Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen arloesol dan arweiniad myfyrwyr yn dathlu degawd o lunio dyfodol mwy disglair

2 Mawrth 2021

Pupil's work from SHARE with Schools

Mae prosiect sydd â'r nod o godi dyheadau pobl ifanc yn Ne Cymru yn dathlu ei 10fed flwyddyn.

Mae menter SHARE with Schools Prifysgol Caerdydd, a gynhelir gan ôl-raddedigion ac israddedigion, yn darparu rhaglen flynyddol o weithdai rhyngweithiol, rhyngddisgyblaethol sy'n trosglwyddo gwaith ymchwil, addysgu a gwybodaeth i ysgolion cynradd ac uwchradd partner.

Mae'r prosiect yn ceisio cyrraedd pobl ifanc o ardaloedd daearyddol a dangynrychiolir mewn addysg uwch yn Ne Ddwyrain Cymru, gan feithrin partneriaethau hirdymor gydag ysgolion trwy gynnal allgymorth rhyngweithiol, llawn hwyl a dychwelyd yn ôl bob blwyddyn.

Rhoddir cyfle i ddisgyblion drin a thrafod pynciau am hanes, crefydd ac archeoleg, gyda sesiynau ymarferol wedi'u teilwra i gwricwlwm yr ysgol. Ers y pandemig, mae'r prosiect wedi datblygu amrywiaeth o adnoddau digidol rhyngweithiol er mwyn sicrhau bod y gwaith hwn yn parhau gydag allgymorth digidol byw a sesiynau holi ac ateb anffurfiol am fywyd yn y brifysgol.

Cyflwynir pob sesiwn gan fyfyrwyr prifysgol, sy'n ennill profiad o addysgu a thrafod yr ymchwil ddiweddaraf, tra bod y rhaglen a'r sesiynau'n cael eu rheoli a'u cynllunio gan dîm o ôl-raddedigion.

Ers ei sefydlu ddegawd yn ôl, mae SHARE with Schools wedi cynnal 237 o weithdai mewn 18 ysgol i fwy na 5,000 o ddisgyblion. Mae hefyd wedi hwyluso ymweliadau pwrpasol a hygyrch i Brifysgol Caerdydd ar gyfer mwy na 450 o ddisgyblion.

Mae'r cynllun hefyd wedi gweld 340 o wirfoddolwyr israddedig a 34 o gydlynwyr ôl-raddedig yn ennill profiad addysgu gwerthfawr, ynghyd â sgiliau mewn ymchwil, cyfryngau digidol a chymdeithasol, siarad cyhoeddus, ymgysylltu â'r cyhoedd a rheoli prosiectau.

Dywedodd Laiqah Osman, Cydlynydd Ôl-raddedig yn SHARE with Schools: “Wrth i ni ddathlu 10 mlynedd o SHARE with Schools, mae'n bwysig cofio bod hwn yn brosiect i fyfyrwyr, gan fyfyrwyr. Ar bob lefel, cynllunio, trefnu a chyflawni, rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd lle gall myfyrwyr gymryd rhan a datblygu eu sgiliau.

“Gellir gweld lwyddiant gwirioneddol SHARE with Schools yn ei ethos craidd o ehangu cyfranogiad at addysg uwch. Dyma'r grym y tu ôl i'r gwirfoddolwyr a'r cydlynwyr ôl-raddedig sy'n cymryd rhan. Rydym yn cael ein cymell gan y cyfle i gynnig arweiniad gwerthfawr a rhannu awgrymiadau i ysbrydoli disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd sydd heb ystyried prifysgol fel opsiwn efallai. Mae gan ein gwaith o ryngweithio â disgyblion yn ein hysgolion partner, trwy gynnal gweithdai rhyngweithiol, y potensial i newid bywydau."

Dywedodd Martin Hulland, Pennaeth Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd: “Rydym yn falch o gael cysylltiad agos â Phrifysgol Caerdydd. Mae ein myfyrwyr wedi elwa cymaint o weithio gyda nifer o israddedigion ac ôl-raddedigion o SHARE with Schools dros y blynyddoedd.

