Gweithgaredd cyflogaeth ar Ddydd Gŵyl Dewi
22 Mawrth 2021
Nododd israddedigion o Brifysgol Caerdydd Ddydd Gŵyl Dewi drwy annog cyflogwyr i ymrwymo i ymarfer gorau o ran cyflog, cyfle cyfartal, sicrwydd swyddi a hyfforddiant fel rhan o fenter Citizens Cymru Wales.
Ar eu modiwl Cymdeithas ac Economi, a arweinir gan Dr Deborah Hann a Dr Marcus Gomes, danfonodd myfyrwyr blwyddyn gyntaf Ysgol Busnes Caerdydd 60 o gennin i gyflogwyr mwyaf dylanwadol Cymru ynghyd â gwahoddiadau i Ffair Gyflogaeth Ailgodi'n Gryfach ar 24 Mawrth 2021.
Anogodd y myfyrwyr, fydd hefyd yn staffio'r Ffair ar-lein, y derbynwyr i ddod yn gyflogwyr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig a chefnogi'r Compact Swyddi Cymunedol.
Nod y Compact yw dod â phobl leol a chyflogwyr at ei gilydd i fynd i’r afael â thlodi, diweithdra a thangynrychiolaeth yn y gweithle drwy:
- Achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol.
- Arferion recriwtio teg, gan gynnwys CVs heb enwau na chyfeiriadau a hyfforddiant mewn tueddiadau diarwybod.
- Sicrwydd swyddi, gan gynnwys dim gorfodaeth ar gyfer contractau dim oriau.
Roedd y 60 cyflogwr y cysylltwyd â nhw yn perthyn i sawl sector yn cynnwys: addysg, chwaraeon, iechyd a gofal cymdeithasol, y cyfryngau a thechnoleg, manwerthu, lletygarwch, gwasanaethau ariannol, darparwyr yswiriant, awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus.
Yn eu plith roedd sefydliadau Cymreig eiconig fel Brains, Yswiriant Admiral a Stadiwm Principality, yn ogystal â chyflogwyr mawr yn ne Cymru fel Arup, Legal & General, Heddlu De Cymru ac Iceland.
Mae rhai cyflogwyr eisoes wedi ymrwymo i gyfarfod gyda myfyrwyr ac arweinwyr cymunedol, gydag eraill yn mynegi eu hymrwymiad i lofnodi'r compact.
Dywedodd Dr Deborah Hann, Uwch-ddarlithydd mewn Cysylltiadau Cyflogaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Ein myfyrwyr yw arweinwyr yfory felly rydym ni wedi bod yn gweithio gyda nhw y semester hwn i ddatblygu eu sgiliau arwain, er mwyn iddyn nhw allu sicrhau'r newid maen nhw am ei weld yn ein heconomi ac yn y gymdeithas hefyd.
“Maen nhw wedi clywed gan gynrychiolwyr cymunedau lleol ac er eu bod yn gweld bod Caerdydd yn llewyrchus, maen nhw hefyd yn gweld llawer o annhegwch yma...”
Penllanw gwaith y myfyrwyr gyda Citizens Cymru Wales yw Ffair Gyflogaeth Ailgodi'n Gryfach rithwir ar 24 Mawrth 2021. Bydd sefydliadau'n gallu galw heibio rhwng 1 a 4pm a chymryd rhan mewn trafodaethau bwrdd crwn, sesiwn holi ac ateb, a chlywed straeon llwyddiant gan gyflogwyr eraill sydd wedi ymuno â'r ymgyrch dros Gyflog Byw Gwirioneddol a'r Compact Swyddi Cymunedol.
Ychwanegodd Nirushan Sudarsan, arweinydd gyda Citizens Cymru Wales a rhan o Dîm Gweithredu Cyflogaeth Butetown: “Rydyn ni'n falch iawn i fod yn gweithio gyda myfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb cyflogaeth yng Nghaerdydd...”
“Mae effaith hyd yn oed nifer fach o'r cyflogwyr hyn yn llofnodi'r Compact Swyddi neu'n dod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol yn enfawr.”
Mae'r fenter Dydd Gŵyl Dewi yn rhan o berthynas barhaus rhwng Ysgol Busnes Caerdydd a Citizens Cymru Wales, a thros y 18 mis diwethaf mae'r sefydliadau wedi cydweithio ar Sesiwn Hysbysu dros Frecwast am adferiad cymdeithasol ac economaidd ar ôl-COVID, uwchgynadleddau cymunedol ar draws de Cymru, a diwrnod gweithredu cymunedol â thema Nadolig. Mae dros 300 o israddedigion wedi derbyn hyfforddiant mewn sgiliau allweddol fel strategaeth a chyd-drafod, fel rhan o Academi Arweinyddiaeth Gwerth Cyhoeddus.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch dros Gyflog Byw Gwirioneddol a'r Compact Swyddi Cymunedol.
Cysylltwch â Fiona Meldrum, Trefnydd Cymunedol gyda Citizens Cymru Wales i fynd i'r Ffair Gyflogaeth Ailgodi'n Well ar 24 Mawrth 2021:
E: fiona.meldrum@citizenswales.org.uk
Ff: 07391 559 701