Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr Graddedig, Alice Brownfield yn ennill Gwobr MJ Long

15 Mawrth 2021

Alice Brownfield
Alice Brownfield

Mae’r Myfyriwr Graddedig o WSA a Chyfarwyddwr Cyswllt Peter Barber Architects wedi cyhoeddi enillydd Gwobr MJ Long am Ragoriaeth mewn Ymarfer, yn rhan o Wobrau W AJ/AR 2021.

Cyflwynwyd y wobr, a enwyd er cof pensaer, darlithydd ac ysgrifennwr ysbrydoledig, Mary Jane (MJ) Long, mewn digwyddiad rhithwir ddydd Mawrth 9 Mawrth 2021. Clodforwyd hi am ei gwaith ‘anhygoel’ ar Kiln Place, prosiect tai mewnlewni lleol a gefnogir gan awdurdod, ar un o ystadau cyngor Llundain.

Gan ychwanegu’n ofalus at yr ystâd dai o’r 1960au yn Camden, gweithiodd Alice a’r tîm gyda’r cyngor i greu 15 cartref newydd: saith ar osod i denantiaid cyngor ac wyth wedi’u rhoi ar werth yn breifat, gyda gwarged o’r gwerthiant yn mynd i dalu cost cartrefi cyngor a gwelliannau ystâd.

Kiln Place, Camden
Kiln Place, Camden, London

Creodd y tîm, dan arweiniad Alice, strydoedd newydd, isel, wedi’u graddio’n agos, er mwyn gwella cysylltedd ar draws yr ystadau, gan oruchwylio mannau cyhoeddus a diogelwch.  Maent wedi cadw’r rhan fwyaf o gartrefi presennol ar yr ystadau, gan alluogi preswylwyr a’u cymuned sefydledig i aros, drwy adnewyddu cartrefi annwyl i gynnig gwelliannau angenrheidiol iawn ar gyfer gwresogi, plymio a draenio, yn ogystal â chreu cyfres o strydoedd newydd hardd drwy’r ystadau.

Pan ofynnwyd iddi am y wobr, dywedodd Alice:

Anrhydedd mawr yw derbyn Gwobr MJ Long am Ragoriaeth mewn Ymarfer 2021, a chydnabod fy ngwaith mewn tai yn Peter Barber Architects a’m heiriolaeth ehangach dros gydraddoldeb yn ein proffesiwn a dylunio’r amgylchedd adeiledig.

Gwnaeth fy amser yn y WSA feithrin diddordeb dwfn yn swyddogaeth foesegol pensaernïaeth, agweddau cymdeithasol ar ddylunio a asiantaeth y pensaer.   Rwy’n ddiolchgar iawn am fod wedi cael modelau rôl benywaidd anhygoel fel tiwtoriaid, a phenaethiaid blwyddyn hefyd. Rwy’n ddiolchar am gefnogaeth barhaus llawer o staff yn WSA sy’n parhau i’m hysbrydoli cymaint o flynyddoedd yn ddiweddarach.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr holl raglenni sydd ar gael yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, gweler ein tudalennau am gyrsiau’r Ysgol.

Rhannu’r stori hon