Diwrnod Dŵr y Byd 2021: Cydnabod gwerth dŵr i bobl ac ecosystemau
22 Mawrth 2021
Ar gyfer Diwrnod Dŵr y Byd eleni, bydd ein hymchwilwyr cyswllt yn dweud rhagor wrthym ni am werth dŵr iddyn nhw, yn bersonol ac ar gyfer eu hymchwil, a phwysigrwydd diogelu’r adnodd gwerthfawr hwn.
Bob blwyddyn, mae Diwrnod Dŵr y Byd yn gyfle i gydnabod dŵr a’i fuddion i bobl, i ecosystemau ac i’r amgylchedd. Mae thema eleni, Gwerthfawrogi Dŵr, yn ein hatgoffa am bwysigrwydd rhoi sylw i her fawr rheoli dŵr mewn modd cynaliadwy yn lleol ac ar draws y byd.
Heddiw, bydd rhai o’n hymchwilwyr cyswllt yn rhannu gyda ni beth mae dŵr yn ei olygu iddyn nhw yn bersonol ac yng nghyd-destun eu gwaith ymchwil, gan amlygu gwerth yr adnodd hwn i bawb ohonom. Cipolwg yn unig ar yr amrywiaeth o arbenigedd sy’n rhan o’r Sefydliad a geir yn yr ychydig leisiau a amlygir yn y darn hwn. Mae ein themâu ymchwil, sy’n cysylltu ymchwilwyr a myfyrwyr PhD o wahanol ysgolion, yn adlewyrchu’r ystod ehangach o wybodaeth a safbwyntiau a geir yn y Sefydliad. Mae’r themâu hyn yn caniatáu ar gyfer cymysgedd o brofiadau ac yn meithrin gweithio ar y cyd er mwyn cael hyd i’r atebion rhyngddisgyblaeth sy’n angenrheidiol i ymdrin â heriau dŵr yn awr ac yn y dyfodol.
Deall effaith y newid yn yr hinsawdd ar adnoddau dŵr
Mae Michael Singer, Dirprwy Gyfarwyddwr y Sefydliad, yn ein hatgoffa pa mor fregus yw adnoddau dŵr yn wyneb y newid yn yr hinsawdd. ‘Yr hinsawdd sy’n rheoli presenoldeb ac absenoldeb dŵr ar wyneb y Ddaear neu’n agos ato, ac mae’n gallu creu peryglon rhanbarthol fel llifogydd a sychder. Mae rhagolygon rhanbarthol o ran yr hinsawdd yn hanfodol er mwyn gwneud penderfyniadau ynghylch sut mae ymdrin â pheryglon cysylltiedig â dŵr a’u risgiau i gymdeithas.
Mae gwledydd yn Horn Affrica yn cynnwys tiroedd sych, lle mae sychder eithafol yn bla, gan greu prinder dŵr ac ansicrwydd bwyd, fel bod angen cymorth bwyd a chymorth dŵr yn aml yn yr ardaloedd gwledig. Gall tymhorau dilynol ddod â llifogydd, gorlifo, a heidiau o locustiaid.
Mae Samuel Rowley, myfyriwr PhD o Ganolfan Hyfforddiant Doethurol WISE, yn cydnabod nad oes gennym imiwnedd rhag problemau dŵr yn y Deyrnas Unedig: ‘Mae dŵr yn hollbwysig i bawb ohonom, ond gall hefyd achosi perygl difrifol o dan yr amgylchiadau anghywir. Mae llifogydd yn broblem fyd-eang fawr sy’n achosi biliynau o ddoleri o ddifrod ar draws y byd bob blwyddyn. Mae’n hanfodol edrych ar effaith datblygu trefol ar lifogydd a newidiadau ym mhatrymau’r tywydd yn sgîl newid yn yr hinsawdd, dramor ac yn y Deyrnas Unedig.’
Dysgu gwerthfawrogi dŵr
Er gwaethaf cred gyffredinol, mae’r Deyrnas Unedig hefyd yn wynebu heriau dŵr sy’n galw am sefydlu systemau dŵr cydnerth a chwestiynu ein canfyddiad presennol o argaeledd dŵr yn y wlad.
