Gwefan ymgyrch McAllister yn mynd yn fyw
26 Chwefror 2021
Mae'r Athro Laura McAllister wedi lansio gwefan newydd fel rhan o'i hymgais am sedd ar Gyngor FIFA.
Mae cyn-gapten tîm cenedlaethol Cymru yn gweithio’n agos gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac UEFA, mae’n academydd yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, ac mae hi bellach yn sefyll mewn etholiad i fod yn gynrychiolydd benywaidd UEFA ar Gyngor FIFA.
Gyda’i hymgyrch yn cael cryn sylw, mae’r Athro McAllister wedi addo yn ddiweddar y bydd lleisiau amrywiol yn cael eu clywed ar lefelau uchaf y broses o wneud penderfyniadau ym myd pêl-droed, a bydd yn sicrhau cytundeb ariannol gwell ar gyfer Cwpan y Byd menywod.
Cynhelir y bleidlais dyngedfennol ymhlith y 55 cymdeithas sy'n aelod o UEFA yng Nghyngres y sefydliad ym Montreux, y Swistir, ar 20 Ebrill.