Academyddion yn dod i'r casgliad bod 'Pryder ynghylch datganoli' ymhlith pleidleiswyr yn Lloegr yn ysgogi newid yng ngwleidyddiaeth Prydain.
10 Mawrth 2021
Yn ôl astudiaeth, mae hunaniaeth Saesnig wleidyddol yn trawsnewid Prydain a gwleidyddiaeth Prydain.
Mae'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a'r Athro Ailsa Henderson o Brifysgol Caeredin wedi treulio 10 mlynedd yn archwilio agweddau gwleidyddol yn Lloegr trwy eu Harolwg Dyfodol Lloegr, yr astudiaeth fanylaf erioed i ymagweddau tuag at hunaniaeth genedlaethol a newid cyfansoddiadol yn Lloegr.
Mae eu canfyddiadau, sydd wedi'u hamlinellu mewn llyfr newydd, Englishness: The Political Force Transforming Britain, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen, yn dangos y berthynas agos rhwng hunaniaeth Seisnig a'r agweddau Ewrosceptig a sbardunodd Brexit. Maent hefyd yn dangos bod strwythurau llywodraethol presennol Lloegr yn methu â bodloni’r awydd cynyddol ymhlith poblogaeth Lloegr am fwy o gydnabyddiaeth fel cenedl ar wahân.
Dywedodd yr Athro Wyn Jones: “Mae llawer o drafod ar genedlaetholdeb Cymreig ac Albanaidd ond y gwir amdani yw mai cenedlaetholdeb Seisnig sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar y Deyrnas Gyfunol. Y mae eisoes wedi chwarae rhan ganolog yn y penderfyniad i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ac mae bellach gwestiynau sylfaenol ynglŷn â pharhad y wladwriaeth ei hunain o ystyried rhai o’r agweddau sy’n gysylltiedig â hunaniaeth Seisnig.”
“Mae deuoliaeth cenedlaetholdeb Seisnig yn nodwedd mor drawiadol. Mae’n gysylltiedig â synnwyr cryf fod Lloegr yn cael cam oddi mewn i’r Deyrnas Gyfunol a fod angen cydnabod Lloegr fel cymuned wleidyddol yn ei hawl ei hun. Eto’i gyd, nid yw cenedlaetholdeb Seisnig yn ymwrthod â Phrydeindod, gan fod y rheini sy’n teimlo’n Saeson yn hynod deyrngar i’r syniad o Brydain fel gwlad sy’n chwarae rôl flaenllaw iawn yn y byd.”
Sefydlwyd Arolwg Dyfodol Lloegr yn 2011 i archwilio agweddau gwleidyddol a chyfansoddiadol yn Lloegr, gydag arolygon ychwanegol yn cael eu cynnal yn yr Alban a Chymru at ddibenion cymharu. Mae arolygon wedi casglu barn yn ystod ac ar ôl digwyddiadau gwleidyddol allweddol, gan gynnwys y bleidlais Brexit hanesyddol.
Dywedodd yr Athro Ailsa Henderson: “Roeddem yn gweld bod pobl yng Nghymru a’r Alban datganoledig yn hapusach gyda’r ffordd mae datganoli yn gweithio i’r DU gyfan. Yn Lloegr, fodd bynnag, mae nifer yn pryderu ynghylch datganoli ac mae'n rhwystredigaeth sy’n cael ei hamlygu yn arbennig gyda'r Alban, o ran y sefydliadau a’r adnoddau sydd ganddi.
“Mewn cysylltiad â hyn, daeth i’r amlwg nad cyfanrwydd tiriogaethol Saesnig y wladwriaeth yw’r brif ystyriaeth yng nghyd-destun hunaniaeth, yn enwedig ymhlith y rhai sy’n ymfalchïo’n fawr yn eu Seisnigrwydd. Mae’r farn hon yn deillio i raddau helaeth o rwystredigaeth ynghylch diffyg llais Lloegr yn y sefydliadau gwleidyddol presennol.”