechrau, cofnododd Brifysgol Talaith San Francisco dros 1,700 o ddigwyddiadau o gasineb a oedd yn targedu Americanwyr Asiaidd ar draws pedwar deg pump o daleithiau. Roedd mwyafrif y dioddefwyr wedi cael eu haflonyddu ar lafar ar y stryd, gydag eraill yn dioddef ymosodiad corfforol a cham-driniaeth ar-lein.

Yn ystod yr un cyfnod cofnododd heddlu yn y DU gynnydd o 21 y cant mewn troseddau casineb a oedd yn targedu pobl o dde a dwyrain Asia. Cofnodwyd cynnydd tebyg ledled Ewrop, Awstralasia, Asia, Affrica ac America.

“I gloi, dywedodd yr Athro Williams, “Mae adroddiadau diweddar, a gynhaliwyd ar ddwy ochr Môr yr Iwerydd, yn nodi bod troseddau casineb yn erbyn pobl Asiaidd yn uwch nag erioed, gyda llawer o ddioddefwyr yn nodi mai’r pandemig ac ymddygiad ffigurau gwleidyddol yn ei ddefnyddio fel arf, ac unigolion asgell dde-dde, sydd ar fai”.

“Ar ôl bod yn ddioddefwr trosedd casineb 20 mlynedd yn ôl, cychwynnais ar daith i ddarganfod pam. Ysgrifennais The Science of Hate i rannu'r hyn a ddarganfyddais i.  Yng nghanol y gwaith ymchwil ar gyfer fy llyfr, daeth y pandemig ac fe newidiodd y dirwedd o ran casineb ar-lein ac all-lein yn sylweddol.

“Arweiniodd COVID-19 at ymdeimlad newydd o fygythiad sydd wedi cael ei gysylltu â rhai hunaniaethau gan wleidyddion ac aelodau’r asgell dde eithafol.  Yn ogystal â phobl Asiaidd, rydym hefyd wedi gweld Iddewon, Mwslemiaid a phobl LHDT+ yn cael eu targedu yn ystod y pandemig, a thwyllwybodaeth ddadleuol oedd yn tanio hyn i raddau helaeth.

Mae “The Science of Hate yn dod â’r holl ymchwil hon ynghyd â theori newydd ar gyfer deall pam bod lefelau troseddau casineb a mynegi casineb yn parhau i godi ledled y byd.”

Yn y 90au hwyr, dioddefodd yr Athro Williams drosedd casineb homoffobig ar strydoedd Llundain, ac ar-lein tra oedd mewn ystafell sgwrsio lle roedd defnyddwyr rhyngrwyd America yn bresennol.  Arweiniodd hyn ato’n cynnal ymchwiliad am ddau ddegawd i ddarganfod cymhellion y rhai hynny sy'n ymosod ar bobl oherwydd pwy ydyn nhw.

Mae The Science of Hate: How prejudice becomes hate and what we can do to stop it yn cael ei gyhoeddi gan Faber & Faber ar 25 Mawrth 2021 (£14.99 clawr meddal masnach)