Ewch i’r prif gynnwys

Gwersi ar system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy i Gymru

3 Mawrth 2021

Mae Dr Jac Larner, gwyddonydd gwleidyddol yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, wedi cyfrannu at adroddiad newydd ar gyfer Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy mewn etholiadau llywodraeth leol.

Mae deddfwriaeth ddiweddar yn galluogi awdurdodau lleol Cymru i ddefnyddio system y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) mewn etholiadau, gan ethol rhwng tri a chwe chynghorydd i bob ardal. Fodd bynnag, mae'r ymchwil yn ymddangos fod gwahaniaethau yn y ffordd y trosglwyddir pleidleisiau yn gallu cael effaith sylweddol ar ba mor gyfrannol yw’r system, ac mae’r ymchwil yn amlinellu’r ddau ddull mwyaf addas ar gyfer Cymru.

Comisiynwyd yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru, ac fe’i hysgrifennwyd ar y cyd gyda Daniel Devine (Prifysgol Rhydychen), Stuart Turnbull-Dugarte a Will Jennings (Prifysgol Southampton). Mae’r adroddiad yn ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth i ganiatáu i awdurdodau lleol i roi STV ar waith yng Nghymru yn y dyfodol.

Rhannu’r stori hon