Tri entrepreneur preswyl newydd
5 Mawrth 2021
Bydd y fenyw y tu ôl i ‘Netflix ar gyfer datblygu gyrfa’, cyn Brif Swyddog Gweithredol 'y tîm pêl droed gwyrddaf yn y byd' a hyfforddwr ac ymgynghorydd coffi yn rhannu cipolwg ar brofiadau entrepreneuraidd gyda staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn dilyn ehangu'r cynllun Entrepreneuriaid Preswyl Gwerth Cyhoeddus (PVEiR).
Ymunodd Aimee Bateman, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Careercake.com, Helen Taylor, Cyfarwyddwr Sefydlu One Blue Marble, ac Esther Hope-Gibbs, Hyfforddwr ac Ymgynghorydd Annibynnol gyda Hope Espresso, â'r grŵp cyntaf o chwe entrepreneur mewn digwyddiad croesawu rhithwir ddydd Mawrth 8 Rhagfyr 2020.
Ers cyflwyno'r cynllun yn 2017, mae wedi helpu i feithrin syniadau busnes addawol newydd drwy fentora myfyrwyr, gosod a goruchwylio prosiectau busnes byw a chyd-greu cyfleoedd ymchwil ac ymgysylltu gyda staff academaidd ac ôl-raddedigion yn Ysgol Busnes Caerdydd.
Gall entrepreneuriaeth ddod o unrhyw le
Enwebwyd Aimee Bateman gan Dr Sue Bartlett, a daw â chyfoeth o brofiad mewn recriwtio corfforaethol i'r rôl.
Yn 2010, a hithau'n teimlo wedi'i dadrithio, dechreuodd greu fideos gyda chynghorion gyrfa ar YouTube gyda chamera ail law a brynodd ar eBay.
Ers hynny, mae ei fideos wedi eu gwylio dros 12 miliwn o weithiau, ac mae wedi ennill gwobrau'r Sefydliad Cyfarwyddwyr a'r Sefydliad Siartredig Marchnata yn ogystal â derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
Dywedodd Aimee: “Rwyf i wrth fy modd yn ymuno â Chynllun Entrepreneuriaid Preswyl Ysgol Busnes Caerdydd.
“Yn Careercake rydyn ni'n gwneud llawer o waith gyda myfyrwyr a graddedigion yn barod. Yn aml maen nhw rhwng 20 a 30 oed, ac mewn cyfnod yn eu bywyd lle mae llawer o benderfyniadau i'w gwneud. Maen nhw'n darganfod pwy ydyn nhw a beth maen nhw'n dymuno bod a gwneud. Felly mae hwn yn rhywle lle gallaf i gyfrannu, gobeithio...”
Busnes gyda phwrpas yn ei arwain
Enwebwyd Helen Taylor gan Dr Anthony Samuel, a daw â phrofiad 30 mlynedd o yrfa'n helpu busnesau ac elusennau i ddatblygu eu cenhadaeth amgylcheddol, cynaladwyedd a chynhwysiant gyda hi i'r rôl.
Cyn sefydlu ei chwmni ei hun yn 2018, yr hyn oedd yn diffinio gyrfa eang Helen oedd ei hawydd i wneud gwahaniaeth. Dechreuodd Helen ym maes rheoli ansawdd cyn symud i’r Gymdeithas Pridd ar anterth sector organig y DU.
Ddegawd yn ddiweddarach ymunodd ei thîm gyda Dale Vince yn Ecotricity, rôl a arweiniodd yn y pen draw at ddod yn Brif Swyddog Gweithredol Forest Green Rovers, tîm pêl-droed mwyaf gwyrdd y byd.
Meddai Helen: “Rwy'n llawn cyffro cael bod yn rhan o'r grŵp hwn o entrepreneuriaid. Er nad wyf i erioed wedi meddwl amdanaf fy hun fel entrepreneur, rwyf i wedi gweithio gyda llawer iawn ohonyn nhw yn ystod fy ngyrfa!”
“Ac yn 2018, sefydlais fy musnes fy hun sy'n gadael i fi barhau â'r gwaith rwy'n angerddol drosto gyda sefydliadau anhygoel sydd â chenadaethau amgylcheddol a chynaladwyedd...”
Urddas a gobaith
Enwebwyd Esther Hope-Gibbs gan Dr Carolyn Strong. Mae ganddi dros 10 mlynedd o brofiad fel gweithiwr coffi proffesiynol ac mae'n eiriolwr dros ddioddefwyr caethwasiaeth fodern.
Mae hi wedi gweithio'n llawn amser mewn swyddi gwasanaeth a rheoli mewn siopau coffi a hefyd fel cyfarwyddwr a phennaeth coffi yn Manumit Coffee Roastery.
Yn y rôl ddiweddaraf hon, datblygodd Esther berthynas ag Ysgol Busnes Caerdydd sy'n cefnogi model busnes cymdeithasol Manumit sy'n cynnig urddas a gobaith i oroeswyr caethwasiaeth fodern drwy hyfforddiant a chyflogaeth.
Ers hynny, mae Esther wedi sefydlu ei busnes ei hun - Hope Espresso - sy'n cynnig ymgynghoriaeth, hyfforddiant a sgiliau i baristas a gweithwyr coffi proffesiynol ledled y DU.
Dywedodd Esther: “Allaf i ddim aros i barhau i weithio gydag Ysgol Busnes Caerdydd fel entrepreneur preswyl.
“Yn 25 oed, allwn i ond breuddwydio y byddwn i'n helpu i agor mannau rhostio coffi mewn carchardai, gweithio gyda goroeswyr y fasnach mewn pobl a gwella cadwyni cyflenwi. Ond drwy fanteisio ar bob cyfle a dysgu sut i ddatrys problemau, a herio'r ffordd y caiff pethau eu gwneud fel arfer, gwthiais fy hun y tu hwnt i'r hyn y gallwn ei ddychmygu...”
Mae ychwanegu tri entrepreneur newydd i'r cynllun yn rhan o ymrwymiad parhaus yr Ysgol i'w myfyrwyr a'r gymuned busnesau bach, rhywbeth a gydnabuwyd gan y Siarter Busnesau Bach yn 2017.
“Ac, rhaid i mi ddweud, mae’r profiadau rydyn ni a’n myfyrwyr wedi’u cael wedi rhagori ar ein disgwyliadau.
“Felly, yn ogystal â chroesawu Esther, Aimee a Helen, ar ran pawb yn yr Ysgol dwi am ddweud diolch yn fawr i’r chwech cyntaf. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld beth sydd nesaf!”
Rhagor o wybodaeth am ein Entrepreneuriaid Gwerth Preswyl.