Ewch i’r prif gynnwys

Rhagor o wybodaeth am Mixoplankton yn Wythnos Gwyddoniaeth Prydain 2021

15 Mawrth 2021

Ymchwilydd yn cyflwyno gweminar i fyfyrwyr sy'n hyrwyddo gwyddoniaeth a gynhaliwyd yng Nghymru fel rhan o Wythnos Gwyddoniaeth Prydain.

Wythnos Gwyddoniaeth Prydain yw'r dathliad blynyddol o wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, sy'n cynnwys ystod o ddigwyddiadau difyr ac atyniadol ledled y DU.

Fel rhan o Wythnos Gwyddoniaeth Prydain, mae Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru wedi creu cyfres o fideos gan ymchwilwyr amlwg rhaglen Sêr Cymru ledled Cymru. Mae rhaglen Sêr Cymru yn rhaglen ariannu gwerth miliynau o bunnoedd sy'n dod â thalent wyddonol i swyddi ymchwil yng Nghymru o bob cwr o'r byd.

Nod y fideos sy’n targedu dysgwyr Safon Uwch/UG rhwng 17 a 18 oed yw rhannu’r ymchwil y mae rhai o ymchwilwyr gwyddonol blaenllaw Cymru yn ei ddatblygu.

Gwylio fideo am ymchwil Mixoplankton

Mae Dr Aditee Mitra, Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd, yn cynnal ymchwil yn seiliedig ar mixoplankton. Yn y fideo ymchwil Mixoplankton hwn, mae Aditee yn esbonio'r rôl hanfodol y mae'r organebau bach hyn yn ei chwarae yn ein bywydau bob dydd.

Mae Dr Mitra yn gymrawd ymchwil sy'n arbenigo mewn dynameg systemau modelu mewn eco-ffisioleg plancton. Mae hi'n arwain Grant Cyflymydd Meithrin Gallu Sêr Cymru o'r enw “Byw gyda’r Bwystfil Perffaith; sefydlu MixoHUB, canolfan ragoriaeth ar gyfer ymchwil mixoplankton yng Nghymru”.

Rhannu’r stori hon