Ysgrif Goffa i Patrick O'Sullivan, Cyn Ddeiliaid Cadair Gwyddor Bensaernïol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru
22 Chwefror 2021
Gyda thristwch mawr yr ydym yn cofnodi marwolaeth Patrick O'Sullivan (g. 1937), a fu'n Ddeiliad Cadair Gwyddor Bensaernïol Ysgol Pensaernïaeth Cymru rhwng 1970 a 1988.
Fe'i penodwyd i'r gadair yn 1970 ag yntau ond yn 33 oed, gan symud o Brifysgol Newcastle i'r Ysgol, oedd ar y pryd yn rhan o Athrofa Technoleg Prifysgol Cymru (UWIST). Roedd hwn yn gyfnod pan oedd Ysgolion Pensaernïaeth yn cydnabod yr angen i ddatblygu diwylliant ymchwil, a gwelodd Pennaeth yr Ysgol ar y pryd, yr Athro Dewi Prys Thomas, fod gwyddor bensaernïol yn faes oedd yn cynnig cyfle i feithrin gallu ymchwil cryf a hanfodol.
Arloesodd Pat drwy symud y pwnc yn ei flaen, gan arbenigo mewn adeiladu ynni, ac adeiladau iach, a sefydlu Caerdydd fel arweinydd byd-eang yn y maes, gan feithrin grŵp ymchwil rhyngddisgyblaethol sy'n bodoli hyd heddiw. Sefydlodd y cwrs pensaernïol arloesol yn Sain Ffagan, gan ddefnyddio adeiladau go iawn fel labordai i arsylwi a mesur perfformiad adeiladau. Buan iawn y cafodd cyrsiau gradd yr Ysgol eu cydnabod am eu cynnwys cryf o ran gwyddor bensaernïol a dylunio amgylcheddol. Tra'r oedd yng Nghaerdydd, arweiniodd brosiectau ymchwil mawr ar Dai wedi'u Hinswleiddio'n Well, Dylunio Solar Goddefol a Syndrom Adeiladu Salwch (SBS). Daeth yn hynod o fedrus wrth ganfod cyllid gan ddiwydiant ar gyfer prosiectau ar raddfa fawr a throsi canlyniadau ymchwil academaidd yn ymarfer.
Roedd yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio'n agos gyda llywodraeth a diwydiant, gan weithio gyda'r diwydiannau trydan a nwy. Roedd yn aelod o ymchwiliad Pwyllgor y Llywodraeth i Glefyd y Llengfilwyr, a bu'n cadeirio Pwyllgor Cynghori Rheoleiddio Adeiladu Cymru a Lloegr (BRAC).
Roedd yn mwynhau gweithio ar brosiectau go iawn, gan gynnwys adnewyddu Capel Windsor, Ysgolion Hampshire, Astudiaeth Ynni Lerpwl, ac Ysbyty Ynys Wyth, gwaith a fyddai bellach yn cael ei alw'n 'ymchwil ymarferol’. Arweiniodd ei waith gydag ymarfer pensaernïol at ddyfarnu Cymrodoriaeth er Anrhydedd RIBA iddo yn 1980. Dyfarnwyd OBE iddo yn 1988.
Roedd rhan fawr gan Pat yn y gwaith a arweiniodd at uno UWIST a Choleg Prifysgol Caerdydd yn 1988, a dyna pryd y gadawodd Gaerdydd i ymgymryd â swydd Deon yn y Bartlett, UCL, swydd y bu ynddi tan 1999. Parhaodd yn ddeiliad Cadair Haden-Pilkington yn y Bartlett tan iddo ymddeol, pan ddychwelodd gyda'i wraig Diana i fyw yng Nghaerdydd.
Caiff Pat ei gofio gan y rheini a gafodd y fraint o weithio gydag ef am ei frwdfrydedd dros y pwnc, ei natur hwyliog a'i allu i gyfleu'r pwnc i gynulleidfa eang.