Gwobr yn amlygu rôl allweddol cemeg mewn datrysiadau amgylcheddol
25 Mawrth 2021
Dyfarnwyd Gwobr Michel Boudart mewn Catalysis Sylfaenol 2021 i'r Athro Graham Hutchings o Ysgol Cemeg Caerdydd am ei waith 'arloesol' ym maes catalysis aur ac ocsideiddio dethol, sy'n helpu i fynd i'r afael â materion amgylcheddol allweddol.
Mae'r wobr yn gydnabyddiaeth i'r Athro Hutchings am gymryd cysyniadau sylfaenol mewn catalysis, sy'n ymddangos yn eithaf academaidd ar y dechrau, a'u datblygu i fod â chymwysiadau sy'n helpu i lanhau'r amgylchedd ac sy'n sail ar gyfer dyfodol cynaliadwy i bawb.
Mae hyn yn arbennig o wir pan ddeallwn ei gyfraniad at ddisodli'r catalydd mercwri a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu un o'r plastigau a ddefnyddir fwyaf yn y byd, polyfinyl clorid (PVC). Mae ei ymchwil wedi datblygu dull amgen mwy hynaws yn seiliedig ar aur.
O ganlyniad i waith arloesol yr Athro Hutchings, mae catalydd aur bellach yn cael ei gynhyrchu mewn ffatri bwrpasol yn Tsieina gan y cwmni cemegau byd-eang Johnson Matthey i gataleiddio cynhyrchu finyl clorid - y tro cyntaf mewn dros 50 o flynyddoedd y cyflwynwyd newid llwyr mewn ffurfiant catalydd i gynhyrchu cemegyn nwyddau!
Mae'r gwaith yn deillio o Sefydliad Catalysis Caerdydd lle'r ydym ni'n gwella dealltwriaeth o gatalysis, datblygu prosesau catalytig newydd gyda diwydiant a hyrwyddo defnydd o gatalysis fel technoleg gynaliadwy yn yr 21ain ganrif.
Gan werthfawrogi'r goblygiadau pwysig sydd gan ymchwil catalysis yn ein byd modern, mae Prifysgol Caerdydd wedi buddsoddi mewn seilwaith ymchwil newydd trwy ein Canolfan Ymchwil Drosiadol newydd. Mae hyn yn rhan o gynllun datblygu ehangach i adeiladu ein Campws Arloesedd £300M, lle bydd ymchwil yn cyfuno â diwydiant i gynhyrchu datrysiadau yn y byd real.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Cemeg Caerdydd, Damien Murphy:
"Mae catalysis wedi bod yn gryfder yng Nghaerdydd ers blynyddoedd lawer, mae'n wyddoniaeth sy'n datblygu'n barhaus ac rydym ni'n falch bod arweinwyr fel Graham yn gallu cael effaith wirioneddol ar dechnoleg ddiwydiannol.
Mae'n wych bod y gymuned catalysis fyd-eang hefyd yn cydnabod Caerdydd fel canolfan bwysig yn y maes trwy ddewis Graham i dderbyn y wobr ragorol hon."
Mae cyfuniad yr Athro Hutchings o brofiadau diwydiannol ac academaidd yn y DU ac ar draws y byd wedi rhoi persbectif ymchwil iddo sy’n ei alluogi i ymgysylltu â phroblemau catalysis cymhleth, eu hastudio â dyfeisgarwch, a chynnig atebion ymarferol trwy ddatblygiadau mewn gwyddoniaeth sylfaenol.
Cyflwynwyd y wobr gan Ffederasiwn Cymdeithasau Catalysis Ewrop (EFCATS) a Chymdeithas Catalysis Gogledd America (NACS).
Wrth wneud hyn, nodwyd bod cyfraniadau’r Athro Hutchings yn y maes wedi bod yn amrywiol, yn effeithiol ac yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr, a'u bod wedi cadw’r Deyrnas Unedig ar flaen y gad ym maes ymchwil catalysis dros y blynyddoedd.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd yr Athro Hutchings:
"Mae catalysis yn faes gwyddoniaeth hynod ddiddorol sy'n gosod cemeg yn y rhyngwyneb rhwng syniadau sylfaenol a chymwysiadau yn y byd real ac mae bob amser yn gyffrous cael gweithio gyda chydweithwyr o bob cwr o'r byd i fynd i'r afael â'r heriau y mae'n eu cyflwyno.
Mae'n anrhydedd mawr derbyn gwobr Boudart eleni, sy'n cydnabod gwaith creadigol ac ymroddedig y tîm rwyf i wedi gallu ei adeiladu yng Nghaerdydd”.
Mae Gwobr Michael Boudart yn "cydnabod ac annog cyfraniadau unigol sy’n egluro’r mecanwaith a’r safleoedd sy'n ymwneud â ffenomenâu catalytig. Mae hefyd yn cydnabod ymdrechion i ddatblygu dulliau neu gysyniadau newydd sy'n hybu dealltwriaeth a/neu arfer catalysis heterogenaidd" (EFCATS).
Edrychwn ymlaen at lawer mwy o arloesiadau ac effaith gynaliadwy gan Sefydliad Catalysis Caerdydd dros y blynyddoedd nesaf.
I gael manylion y wobr, ewch i: https://efcats.org/Awards/Graham+Hutchings.html