Mae Adrian Healy, Cymrawd Arweinwyr y Dyfodol, yn canolbwyntio ar wydnwch cymdeithasau yn wyneb gwahanol heriau, gan gynnwys prinder dŵr. Mae e’n dweud: ‘Sylfaen cydnerthedd tymor hir ein trefi, ein dinasoedd a’n cymdeithasau yw sut rydym ni’n dewis cyrchu dŵr. Mae’r dewisiadau a wnawn yn dweud llawer am sut rydym ni’n gwerthfawrogi dŵr, nid yn unig fel ffynhonnell cyflenwadau dŵr, ond hefyd o ran ei arwyddocâd amgylcheddol a chynhenid ehangach. Ond pwy sy’n gwneud y dewisiadau hyn a phwy sy’n cael penderfynu ynghylch gwerth dŵr ar gyfer gwahanol ddefnyddiau?
Rwyf wedi dod yn ymwybodol iawn o sut rydym ni yn y Deyrnas Unedig yn tueddu i gymryd mynediad at ein cyflenwadau dŵr yn ganiataol. Ac eto, mae ein galw am ddŵr gymaint fel bod trefi a dinasoedd yn Lloegr yn debygol o brofi prinder dŵr yn rheolaidd yn y dyfodol. Bydd sut rydym ni’n dewis ymateb i’r galw cynyddol hwn yn bwrw goleuni ar y gwerth cymharol rydym ni’n ei roi ar y ffurfiau gwahanol niferus sydd i ddŵr.
Mae un peth yn sicr. Ni ellir mesur gwerth dŵr i’n cymdeithas yn ôl ei gost economaidd.
Ychwanega’r Swyddog Cyfathrebu Ymchwil, Julia Terlet: ‘Mae’r dŵr sy’n llifo trwy ein pibau a’r broses o sicrhau ei fod yn cyrraedd ein tapiau yn anweladwy, sy’n gallu ein datgysylltu oddi wrth ein defnydd ohono. Yn ystod y cyfnod clo, fe wnaethon ni sylweddoli’r rhan ganolog mae dŵr yn ei chwarae o ran bodloni ein hanghenion hanfodol, ond hefyd o ran gwella ein llesiant. Fodd bynnag, mae angen trosi’r modd rydym ni’n gwerthfawrogi dŵr yn ymddygiad arbed dŵr yn ein bywyd pob dydd, ac mae’r newid yn ein ffordd o fyw yn golygu bod ymwybyddiaeth o’n harferion defnydd yn fwy hanfodol fyth.'
Ystyried effaith gudd ein defnydd o ddŵr
Mae ein defnydd o ddŵr yn mynd y tu hwnt i’r dŵr rydym ni’n ei yfed ac yn cynnwys y dŵr sydd wedi’i fewnblannu yn y cynnyrch rydym ni’n eu defnyddio. Mae adlunio’r gwerth a roddwn ar ddŵr hefyd yn awgrymu ein bod yn deall ein hôl troed yng nghyswllt dŵr. Yn ôl Max Munday o Ysgol Busnes Caerdydd: ‘Rwy’n credu bod Diwrnod Dŵr y Byd eleni yn gyfle da i hysbysu gwahanol grwpiau ynghylch effeithiau cudd ein patrymau defnydd ar adnoddau dŵr ar draws y byd. Bu hanes hir o ddŵr yn cael ei symud rhwng rhanbarthau’r Deyrnas Unedig. Tra bod goblygiadau symudiadau dŵr ffisegol o’r fath yn sbarduno digon o sylwadau gan grwpiau mor amrywiol â lobïwyr amgylcheddol a gwleidyddion, tueddwyd i roi llawer llai o sylw i’r adnoddau dŵr croyw a ymgorfforir yn ein masnach.
Mae ein defnydd o nwyddau a fewnforiwyd megis dillad, ffrwythau, llysiau a choffi yn golygu bod gennym ni ôl troed canfyddadwy dramor. Mae cynhyrchu rhai o’r nwyddau hyn yn gwneud defnydd eithriadol ddwys o ddŵr.
