Bydwraig ac addysgwr y mae ei gwaith wedi cael 'effaith fyd-eang' yn derbyn anrhydedd cenedlaethol
16 Mawrth 2021
Mae bydwraig o Gymru wedi derbyn Cymrodoriaeth fawreddog gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) am ei gwaith ysbrydoledig.
Derbyniodd Grace Thomas, Darllenydd mewn Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n arwain y rhaglen radd bydwreigiaeth ei gwobr yng Nghynhadledd Addysg rithwir flynyddol RCM heddiw.
Dyfarnwyd y Gymrodoriaeth am ei chyfraniad i fydwreigiaeth mewn gyrfa dros 30 mlynedd, ond yn arbennig am ei gwaith cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae ei gyrfa wedi mynd â hi o rolau uwch fydwreigiaeth rheng flaen yn y GIG i rolau sydd ag effaith fyd-eang. Ynghyd â’i rolau addysgol yn y Brifysgol a’r DU gyfan, mae Grace hefyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Cydweithio Sefydliad Iechyd y Byd Prifysgol Caerdydd ar gyfer Datblygu Bydwreigiaeth, un o ddim ond dwy ganolfan o’r fath yn y byd.
“Rwyf mor falch o gael yr anrhydedd hon. Rwyf wedi cael y fraint o fod yn fydwraig ers 32 mlynedd, mewn sawl rôl, a nawr rwy'n ffodus fy mod ym maes addysg - yn arwain ac yn cefnogi'r genhedlaeth nesaf o fydwragedd yn eu dysgu,” meddai Ms Thomas.
“Fy ffocws yw darparu’r gofal tosturiol, parchus a diogel gorau posibl i fenywod, babanod newydd-anedig a’u teuluoedd. Mae'r dystiolaeth yn glir, bod bydwragedd gwybodus, medrus, gofalgar a sensitif yn gwneud gwahaniaeth i ganlyniadau genedigaeth.
“Yn fyd-eang mae hyn yn golygu achub bywydau, pan fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth â menywod ac mewn timau amlddisgyblaethol gyda gweithwyr iechyd proffesiynol eraill fel meddygon. Mae'r wobr hon yn arbennig iawn ac edrychaf ymlaen at weithio ochr yn ochr â'r Cymrodyr RCM eraill i hyrwyddo ein proffesiwn."
Dywedodd Gill Walton, Prif Weithredwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd: “I feddwl ei bod hi'n wlad fach, mae Cymru yn cael effaith enfawr ar fydwreigiaeth fyd-eang, ac mae gwybodaeth, cyfraniad ac ymdrechion Grace yn gyfrifol am lawer o hyn.
“Mae ei chyfraniadau yn agosach at adref hefyd wedi bod yn sylweddol wrth wella’r gofal y mae menywod yn ei dderbyn, yn addysg bydwragedd, hyrwyddo cydraddoldeb ac mewn llawer o feysydd eraill, gormod i’w crybwyll. Ni allai hyn fynd at rywun mwy haeddiannol a hoffwn longyfarch Grace ar y gydnabyddiaeth hon ac am y gwaith anhygoel y mae'n ei wneud.”
Ymhlith cyflawniadau niferus Ms Thomas roedd arwain grŵp Cymru gyfan i gyhoeddi'r Canllawiau Canolfannau Geni cenedlaethol cyntaf yn 2007. Cafodd hyn effaith sylweddol ar ofal i ferched sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth ac mae'n parhau i fod yn ganolog i strategaeth famolaeth Cymru.
Mae rhaglen Prifysgol Caerdydd y mae'n ei harwain yr un gorau yn y DU. Hi oedd cyd-sylfaenydd ac arweinydd y grŵp cyntaf yng Nghymru i gyd a oedd yn edrych ar Iechyd Meddwl Amenedigol.
Mae galw rhyngwladol amdani, ac mae ei gwaith wedi ei gweld yn teithio i Namibia, Oman, i Ddwyrain Ewrop i wneud gwaith WHO, ac fel siaradwr mewn llawer o gynadleddau rhyngwladol, gan gynnwys Awstralia, Canada a Sweden.