Athro o Brifysgol Caerdydd ymhlith menywod ysbrydoledig mewn llyfr newydd
8 Mawrth 2021
Mae athro ym maes addysg feddygol o Brifysgol Caerdydd ymhlith 15 o fenywod ysbrydoledig sydd wedi'u cynnwys mewn llyfr i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni.
Mae’r Athro Ann Taylor wedi’i chynnwys yn y cyhoeddiad gan grŵp Menywod mewn Meddygaeth Academaidd Cymdeithas Feddygol Prydain.
Mae'r llyfr yn amlygu straeon am fenywod o bob rhan o'r maes meddygol academaidd. Mae’n dathlu eu cyflawniadau ac yn cynnwys uchafbwyntiau eu gyrfaoedd, cyngor gwych a chyfleoedd.
Meddai’r Athro Taylor o'r Ysgol Meddygaeth: “Anrhydedd yw cael bod yn rhan o’r dathliad gwych hwn o ddylanwad modelau rôl. Rwy'n eithriadol o ffodus fy mod wedi cael mentoriaid anhygoel, dynion a menywod fel ei gilydd, fel fy modelau rôl trwy gydol fy ngyrfa - rwy'n ystyried fy hun yn rhan o gadwyn di-rwystr o gynnydd."
Meddai’r Athro Stephen Riley, Deon yr Ysgol Meddygaeth: “Dylen ni fanteisio ar bob cyfle i amlygu modelau rôl ar drws ein sefydliad a thu hwnt. Bydd gan lawer ohonom gydweithwyr yr ydym wedi dysgu oddi wrthynt ac sydd wedi ein cefnogi yn ystod ein gyrfaoedd – y gefnogaeth hon sy’n ein helpu i oresgyn yr heriau sy’n rhan o yrfa yn y sector AU, ac mae’n bwysicach nawr nag erioed."
Dyfarnwyd cadair bersonol i’r Athro Taylor yn 2017 ac mae bellach yn athro addysg feddygol yn yr Ysgol. Mae hefyd yn rheoli rhaglenni a modiwlau e-ddysgu lefel saith rhyngbroffesiynol. Ar ben hynny, mae’n Gyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig a Addysgir
Rheoli poen yw maes ei hymchwil ac mae ganddi nifer o gyhoeddiadau am y maes. Mae hefyd wedi cynghori ar gydweithrediadau cenedlaethol a rhyngwladol.
Meddai Sarah Allsop, cyd-gadeirydd Grŵp Menywod mewn Meddygaeth Academaidd Cymdeithas Feddygol Prydain. “I mi, mae gweithio ym maes addysg feddygol yn rhoi’r cyfle i fod yn rhan o deithiau cynnar myfyrwyr meddygol. Rwy’n dal i gofio’r modelau rôl o’r adeg pan oeddwn yn y brifysgol ac mae eu cyngor a’u harweiniad wedi aros gyda mi dros y blynyddoedd.”
Yn 2008, fe gyhoeddodd Cymdeithas Feddygol Prydain adroddiad am fenywod ym maes meddygaeth academaidd a restrodd nifer o argymhellion i annog mwy o fenywod i ymuno â’r proffesiwn meddygol.
Roedd yr argymhellion hyn yn cynnwys annog modelau rôl, rhwydweithio a chyfleoedd i fentora. Mae’r rhagarweiniad i’r llyfr newydd yn dweud: “Ni allwch fod yr hyn na allwch ei weld” ac mae grŵp Menywod mewn Meddygaeth Academaidd yn gobeithio bod hwn yn gam pellach ymlaen wrth “agor y byd i gynifer o bobl â phosibl”.
Mae’r llyfr hwn ar gael ar-lein yma.
Professor Stephen Riley, head of the School of Medicine, said: “We should champion every opportunity to raise the profile of role models across our organisation and beyond. Many of us will have colleagues that we have learnt from and provided us with support throughout our careers – this support helps us through the challenges of a career in the HE sector and this has never been as important as it is now.”
Professor Taylor was awarded a personal chair in 2017 and is now a professor in medical education in the School and manages e-learning and interprofessional level seven programmes and modules. She is also Director of Post Graduate Taught Studies.
Her research is in pain management where she has a number of publications and has advised on national and international collaborations.
Sarah Allsop, co-chair of the BMA’s Women in Academic Medicine Group, said: “For me, working in medical education gives me the opportunity to be part of medical students’ early journeys. I still remember role models from when I was at university and their advice and guidance has stayed with me over the years.”
In 2008, the BMA published a report about women in academic medicine which listed a number of recommendations to encourage more women to join the medical profession.
These recommendations included encouraging role models, networking and opportunities for mentoring. The introduction of the new book says: “You can’t be what you can’t see” and the WAM group hopes this is another step in “opening up this world to as many people as possible”.
The book can be found online here.