Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd mewn sgwrs â... Kevin McCloud MBE.

23 Chwefror 2021

Conversations with KM
Cardiff University Conversation with...Kevin McCloud

Yn ddiweddar, cafodd Dr Jo Patterson o Ysgol Pensaernïaeth Cymru sgwrs destunol a diddorol gyda Kevin McCloud (MBE) ar sut allwn ni gyflawni tai cynaliadwy nawr.

Roedd y sgwrs yn rhan o gyfres newydd o ddigwyddiadau cyhoeddus ar-lein sy'n bwriadu dod â meddylwyr blaenllaw ynghyd gydag arbenigwyr rhagorol Prifysgol Caerdydd i drafod ac amlygu’r materion pwysig y mae ein planed a’i phobl yn eu hwynebu.

Mae Dr Jo Patterson yn Uwch-gymrawd Ymchwil yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ac mae ganddi

25 mlynedd o brofiad ym maes datblygu a chyflawni prosiectau ymchwil sylfaenol a chymhwysol ym maes cynaliadwyedd yn yr amgylchedd adeiledig, gyda phwyslais penodol ar ynni. Yn ogystal, Jo yw Arweinydd Prosiect y prosiect Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (LCBE) wnaeth gydweithio'n ddiweddar gyda Chyngor Abertawe ar adfywiad ynni cynhwysfawr ar res o fynglos yng nghwm Abertawe.

Dechreuodd Jo'r sgwrs drwy ofyn i Kevin 'Beth yw cartref cynaliadwy?' Arweiniodd hyn at drafodaeth ddiddorol ynghylch yr amgylchedd adeiledig ac ymddygiad pobl.

Dywedodd Kevin:

"Does dim fath beth â chartref cynaliadwy... mae i gyd ynghylch ein hymddygiad, nid adeiladu... gallwn fyw mor effeithlon â phosibl ond mae angen i ni hefyd newid y ffordd yr ydym yn ymddwyn."

Yn anochel, trodd y sgwrs at y pandemig a sut mae modd ei ystyried yn gyfle i newid y ffordd yr ydym yn byw a gweithio:

Mae COVID-19 yn gyfle i newid ein ffordd o fyw ... rydyn ni gyd wedi dysgu gweithio ac astudio o bell; rwy'n awgrymu bydd hyn yn chwarae rhan yn y dyfodol... mae'r amgylchedd adeiledig yn bwysicach nag erioed, mae'r awydd am benseiri yn fwy nag erioed ac mae ganddyn nhw rôl bwysig iawn i'w chwarae

Kevin McCloud (MBE)

Aeth Kevin ymlaen i ateb cwestiynau gan y gynulleidfa ar bynciau megis ei gartref ei hun, ei ddyheadau adeiladu a'i weledigaeth ar gyfer y dyfodol.

Cafodd y sgwrs gyda Kevin ei gwylio gan dros 800 o wylwyr, wnaeth nodi ei fod yn 'ddiddorol', 'ffantastig' ac 'ysbrydoledig' ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r digwyddiad ar gael i'w wylio ar-lein nawr ar wefan #CUConversations.

Rhannu’r stori hon