Cynghorau ceidwadol yn Lloegr yn fwy tebygol o dorri cymorth ariannol i bobl ar gyflogau isel, yn ôl astudiaeth
17 Mawrth 2021
Mae rhoi rhagor o lais i gynghorau yn Lloegr o ran sut caiff budd-daliadau eu dyrannu wedi arwain at doriadau sylweddol a chymorth lles tameidiog, yn ôl ymchwil.
Dadansoddodd yr astudiaeth, dan arweiniad Dr Rod Hick o Brifysgol Caerdydd, ddata tri chynllun diogelwch lleol gafodd eu trosglwyddo neu eu gwella ar ôl Deddf Diwygio Lles 2012. O fis Ebrill 2013, bwriad Cymorth Lles Lleol, cynlluniau Cymorth Trethi Cynghorau a Thaliadau Disgresiwn at Gostau Tai (DHP) oedd galluogi awdurdodau lleol i fodloni anghenion, gwrthbwyso llymder oedd yn cael ei weithredu mewn mannau eraill gan y llywodraeth, a miniogi effeithlonrwydd llywodraeth leol.
Ond mae'r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Sociological Research Online, yn dangos bod 80% o gynlluniau Cymorth Lles Lleol, sy'n disodli taliadau'r Gronfa Gymdeithasol ar Ddisgresiwn, wedi profi toriadau cyllidebol o fwy na hanner ers cael eu cyflwyno.
Mae mwy na 80% o gynghorau wedi gweithredu lleiafswm taliad i breswylwyr oed gwaith sy'n derbyn Cymorth y Dreth Gyngor, wnaeth ddisodli'r Budd-dal Treth Gyngor oedd yn cael ei reoli'n ganolog, gyda'r lleiafswm taliadau'n tyfu dros amser. Yn flaenorol, doedd dim angen i aelwydydd cymwys dalu'r bil o gwbl.
Er bod yr astudiaeth wedi canfod bod cyfran dyraniadau DHP cynghorau wedi bod yn fwy sefydlog, mae cyllidebau cyffredinol y llywodraeth ganolog wedi lleihau, sy'n golygu y bu gostyngiadau sylweddol o hyd.
Er bod cynghorau o bob cyfansoddiad gwleidyddol wedi gwneud toriadau sylweddol i'w cynlluniau, mae'r dadansoddiad yn datgelu bod cynghorau a arweiniwyd gan y Ceidwadwyr yn fwy tebygol na'r rhai a arweiniwyd gan y Blaid Lafur i wneud toriadau ar y tri math o fudd-daliadau, hyd yn oed ar ôl ystyried ffactorau eraill.
Dywedodd Dr Hick, sydd wedi'i leoli yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd: “Dadleuodd y llywodraeth y tri chynllun lles hyn i leihau'r toriadau a wnaed i daliadau nawdd cymdeithasol cenedlaethol. Ond mae'r ymchwil hon yn dangos bod lleoli'r taliadau hyn, y mae dinasyddion ar incwm isel yn dibynnu arnynt yn aml, wedi profi i fod yn fecanwaith eithaf llwyddiannus ar gyfer gweithredu llymder.
“Mae'r toriadau wedi'u cysgodi i raddau helaeth o olwg y cyhoedd, gyda gofynion adrodd cyfyngedig wedi'u gosod ar awdurdodau mewn perthynas â dyluniad eu cynlluniau Cymorth Lles Lleol a Chymorth Treth Gyngor. Mae angen cyhoeddi gwybodaeth am y cynlluniau pwysig hyn yn safonol. Mae ein canfyddiadau yn cwestiynu rhagdybiaethau y bydd darpariaeth leol yn fwy ymatebol ac effeithlon, yn enwedig wrth weithio o fewn cyd-destun toriadau sylweddol i gyllidebau llywodraeth leol.”
Mae canlyniadau'r astudiaeth yn dangos bod awdurdodau lleol â lefelau uwch o amddifadedd yn debygol o wneud toriadau mwy i gyllidebau eu cynlluniau Cymorth Lles Lleol a chyflwyno isafswm taliadau uwch mewn perthynas â'u cynlluniau Cymorth Treth Gyngor.
Roedd ardaloedd â chymarebau dibyniaeth oedran uwch hefyd yn gysylltiedig â Chynghorau yn gwneud toriadau mwy i'w cyllidebau cynllun Cymorth Lles Lleol ac yn gwario cyfrannau is o'u dyfarniadau DHP at y diben hwnnw, a oedd yn gyson â'r rhagdybiaeth bod y cynghorau hyn, gyda gofynion uwch ar gyfer gofal cymdeithasol, yn fwy tebygol o dorri'r cynlluniau oed gweithio hyn
Dywedodd Dr Hick: “Yn wyneb llai o gyllidebau gan lywodraeth ganolog, mae awdurdodau lleol wedi gorfod gwneud dewisiadau llym ynglŷn â sut maen nhw'n dyrannu'r cronfeydd hynny. Mae ein hymchwil yn dangos sut mae darpariaeth nawdd cymdeithasol lleol yn amrywio mewn ffyrdd pwysig yn ôl cyfansoddiad gwleidyddol llywodraeth leol a chan yr heriau demograffig ac economaidd sy'n wynebu'r gweinyddiaethau hyn. Mae'r dulliau amrywiol rhwng cynghorau yn dangos bod gwleidyddiaeth yn parhau i fod yn bosibl hyd yn oed yn yr amgylcheddau polisi mwyaf caled."
Mae'r dadansoddiad sy'n cyfuno ffigurau o 322 o gynghorau, yn seiliedig ar gyfres ddata newydd, sy'n cynnwys canlyniadau ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a wnaed gan Church Action on Poverty a'r Sefydliad Polisi Newydd, yn ogystal â data sydd ar gael i'r cyhoedd ar Daliadau Disgresiwn at Gostau Tai a nodweddion awdurdodau lleol.
Mae cynlluniau Cymorth Lles Lleol yn darparu taliadau i breswylwyr sy'n byw ar incwm isel sy'n wynebu anghenion tymor byr brys - er enghraifft, i ddisodli peiriant hanfodol sydd wedi torri.
Mae cynlluniau Cymorth Treth Gyngor yn darparu eithriadau ar daliadau Treth Gyngor i rai preswylwyr sy'n byw ar incwm isel.
Mae taliadau DHP yn daliadau a ddarperir gan awdurdodau lleol a wneir i dderbynwyr Budd-dal Tai, i'w galluogi i wneud taliadau rhent. Maent yn daliadau rheolaidd, yn hytrach nag unwaith ac am byth, er eu bod fel arfer â chyfyngiad amser.