Y nod yn y tymor hwy yw canfod ‘mannau trafferthus’ o ran defnyddio dŵr dramor sy’n gysylltiedig â phatrymau defnydd domestig, ac yn sgîl hynny ddull o roi gwybod i ddefnyddwyr am effeithiau mwy cuddiedig ein patrymau defnydd.’
Yr argyfwng cudd mewn ecosystemau dŵr croyw
Ym marn yr ecolegydd dŵr croyw, Steve Ormerod, mae llawer o’r problemau yn ein perthynas â dŵr yn deillio o fethiant i werthfawrogi gwerth cynhenid ecosystemau dŵr croyw, eu pwysigrwydd o safbwynt amrywiaeth biolegol a’r manteision a gollir pan gaiff afonydd a llynnoedd eu diraddio trwy eu hecsbloetio’n ormodol. Mae’n dweud: ‘Mae ein gweithredoedd yn aml yn adlewyrchu rhagdybiaeth bod afonydd a llynnoedd yn bodoli, er enghraifft, yn bennaf fel ffynonellau dŵr yfed, ar gyfer dyfrhau, neu ar gyfer gwaredu a gwanedu gwastraff. Neu mae rhagdybiaeth bod modd draenio gwlyptir ar gyfer datblygu, ehangu trefol a throsi i amaeth heb gydnabod y canlyniadau’n llawn.
Mae cyflawni’r gweithredoedd hyn ar draws y byd, o dan alw cynyddol gan boblogaeth ddynol sy’n tyfu rhyw 80 miliwn y flwyddyn yn fyd-eang, wedi arwain at broblemau cyffredinol gyda llygredd, gordyniad, amharu difrifol ar gynefinoedd, effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a phroblemau dwys oherwydd rhywogaethau anfrodol ymwthiol. O ganlyniad, mae ecosystemau dŵr croyw yn colli bioamrywiaeth yn gyflymach nag unrhyw amgylcheddau eraill ar y Ddaear – yn arbennig yn achos anifeiliaid dŵr croyw mwy o faint.
Nid yn unig mae hynny’n drychineb sy’n dod i’r amlwg ynddi’i hun, ond mae hefyd yn adlewyrchu diraddio yn safon yr adnoddau y mae ein llesiant ninnau’n dibynnu arnynt: argaeledd dŵr diogel, amddiffyn rhag llifogydd, sefydlogi’r hinsawdd, cynhyrchu pysgod, mynediad at adnoddau genetig, gwerth therapiwtig dod i gysylltiad ag amgylcheddau dŵr croyw naturiol.’
Yn ôl y myfyriwr PhD Fiona Joyce, o Ganolfan Hyfforddiant Doethurol GW4 Fresh: ‘Dŵr sy’n cysylltu’r holl fywyd sydd ar y ddaear. Mae ecosystemau dŵr croyw yn hanfodol ar gyfer cylchdroi ynni, maetholion a dŵr glân, sy’n digwydd allan o’r golwg o dan yr wyneb. Mae’r bioamrywiaeth sy’n gyrru’r prosesau hyn o dan fygythiad yn sgîl newidiadau yn yr hinsawdd a defnydd tir, y mae dyfroedd croyw yn rhan annatod ohonynt. Gallai ffactorau graddfa leol megis lefelau llystyfiant dalgylch chwarae rhan allweddol yn hybu sefydlogrwydd ecolegol dŵr croyw wrth i’r hinsawdd newid.’
Fel Sefydliad, mae gwerthfawrogi dŵr yn golygu cyfuno gwahanol werthoedd dŵr ein hymchwilwyr cysylltiedig a’n partneriaid.
Rydym ni’n sicrhau bod ein gweledigaeth yn cael ei throsglwyddo trwy hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr dŵr mewn modd rhyngddisgyblaeth. Ein gobaith yw y byddan nhw’n parhau i gydweithio yn y dyfodol i roi sylw i her fawr dŵr o safbwynt pobl a’r ecosystem.