Cofio'r rhai a fu farw
19 Mawrth 2021
Bydd Prif Adeilad y Brifysgol yn goleuo’n felyn (dydd Mawrth 23 Mawrth) er cof am y rhai sydd wedi marw o COVID-19.
Fel rhan o ddiwrnod myfyrio cenedlaethol, bydd golau melyn yn cael ei daflu ar dirnodau ac adeiladau allweddol ledled y wlad fel arwydd o barch ac i gofio’r rhai sydd wedi marw, gan gynnig cefnogaeth i'r teuluoedd a'r ffrindiau sy'n eu galaru.
Mae pob rhan o gymuned y Brifysgol wedi’i heffeithio ac mae nifer o gydweithwyr wedi colli teulu a ffrindiau i COVID-19.
Dewiswyd 23 Mawrth 2021 gan ei fod yn nodi blwyddyn ers dechrau’r cyfnod clo cyntaf yn y DU.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Mae gormod o bobl wedi ein gadael cyn eu hamser ers dechrau’r pandemig. Yn anffodus, rydym yn gwybod bod hyn yn cynnwys aelodau o staff a'u teuluoedd, yn ogystal ag aelodau o gymuned ehangach y Brifysgol.
“Mae teulu a ffrindiau’n galaru o dan amgylchiadau anodd dros ben. Wrth i ni ymuno â phobl ledled Cymru a thaflu golau melyn ar un o'n hadeiladau, rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn yn ymgais i ddangos ein bod yn cydymdeimlo ag unrhyw un sydd wedi colli rhywun."
Dewiswyd y lliw melyn oherwydd bod y galon felen wedi dod yn symbol o gariad a cholled yn ystod y pandemig.
Mae dewis y Prif Adeilad yn benderfyniad arbennig o emosiynol oherwydd teulu aelod o staff fu’n gweithio yno wnaeth y cais i’w oleuo.
Bu Robert Ashton, uwch-dechnegydd labordy yn yr Ysgol Cemeg, yn gweithio i'r Brifysgol ers dros 30 mlynedd. Bu farw ym mis Ebrill y llynedd ar ôl dal COVID-19.
Dywedodd yr Athro Riordan: “Pan oeddem yn ystyried goleuo’r Prif Adeilad, roedd y teulu Ashton yn awyddus i gymryd rhan.
“Dyma ffordd fach i ni ddangos ein parch at y bobl sydd wedi colli anwyliaid a diolch i'r sawl aelod o staff a’r nifer o fyfyrwyr a ymunodd â rheng flaen y GIG i helpu i achub eraill.
“Rydyn ni’n gwybod bod yna amseroedd anodd o’n blaenau ac yn anffodus bydd mwy o fywydau’n cael eu colli, ond rydyn ni’n gymuned wydn, a byddwn yn dod trwy hyn trwy barhau i gefnogi ein gilydd.”