Gwyddonwyr yn dod o hyd i'r dystiolaeth gryfaf eto o 'genyn mudo'
3 Mawrth 2021
Dywed tîm o Academi Gwyddorau Tsieina a Phrifysgol Caerdydd eu bod wedi dod o hyd i’r dystiolaeth gryfaf eto o “genyn mudo” mewn adar.
Nododd y tîm un genyn sy'n gysylltiedig â mudo mewn hebogiaid tramor trwy eu holrhain â thechnoleg lloeren a'i chyfuno â dilyniannu genomau.
Maen nhw'n dweud bod eu canfyddiadau yn ychwanegu tystiolaeth bellach i awgrymu bod gan eneteg rôl bwysig ym mhellter y llwybrau mudo.
Mae'r astudiaeth, a gyhoeddwyd heddiw yn y cyfnodolyn Nature, hefyd yn edrych ar yr effaith a ragwelir gan newid yn yr hinsawdd ar fudo - a sut y gallai hyn ryngweithio â ffactorau esblygiadol.
Tagiodd yr ymchwilwyr 56 o hebogiaid tramor yr Arctig a thracio eu teithiau â lloerenni, gan ddilyn eu pellteroedd hedfan blynyddol a'u cyfeiriadau’n fanwl.
Fe sylwon nhw fod yr hebogiaid tramor wedi defnyddio pum llwybr mudo ar draws Ewrasia. Yn ôl pob tebyg, sefydlwyd y rhain rhwng yr oes iâ ddiwethaf 22,000 o flynyddoedd yn ôl a chanol yr Holosen 6,000 o flynyddoedd yn ôl.
Defnyddiodd y tîm ddilyniannu genomau cyfan a chanfod genyn - ADCY8, sy’n ymwneud â chof tymor hir mewn anifeiliaid eraill - ac sy’n gysylltiedig â gwahaniaethau mewn pellter mudol.
Fe ddarganfyddon nhw fod gan ADCY8 amrywiad ar amledd uchel mewn poblogaethau ymfudol pellter hir (dwyreiniol) o hebogiaid tramor. Mae hyn yn dangos bod yr amrywiad hwn yn cael ei ddewis yn ffafriol oherwydd gallai gynyddu pwerau cof tymor hir y credir eu bod yn hanfodol ar gyfer mudo pellter hir.
Dywedodd un o'r awduron ar yr astudiaeth, yr Athro Mike Bruford, ecolegydd moleciwlaidd o Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd: “Mae astudiaethau blaenorol wedi nodi sawl tuedd genomig posibl a allai reoleiddio ymfudo - ond ein gwaith ni yw’r arddangosiad cryfaf o enyn penodol sy’n gysylltiedig ag ymddygiad mudol a nodwyd hyd yn hyn.”
Edrychodd yr ymchwilwyr hefyd ar efelychiadau o ymddygiad mudo tebygol yn y dyfodol i ragfynegi effaith cynhesu byd-eang.
Os yw'r hinsawdd yn cynhesu ar yr un raddfa ag y mae wedi bod yn ystod y degawdau diwethaf, maen nhw'n rhagweld mai poblogaethau hebog tramor yng ngorllewin Ewrasia sydd â'r tebygolrwydd uchaf o ddirywiad yn y boblogaeth ac efallai y byddan nhw'n stopio mudo'n gyfan gwbl.
“Yn yr astudiaeth hon roeddem yn gallu cyfuno symudiad anifeiliaid a data genomig i nodi bod y newid yn yr hinsawdd yn chwarae rhan fawr wrth ffurfio a chynnal patrymau mudo hebogiaid tramor,” meddai’r Athro Bruford.
Dywedodd yr Athro Xiangjiang Zhan, athro gwadd anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd bellach yn Academi Gwyddorau Tsieina: “Ein gwaith ni yw'r cyntaf i ddechrau deall y ffordd y gall ffactorau ecolegol ac esblygiadol ryngweithio mewn adar mudol - a gobeithiwn y bydd yn gonglfaen i helpu i warchod rhywogaethau mudol yn y byd.”
Gwnaed y gwaith gan labordy ar y cyd ar gyfer ymchwil biocomplexity a sefydlwyd yn 2015 rhwng Prifysgol Caerdydd a'r Sefydliad Sŵoleg yn Academi Gwyddorau Tsieina yn Beijing.