Esblygiad creaduriaid "parth cyfnos" yn gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd byd-eang
11 Mawrth 2021
Mae tîm o dan arweiniad gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd, am y tro cyntaf, wedi gallu olrhain datblygiad y cynefin mwyaf ar y Ddaear, a'r un yr ydym yn deall lleiaf amdano.
Mae parth cyfnos y môr yn ymestyn o 200 i 1000 metr o dan yr wyneb.
Mewn astudiaeth newydd a gyhoeddwyd heddiw yn Science, mae'r tîm wedi dangos sut y daeth bywyd yno i sefydlu ac yn gorfod arallgyfeirio, oherwydd y cefnfor yn oeri dros y 15 miliwn o flynyddoedd diwethaf.
Mae'r canfyddiadau newydd yn codi pryderon ynghylch sut y gall yr amrywiaeth o greaduriaid sy'n byw ar y dyfnderoedd hyn ymateb i gefnforoedd yn cynhesu yn y dyfodol.
Mae ystod eang o greaduriaid dirgel yn byw ym mharth cyfnos y cefnfor, gan gynnwys planton, jelïau, cril, môr lawes a physgod.
Mae'n wir drysor cudd o fiomas a bioamrywiaeth sy'n allweddol i iechyd ein cefnforoedd.
Mae bywyd yn y parth cyfnos yn dibynnu ar 'eira morol' - deunydd organig sy'n suddo i lawr o'r wyneb - fel ffynhonnell bwyd.
Yn eu hastudiaeth, defnyddiodd y tîm gregyn ffosil bach a gafwyd o fwd ar waelod y môr i olrhain sut y gwnaeth creaduriaid y môr dwfn newid ac arallgyfeirio dros amser.
“Yn ystod ein hastudiaeth, gwelsom dystiolaeth o rywogaethau yn mudo o’r wyneb i ranbarthau cynyddol ddyfnach y cefnforoedd dros y cyfnod o 15 miliwn o flynyddoedd, oedd yn ddryslyd”, meddai’r palaeontolegydd Dr Flavia Boscolo-Galazzo, un o ddau awdur arweiniol yr astudiaeth.
“Roedd tymheredd y dŵr yn allweddol i’r dirgelwch,” meddai’r awdur arweiniol Dr Katherine Crichton, a ddatblygodd efelychiad model cyfrifiadurol o’r ffordd y datblygodd y cylch carbon morol dros amser. “Mae tu mewn y cefnfor wedi oeri’n sylweddol dros y cyfnod hwn. Cafodd hynny effaith oergell, gan olygu bod yr eira morol sy'n suddo yn cael ei gadw'n hirach ac yn suddo'n ddyfnach, gan gludo bwyd."
“Fe wnaeth oeri’r cefnfor dwfn roi hwb i fywyd a chaniatáu iddo ffynnu ac arallgyfeirio,” parhaodd Dr Flavia Boscolo-Galazzo.
Defnyddiodd y tîm greiddiau dril o fwd môr dwfn o holl gefnforoedd y byd, a adferwyd gan y Rhaglen Ddarganfod Cefnforoedd Rhyngwladol (IODP), i adeiladu hanes cymunedau plancton dros filiynau o flynyddoedd.
Roedd y mwd yn cynnwys plancton ffosil, a ddadansoddodd y tîm i ddatgelu nid yn unig y dyfnderoedd yr oedd y creaduriaid yn byw ynddynt ond hefyd pa mor weithredol yr oedd yr eira morol yn suddo o'u cwmpas.
Roedd y dystiolaeth ffosil hon yn gallu dangos yn glir iawn pa mor ddibynnol yw bywyd ar dymheredd dŵr y môr a sut esblygodd dros amser.
Dywed y tîm fod y canlyniadau'n codi pryder am gefnfor y dyfodol wrth iddo gynhesu o dan bwysau newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang, ac mae bellach yn dilyn hyn gydag ymchwil bellach.
“Mae llawer o’r ffurfiau rhyfeddaf o fywyd i’w cael yn nyfnder y cefnfor gan gynnwys jelïau crib sy’n edrych fel llongau gofod estron a physgod dannedd-mawr hyll. Ond maen nhw hefyd yn hanfodol ar gyfer gweoedd bwyd y cefnfor ”meddai arweinydd y prosiect, yr Athro Paul Pearson, athro ymchwil anrhydeddus yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear ac Amgylcheddol Prifysgol Caerdydd.
“Mae pysgod byw dwfn yn cynrychioli biliwn tunnell o fiomas ac maent yn brif ffynhonnell o fwyd i forfilod a dolffiniaid a hefyd pysgod plymio mawr fel tiwna a physgod cleddyf.”
Arweiniwyd yr ymchwil a ariannwyd gan NERC gan Brifysgol Caerdydd ac mae'n cynnwys ymchwilwyr o Goleg Prifysgol Llundain a Phrifysgol California, Riverside.