Ffisegydd o Gaerdydd yn ennill gwobr ryngwladol fawreddog
2 Mawrth 2021
Mae Dr Cosimo Inserra, o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, wedi ennill Gwobr MERAC 2021 gan Gymdeithas Seryddol Ewrop (EAS) am yr 'Ymchwilydd Gorau ar Ddechrau Gyrfa mewn Astroffiseg Arsylwadol'.
Mae Dr Inserra wedi cael yr anrhydedd o fri 'am ymchwilio i eithafion ffrwydradau serol, gan gynnig cyfraniad arloesol i'w dealltwriaeth a'u rôl mewn seryddiaeth ac astroffiseg.'
Yn ogystal â derbyn gwobr o €25,000, bydd Dr Inserra yn medru cael cyllid ymchwil ychwanegol gan Sefydliad MERAC a bydd yn cyflwyno darlith lawn yng nghyfarfod blynyddol EAS ac ym mhencadlys Sefydliad MERAC yn y Swistir.
Enillodd Dr Inserra ei PhD yn 2012 o Brifysgol Catania, yr Eidal cyn iddo symud i Brifysgol y Frenhines, Belffast fel ymchwilydd ôl-ddoethurol lle cafodd Wobr Winton Capital y Gymdeithas Seryddol Frenhinol yn 2017.
Daeth yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2018 ac, ers 2019, bu’n rheolwr arolygu ac yn brif ymchwilydd yr arolwg sbectrosgopig mwyaf yn y byd ym maes seryddiaeth parthau-amser (ePESSTO +).
Mae gwaith Dr Inserra yn canolbwyntio ar ffrwydradau cosmig, a elwir yn uwchnofâu, sy'n nodweddu marwolaeth seren, gyda ffocws penodol ar y ffrwydradau uwchnofâu mwyaf disglair, y cyfeirir atynt fel arfer yn uwchnofâu llachar iawn.
Mae gwobr MERAC yn un o'r gwobrau mwyaf nodedig ar ddechrau gyrfa mewn astroffiseg, gyda miloedd o ymchwilwyr ar ddechrau gyrfa yn cael eu hystyried ar gyfer y wobr.
Rhoddir y gwobrau mewn tri maes astroffisegwyr bob yn ail flwyddyn i ymchwilwyr sydd wedi cyflawni eu graddau PHD yn ystod y deng mlynedd flaenorol.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dr Inserra: “Mae’n gyffrous ac yn anrhydedd derbyn gwobr mor fawreddog am fy llwyddiannau ym maes astroffiseg arsylwadol.
“Mae’n fraint cael fy nghydnabod ymhlith grŵp mor fawr o gyfoedion o bob rhan o Ewrop, a bydd y wobr hon yn caniatáu i’m grŵp a minnau dyfu ymhellach a chyflawni mwy o ymchwil arloesol ym maes astroffiseg.”
Ychwanegodd yr Athro Rudolf Allemann, y Rhag Is-Ganghellor, Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: “Rwy’n estyn fy llongyfarchiadau cynhesaf i Dr Inserra ar dderbyn gwobr mor fawreddog a chael ei gydnabod fel un o’r ymchwilwyr gorau ar ddechrau gyrfa yn Ewrop. Mae cyflawniadau Dr Inserra yn arwydd o'r ymchwil hynod ddylanwadol yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ac ar draws y Brifysgol. Mae’n cynnig amgylchedd perffaith i ymchwilwyr ddechrau ar eu gyrfaoedd a llwyddo yn eu maes ymchwil.”