Gwahodd Trigolion i Garu Grangetown
21 Ebrill 2016
Gwahoddir trigolion Grangetown i awgrymu syniadau i wella eu cymuned ymhellach drwy ymuno â'r Brifysgol.
Mae prosiect y Porth Cymunedol, sy'n rhan o raglen Trawsnewid Cymunedau'r Brifysgol, yn cynnal ei ail ddigwyddiad Caru Grangetown ddydd Sadwrn, 23 Ebrill.
Bydd grwpiau cymunedol, trigolion a staff y Brifysgol yn trafod prosiectau i helpu i wneud Grangetown yn lle hyd yn oed gwell.
Fe wnaeth trigolion a ddaeth i ddigwyddiad Caru Grangetown y llynedd helpu i nodi naw thema, megis strydoedd glân a mannau gwyrdd, lleoedd cyfarfod cymunedol, Grangetown diogel a pharch ar y ffyrdd.
Mae partneriaid cymunedol, trigolion a staff a myfyrwyr y Brifysgol wedi gweithio gyda'i gilydd dros y 12 mis diwethaf i lansio llawer o brosiectau llwyddiannus i roi sylw i'r themâu hyn.
Mae'r Porth Cymunedol bellach wedi cefnogi dros 30 o brosiectau, gan gynnwys caffi athroniaeth, siop leol ac ymgyrch fforwm busnes, astudiaeth ymchwil ynghylch mannau gwyrdd yn Grangetown, wythnos o weithgareddau diogelwch yn y gymuned, casglu sbwriel, a phanel cynghori ysgolion i enwi ond ychydig.
Cynhelir digwyddiad Caru Grangetown eleni ddydd Sadwrn 23 Ebrill rhwng 1300 a 1600 ym Mhafiliwn Grange, Gerddi Grange, Grangetown. Mae croeso i'r holl drigolion ddod draw i gael gwybod rhagor am beth y mae'r prosiect wedi'i gyflawni yn ystod y 12 mis diwethaf, a chael dweud eu dweud am beth sy'n dod nesaf.
Bydd stondinau hefyd yn cynnig gweithgareddau hwyl a sbri ar gyfer oedolion a phlant, a bydd paneidiau o de a chacennau ar gael yn rhad ac am ddim.
Gall unrhyw un sydd â syniadau am brosiectau gysylltu â'r Porth Cymunedol: communitygateway@caerdydd.ac.uk neu 029 2087 0532.
Mae'r Porth Cymunedol yn un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, a elwir hefyd yn rhaglen Trawsnewid Cymunedau.
Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.