Ewch i’r prif gynnwys

Byddwn yn parhau i addysgu ein cyrsiau ar-lein yr haf hwn

5 Mawrth 2021

Dysgu ar-lein
Dysgu ar-lein

Ar ôl adolygu ein cynlluniau ar gyfer addysgu gyda chyfyngiadau pellter cymdeithasol, rydym wedi penderfynu y bydd yr holl addysgu ar-lein trwy gydol yr haf.

Rydym yn cydnabod bod llawer ohonoch wedi bod yn edrych ymlaen at ddychwelyd i'r dosbarth, ond o dan yr amgylchiadau, rydym ni'n credu mai parhau i addysgu ar-lein yw'r opsiwn gorau.

Er y bydd gennych fynediad at wybodaeth sy'n gysylltiedig â chwrs ac adnoddau dysgu ar unrhyw adeg, byddwn yn parhau i ddefnyddio sesiynau addysgu wedi’u trefnu i chi ryngweithio â'ch tiwtor, a'ch cyd-fyfyrwyr, mewn amgylchedd ystafell ddosbarth rithwir.

Rydym ni'n gobeithio ailgyflwyno addysgu wyneb yn wyneb, pan fydd hi'n ymarferol gwneud hynny.

Hoffem ni ddiolch i bob myfyriwr sydd wedi rhannu profiadau positif o astudio gyda ni dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ac edrychwn ymlaen at groesawu myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd i'r rhaglen fywiog a chyffrous o gyrsiau rydym wedi'u cynllunio yr haf hwn.

Rhannu’r stori hon