Gweinidog yn cydnabod gwaith Canolfan Wolfson
2 Rhagfyr 2020
Mae ymchwil o Ganolfan Wolfson newydd sbon Prifysgol Caerdydd ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl ifanc wedi amlygu bod 80% o broblemau iechyd meddwl yn dechrau'n ifanc.
Bydd y Ganolfan Wolfson, canolfan ymchwil gyda ffocws a thîm rhyngddisgyblaethol o'r meysydd gofal iechyd, addysg ac academaidd, yn canolbwyntio ar leihau gorbryder ac iselder ymysg pobl ifanc.
Mae ymchwil hanfodol y ganolfan sydd newydd ei hagor eisoes wedi cael ei hamlygu gan Weinidog Iechyd Meddwl a Lles Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, a ailadroddodd wrth siarad yn y Senedd y ganran uchel bryderus o bobl y gall eu problemau iechyd meddwl ddechrau pan fyddant yn blant neu yn ystod glasoed.
Aeth y Gweinidog ymlaen i ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio blaenoriaethu ymyrraeth a chefnogaeth gynnar wrth helpu plant a phobl ifanc yng Nghymru sy'n wynebu anawsterau â'u lles meddyliol.
Nod Canolfan Wolfson yw datblygu a gwerthuso ymyriadau newydd, gwella iechyd meddwl a lles tymor hir y boblogaeth a chydweithio ar draws sectorau i gael effaith ar bolisi ac arfer a fydd yn gwella sut mae pobl ifanc yng Nghymru yn cael eu cefnogi.