Bitcoin dan y chwyddwydr
26 Ionawr 2021
Cronfa Ddata Bitcoin Prifysgol Caerdydd (CUBiD) oedd testun sesiwn arbennig ar Dechnoleg Ariannol yng nghyfres Sesiynau Hyfforddi dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd ar 26 Ionawr 2021.
Dechreuodd y sesiwn gyda chyflwyniad gan y Cadeirydd Arman Eshraghi, Athro Cyllid a Buddsoddi yn Ysgol Busnes Caerdydd a Chyd-gyfarwyddwr Grŵp Ymchwil Fintech Caerdydd.
Yn ogystal ag amlinellu rhai o'r nodau, yr amcanion a'r meysydd diddordeb mewn Technoleg Ariannol yn Ysgol Busnes Caerdydd, eglurodd yr Athro Eshraghi Bitcoin yn gryno.
Yna, dechreuodd Dr Hossein Jahanshahloo, Darlithydd Cyllid yn Ysgol Busnes Caerdydd a chrëwr CUBiD, ei gyflwyniad trwy ehangu ar ragymadrodd yr Athro Eshraghi.
Dechreuodd trwy gymharu systemau cyfriflyfr canolog a dosbarthedig a dangosodd bod trafodion Bitcoin, sy'n enghraifft o'r olaf, yn cael eu trefnu mewn blociau a'u cysylltu gyda'i gilydd yn yr hyn a elwir yn blockchain.
Dywedodd Dr Jahanshahloo: “Yn gryno, set o drafodion yw Bitcoin sydd â chysylltiad cryptograffig â’i gilydd ac sydd wedi’u trefnu’n flociau.
“Yn dechnegol, gallwch ystyried Bitcoin fel casgliad o’r holl drafodion mewn system gaeedig fel banc neu economi,” ychwanegodd.
Ar ôl egluro rhai o egwyddorion sylfaenol technoleg ariannol a chryptoarian fel Bitcoin, aeth Dr Jahanshahloo ymlaen i gyflwyno CUBiD.
Datblygwyd a chrëwyd CUBiD gan Dr Jahanshahloo yn 2020 ac mae'n galluogi mynediad rhwydd at gyfoeth data rhwydwaith Bitcoin mewn fformat strwythuredig y gellir ei ddefnyddio.
Yn ogystal â disgrifio'r ffordd mae CuBiD yn gweithredu, dangosodd Dr Jahanshahloo sut y gellir ei ddefnyddio mewn ymchwil, addysgu a masnachu yn ogystal â'i gymwysiadau rheoliadol a chyfreithiol.
Cyn ymuno â'r Athro Eshraghi a'r rheini oedd yn bresennol am sesiwn holi ac ateb, daeth Dr Jahanshahloo a'r sesiwn i ben gyda rhagor o enghreifftiau o gymhwyso CUBiD ym meysydd diwygio trethi, cyfrifyddu a theori economaidd.
Mae cyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi pobl yn y byd masnachol i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau pwysig diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.
Yn sgil cyfyngiadau symud Llywodraeth Cymru o achos pandemig COVID-19, mae Tîm Addysg Weithredol yr Ysgol yn cynnal y gyfres ar y we.
Os nad oeddech chi’n gallu bod yn bresennol, dyma fideo o'r cyfarfod.