Ewch i’r prif gynnwys

Cipolwg ar waith PhD: Monitro ymddygiad a hydroddeinameg pysgod wrth rwystrau mudo

8 Mawrth 2021

Fisharoundturbines
Experiments to find passage solutions around turbines © Guglielmo Sonnino Sorisio

Mae’r myfyriwr PhD Guglielmo Sonnino-Sorisio yn monitro ymddygiad pysgod a hydroddeinameg wrth rwystrau mudo er mwyn adfer cysylltedd afonydd.

Mae cysylltedd afonydd wedi dioddef yn fawr o ganlyniad i rwystrau o wneuthuriad dyn. Mae strwythurau o wneuthuriad dyn yn amharu ar symudiadau pysgod i fyny ac i lawr y llif, sy’n hollbwysig ar gyfer rhywogaethau ymfudol sy’n teithio yn ôl ac ymlaen i’r môr i gwblhau eu cylch atgenhedlu. Ers y 1970au, bu dirywiad cyflym ym mhoblogaethau llysywen Ewrop (Anguilla anguilla) ac mae’r pysgodyn hwnnw bellach wedi’i ddosbarthu fel rhywogaeth sydd mewn perygl critigol. Un o brif achosion y dirywiad hwn yw’r rhwystrau mudo yn systemau afonydd Ewrop.

Mae cael hyd i atebion i’r rhwystrau hyn yn galw am ddefnyddio dull gweithredu rhyngddisgyblaeth sy’n cyfuno technegau peirianneg ac arbenigedd ym maes y biowyddorau. Mae hynny’n sicrhau gwell dealltwriaeth o’r ddeinameg sy’n llywodraethu tramwyfeydd pysgod a sut maent yn mudo heibio i rwystrau, ac egwyddorion hydroddeinameg dyfnach perfformiad nofio llysywennaidd.

'Rwy’n credu y bydd defnyddio dull gweithredu rhyngddisgyblaeth yn helpu i adfer cysylltedd ac yn datblygu ein gwybodaeth am ddeinameg nofio pysgod.'

Guglielmo Sonnino Sorisio

Fel rhan o’i waith ymchwil, mae Guglielmo Sonnino-Sorisio, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Beirianneg sydd dan oruchwyliaeth yr Athro Jo CableDr Catherine Wilson, yn ceisio adfer cysylltedd a datblygu’r wybodaeth sydd gennym eisoes am ddeinameg nofio pysgod.

Trwy arbrofion, mae Guglielmo yn astudio effeithiau gwahanol fathau o sgriniau ac amodau llif, megis buanedd a chynnwrf, ar bysgod. Yn ddiweddar, ar y cyd â’r myfyriwr PhD Stephanie Muller, mae Guglielmo wedi bod yn edrych ar gael hyd i atebion tramwyo o amgylch tyrbinau ar gyfer brithyll seithliw. Gyda’i gilydd, buon nhw’n ymchwilio i effaith lliw llafnau ar ymddygiad brithyll gerllaw’r tyrbin.

Mae Gugliemo hefyd yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n arwain y gwaith o reoleiddio a hyrwyddo technolegau tramwyo gwell i bysgod ac yn darparu cipolwg hanfodol a degawdau o brofiad bywyd go iawn i’r prosiect.

Mae rhagor o wybodaeth am waith Guglielmo ar gael ar wefan FRESH CDT neu gallwch chi gysylltu ag ef yn uniongyrchol ar SonninoSorisioG@cardiff.ac.uk.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Ymchwil Dŵr.