“Po fwyaf y mae ein myfyrwyr yn ei wybod am Addysg Uwch, trwy gwrdd â myfyrwyr israddedig, a gweithio ochr yn ochr â nhw, y mwyaf tebygol maen nhw o fynychu yn y dyfodol a'i ystyried fel rhan o'u datblygiad.

Rydym yn amcangyfrif bod 500 o ddisgyblion wedi mwynhau'r gweithdai hyn ers 2011, yn yr ysgol hon a'r ysgolion blaenorol. Dyma'r mathau o brofiadau sy'n newid bywydau, yn codi dyheadau ac yn hyrwyddo dysgu gydol oes.

Martin Hullard

Dywedodd Yvonne Roberts-Ablett, Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Uwchradd Fitzalan: “Rydyn ni wedi mwynhau cydweithio gyda llawer o garfannau o fyfyrwyr rhagorol sydd wastad wedi cefnogi ein disgyblion. Maent yn cynllunio sesiynau rhagorol ac yn gweithio gyda'r gofal a'r arweiniad gorau posibl. Mae dwy agwedd sy'n gwneud y prosiect yn arbennig o unigryw. Yn gyntaf, mae'r disgyblion sydd wedi bod yn rhan o'r gweithdai wedi bod i ymweld â'r brifysgol. Yn ystod taith dywys o amgylch y labordai archeoleg dangoswyd ystod o gyrsiau ar wahân i raddau hanes traddodiadol iddynt. Nid oedd y disgyblion yn ymwybodol bod y rhain ar gael cyn hyn.

“Yn ail, mae'r ffordd y mae'r gweithdai'n integreiddio profiad 'ymarferol' i ddisgyblion yn dod â hanes yn fyw. Mae'n ddosbarth meistr mewn datblygu ymholiadau sy'n addas ar gyfer Cwricwlwm Cymru.”

Gwyliwch fideo SHARE with Schools

Roedd Ben Dillon, 26, yn fyfyrwyr a oedd yn gwirfoddoli i SHARE with Schools yn ystod ail a thrydedd flwyddyn ei radd Archeoleg. Erbyn hyn, mae'n gobeithio dechrau gradd Meistr mewn Addysgu.

Dywedodd: “Mae’r fenter hon wedi bod yn hollbwysig gan fy ysbrydoli i fod yn athro. Sylweddolais faint o hwyl oedd gweithio mewn ystafelloedd dosbarth a chefais wir deimlad o foddhad yn bod yn rhan o addysg. Helpodd fi i ddatblygu llwyth o sgiliau newydd a gweithio arnynt. Roedd siarad o flaen cynulleidfa gymharol fawr a gweithio gyda gwahanol grwpiau oedran wir yn heriol a dysgais fod gen i alluoedd nad oeddwn i'n ymwybodol ohonynt cyn y prosiect.

“Roeddech yn gallu dweud o ymatebion y myfyrwyr a’r athrawon ein bod wirioneddol yn cyfrannu rhywbeth at yr ysgolion a’r gymuned. Roedd yn rhoi boddhad yn y ffordd orau.”

Dywedodd Darllenydd mewn Hanes Canoloesol Cynnar, Dr David Wyatt, sy'n gweithio i Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: “Rwy'n hynod falch fy mod i wedi bod yn rhan fach o SHARE with Schools, sydd wirioneddol yn brosiect dan arweiniad myfyrwyr drwyddi draw. Yr hyn sydd mor ysbrydoledig am y rhaglen yw ei bod yn ymwneud, mewn gwirionedd, â chwalu rhwystrau a heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu wrth feddwl am ddod i'r brifysgol. Ond, caiff hynny ei yrru gan bobl ifanc eraill sydd wedi llwyddo dod i'r brifysgol – ac mae rhai ohonynt wedi wynebu rhwystrau a heriau tebyg iawn."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.