Hysbysu Senedd y Deyrnas Unedig ynghylch cyflwr afonydd
15 Mawrth 2021
Bu’r Athro Steve Ormerod yn gweithredu fel prif dyst i Senedd y Deyrnas Unedig ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol i ansawdd dŵr afonydd.
Mae afonydd Prydain mewn cyflwr cyffredinol wael o’u cymharu â’r targedau ‘statws ecolegol da’ a bennwyd gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr Ewropeaidd, a’r perfformiad yn Lloegr yw’r gwaethaf yn y Deyrnas Unedig. Gan gydnabod rôl llygredd fel problem allweddol, lansiodd Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol y Senedd ymchwiliad yn ddiweddar i ansawdd dŵr afonydd Lloegr.
Gwahoddodd y Pwyllgor sefydliadau ac arbenigwyr i gynnig argymhellion ar gyfer gwella ansawdd dŵr ar draws y wlad, gan ganolbwyntio’n benodol ar lygredd carthion heb eu trin, dŵr ffo trefol a dŵr yn gorlifo o garthffosydd cyfun. Roedd ffocws hefyd ar lygredd plastig a halogwyr.
Steve Ormerod, Athro Ecoleg yn Ysgol y Biowyddorau a Chyfarwyddwr Cynorthwyol y Sefydliad Ymchwil Dŵr, oedd un o’r prif dystion ar Ddiwrnod 1 yr ymchwiliad, a rhoddodd drosolwg o’r tueddiadau cyferbyniol mewn afonydd trefol a gwledig, yn ogystal â’r bygythiadau i fioamrywiaeth afonydd.
Er bod anifeiliaid dŵr glân wedi ailgartrefu mewn afonydd trefol sy’n adfer wedi llygredd glanweithdra, mae problemau newydd yn codi, er enghraifft yn sgîl cynnyrch fferyllol, meddyginaethau milfeddygol a phlastig.
Aeth Ormerod ymlaen:
‘Rydym ni’n dal yn y cyfnodau cynnar o lunio darlun cyfan o grynodiad, llif a symudiad plastig mewn dŵr croyw, ond mae’r dystiolaeth yn dangos bod microblastig ym mhob man, hyd at hanner miliwn o ronynnau am bob metr sgwâr o wely’r afon. Mae hynny lawer gwaith yn fwy na niferoedd y pryfed yn yr un amgylcheddau’.
Bu gwaith ymchwil yr Athro Ormerod ar blastig a llygredd microblastig, ac ar esblygiad ffawna macroinfertebratau Cymru a Lloegr, a wnaed ar y cyd ag ymchwilwyr cyswllt eraill o’r Sefydliad, hefyd yn llywio tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Buglife, CHEM Trust a Natural England.
Roedd y sesiwn yn gyfle i drafod datblygiad dangosyddion ansawdd dŵr newydd o dan Fil yr Amgylchedd sydd ar ddod, gan sbarduno trafodaeth ynghylch a allai swyddogaethau ecosystem a gwasanaethau ecosystem helpu i ddiffinio’r targedau newydd hyn. Bu’r trafodaethau ynghylch effeithiolrwydd systemau monitro ansawdd dŵr cyfredol hefyd yn pwysleisio’r angen am wneud defnydd gwell o’r data sydd eisoes yn bodoli, a datblygu dull cydweithredol o gasglu data ymhlith rheoleiddwyr, cwmnïau dŵr a gwyddonwyr dinesig.
‘Mae’r rôl i Brifysgolion – a Sefydliadau fel ninnau – yn glir’. Dyna oedd casgliad Ormerod.
Mae’r sesiwn lawn ar gael ar wefan Senedd y Deyrnas Unedig.