Cyffur canser a gynlluniwyd gan gyfrifiadur yn atal metastasis canser y fron
2 Mawrth 2021
Mae metastasis canser y fron yn achosi mwy na 90% o farwolaethau cleifion canser. Mae adnodd dylunio cyffuriau â chymorth cyfrifiadur wedi llwyddo i greu therapi newydd posibl i rwystro'r lledaeniad angheuol hwn o'r clefyd.
Defnyddiwyd adnodd dylunio o'r radd flaenaf gyda chymorth cyfrifiadurol gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd i nodi cyfansoddion cemegol rhithwir a oedd yn gweithredu ar weithgarwch protein o'r enw Bcl3 ac yn ceisio ei leihau. Dangoswyd bod y protein hwn yn gyfrifol am ledu celloedd canser y fron i organau hanfodol.
Nawr, bydd y cyfansoddion newydd hyn yn symud ymlaen i gael eu profi fel therapïau canser y fron newydd posibl, gan ddangos potensial modelu cyffuriau yn nyfodol triniaethau canser.
“Yn fy marn i, mae'r astudiaeth hon yn amlygu pŵer y feddalwedd dylunio cyffuriau gyda chymorth cyfrifiadurol i nodi cyffuriau newydd sbon ar gyfer targedau nad ydynt wedi cael eu hecsbloetio” esboniodd yr Athro Andrea Brancale, Prifysgol Caerdydd.
“Fel arfer, mae dull cyfrifiadurol yn arwain at lawer o gyfansoddion sydd angen eu gwella’n sylweddol cyn iddynt gael eu hystyried yn werthfawr ym maes datblygu cyffuriau. Yn ein hachos ni, roeddem yn gallu dod o hyd i gyfrwng cryf, gyda photensial clinigol amlwg o ddeg tro yn unig."
Drwy ddefnyddio'r modelu cyfrifiadurol, roedd yr ymchwilwyr yn gallu lleihau'r amser a'r gost o nodi cyffuriau effeithiol newydd yn sylweddol.
Dywedodd yr Athro Andrew Westwell, Prifysgol Caerdydd: “Diolch i’r dull hwn, roeddem yn gallu cymryd llwybr carlam ar gyfer datblygiad cynnar cyffuriau i nodi moleciwl arweiniol newydd. Mae astudiaethau dilynol mewn labordai bellach wedi nodi amrywiadau cryfach o'r cyfansoddyn a nodwyd gan y feddalwedd sydd â'r potensial i gael eu profi mewn treialon clinigol yn y dyfodol."
Er nad yw'r cyfansoddion wedi'u profi mewn cleifion dynol eto, mae'r dull hwn o ddylunio cyffuriau wedi cyflymu'r cynnydd tuag at y treialon clinigol cyntaf mewn pobl yn sylweddol.
“Rydym yn gobeithio mai hwn fydd y cyntaf o nifer o gyfryngau gwrth-ganser a ddatblygwyd fel hyn i dargedu’r celloedd canser malaen sy’n gyfrifol am ledaenu'r clefyd, gan wella canlyniadau hirdymor cleifion canser”, ychwanegodd yr Athro Richard Clarkson, Prifysgol Caerdydd.
Cyhoeddir am ddarganfyddiad ataliwr gwrth-fetstatig bcl3 newydd yn Molecular Cancer Therapeutics, un o gyfnodolion Cymdeithas Ymchwil Canser America.