Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) Caerdydd yn ennill ‘Arloesiad y Flwyddyn’
19 Mawrth 2021
Mae cynorthwyydd afatar AI y genhedlaeth nesaf a ddatblygwyd trwy KTP Prifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr 'Arloesiad y Flwyddyn' yng Ngwobrau Diwydiant Gofal Iechyd Defnyddwyr (CHi) OTCToolbox 2021.
Cafodd VirtTuri® ei greu ar y cyd gyda phum arbenigwr cyfrifiadureg o Brifysgol Caerdydd dros gyfnod o bedair blynedd mewn partneriaeth ag Orbital Global, ac mae wedi’i hyfforddi i fynd i’r afael ag ystod o gwestiynau cyffredin ynghylch anhwylderau cleifion.
Mae VirtTuri® wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio ar wefan, ap, neu gyfryngau cymdeithasol brand, a gall ateb Cwestiynau Cyffredin sy'n cynnwys anhwylderau penodol, helpu gyda thaflen wybodaeth am gynnyrch i gleifion, a chynorthwyo gyda chamau gweithredu uniongyrchol. O ganlyniad i ddysgu peirianyddol, mae ei gywirdeb yn gwella gyda phob defnydd.
Gwnaeth ei allu i reoli gwyliadwriaeth ffarmacolegol a rhoi gwybod am ddigwyddiadau niweidiol, argraff ar y beirniaid. Fe nodon nhw fod VirtTuri® yn cyd-fynd â chyfyngiadau Covid-19 'lle mae swyddogaethau sgwrsio rhithwir ar-lein yn dod yn fwyfwy angenrheidiol oherwydd cyfyngiadau ar ryngweithio personol ac yn cael eu derbyn yn ehangach gan ddefnyddwyr.'
Dywedodd David Marshall, Athro Golwg Cyfrifiadurol yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Caerdydd: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi chwarae ein rhan yng ngwobr Orbital Global. Gweithiodd ein tîm i ddatblygu’r agwedd afatar gweledol ar VirtTuri®, a integreiddiodd â'r rhyngwyneb iaith naturiol a ddatblygwyd gyda Phrifysgol Essex - cydweithrediad perffaith rhwng diwydiant a’r byd academaidd.
“Datblygwyd yr afatar gweledol drwy recordio fideo (pen siarad sy'n cynnwys yr wyneb a'r ysgwyddau) a sain llafar person (siarad), a dysgu am y cysylltiad rhwng y lleferydd a'r fideo. Yna fe wnaethom gyfosod fideo newydd gan ddefnyddio sain mewnbwn yn unig, a llwyddo i uwchraddio’r fideo yn rhad gan ddefnyddio’r injan iaith naturiol.
“Fe wnaethom hefyd ddarganfod ein bod ni'n gallu efelychu sain siarad realistig o bobl benodol, o destun. Roeddem yn ddigon ffodus i ddenu aelod cyswllt KTP rhagorol. Roedd eu gwaith yn Orbital Global yn rhan annatod o ddatblygu’r syniad mewn cydweithrediad â’r tîm.”
Yn ystod y prosiect, rhoddodd gysylltiadau gwasanaeth iechyd a diwydiant gofal iechyd helaeth Orbital Global adborth i ddatblygu'r dechnoleg.
Dywedodd Peter Brady, prif weithredwr Orbital Global: 'Rydym yn hynod falch o VirtTuri® ac rydym yn gwybod ei fod yn perfformio'n wych. Mae wedi cael ei fabwysiadu a'i brofi'n drylwyr gan frandiau gofal iechyd defnyddwyr blaenllaw, Sudocrem a Infacol. Mae'r dechnoleg bellach yn barod i'w chyflwyno'n helaeth i ddefnyddwyr y diwydiant gofal iechyd, sy'n hynod gyffrous.
'Deallusrwydd artiffisial yw un o dechnolegau pwysicaf yr unfed ganrif ar hugain. Mae eisoes yn effeithio ar ein bywydau bob dydd a bydd yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn arloesi’n barhaus ac yn bwriadu gwella VirtTuri hyd yn oed ymhellach, gan ddatblygu cydran afatar gweledol dan batent nes ymlaen eleni.'
Cafodd VirtTuri ei arddangos yng Ngŵyl agoriadol AI (Deallusrwydd Artiffisial) yn gynharach eleni.