Partneriaeth Caerdydd ar gyfer cydymffurfiaeth adeiladu
12 Mawrth 2021
Mae Prifysgol Caerdydd a'r Hwb Arloesi Adeiladu yn ymuno i ddarparu 'ecosystem ddigidol' newydd a fydd yn helpu cwmnïau adeiladu i lywio tirwedd reoleiddio gymhleth y DU.
Bydd y system yn dwyn ynghyd offer a ffynonellau data y mae cwmnïau'n eu defnyddio i gydymffurfio â safonau rheoleiddio, gan helpu i symleiddio a chyflymu cydymffurfiad wrth leihau costau a beichiau gweinyddol.
Nod Rhwydwaith Cydymffurfiaeth Ddigidol (D-COM) yw digideiddio prosesau cydymffurfio i ddod â buddion eang, gan gynnwys mwy o sicrwydd bod yr holl ofynion rheoliadol yn cael eu bodloni, mwy o dryloywder trwy gasglu canolog, a gwell archwiliadwyedd.
Dywedodd Dr Tom Beach, Darllenydd ym maes Gwybodeg Adeiladu, yr Ysgol Beirianneg: “Fel arweinydd rhwydwaith D-COM, mae Prifysgol Caerdydd wedi arwain gwaith yn cynnig gweledigaeth ar gyfer ecosystem cydymffurfio digidol agored newydd a all integreiddio rheoliadau, aseswyr a thimau prosiect ynghyd â’r amrywiaeth eang o offer meddalwedd sydd eu hangen i weithredu prosesau cydymffurfio yn yr amgylchedd adeiledig modern.
“Credwn y gall ein dull gweithredu sicrhau prosesau cydymffurfio archwiliadwy, yn ogystal â lleihau baich gweinyddol a chynyddu cynhyrchiant. Ar ben hynny, rydym yn rhagweld y bydd yr ecosystem agored hon yn paratoi'r ffordd ar gyfer datblygu cenhedlaeth newydd o gydymffurfio.”
Mae'r ecosystem ddigidol yn adeiladu ar sail gwaith Rhwydwaith D-COM yn 2018 ac yn cefnogi'Map at Adferiad' Cyngor yr Arweinyddiaeth Adeiladu trwy ddatblygu teclyn digidol sy'n cynorthwyo i ddarparu adeiladau o ansawdd uchel sy'n perfformio'n well.
Mae'r ecosystem hefyd yn mynd i'r afael â'r angen a nodwyd gan Grŵp Arbenigol y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar Strwythur Canllawiau i'r Rheoliadau Adeiladu ar gyfer dull mwy “cyfannol sy'n seiliedig ar systemau ac sy'n caniatáu mwy o groesgyfeirio rhwng gofynion technegol a'r gofynion deddfwriaethol ehangach.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Rhaglen yr Hwb Arloesi Adeiladu, Keith Waller:
“Trwy ymuno â Phrifysgol Caerdydd a’i Rhwydwaith D-COM i greu’r ecosystem ddigidol newydd hon, ein nod yw symleiddio’r dirwedd reoleiddio ar gyfer cwmnïau adeiladu, gan yrru lefelau uwch o gydymffurfiaeth a lleihau’r baich gweinyddol ac ariannol sy’n gysylltiedig â methu â chwrdd â rheolau a safonau.”
Ffurfiwyd Rhwydwaith D-COM i yrru'r broses o fabwysiadu digideiddio rheoliadau, gofynion a systemau gwirio cydymffurfiaeth yn yr amgylchedd adeiledig.
Y partneriaid D-COM sy'n gweithio gyda'r brifysgol ar y prosiect yw Process Innovation Factory, AEC3 a Solibri.