Ewch i’r prif gynnwys

Her Fawr: sut y newidiodd yr Uned Pro Bono yn ystod y pandemig

16 Chwefror 2021

Pan gydiodd Coronafeirws yn y DU, ymatebodd ein Huned Pro Bono yn gyflym, gan sicrhau bod ein myfyrwyr yn gallu parhau i ennill profiad mewn amgylchedd diogel i bawb.

Dyfeisiodd yr uned y syniad o ddwy 'Her Fawr' i fanteisio ar gryfderau ac arbenigedd staff Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac i annog myfyrwyr i ddysgu sgiliau newydd yn ystod cyfnod heriol.

Mae menter yr her fawr yn wirfoddol, ar-lein, ar agor i fyfyrwyr y Gyfraith, Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ac mae'n ychwanegol i'w hastudiaethau arferol. Mae'r myfyrwyr wedi cael cyfle i wneud cais i weithio naill ai ar yr edefyn Camweinyddiu Cyfiawnder neu'r edefyn Newid yn yr Hinsawdd.

Newid yn yr Hinsawdd

Yn yr her hon ceir taith ar wib drwy wyddoniaeth newid yn yr hinsawdd, cyfraith a chonfensiynau rhyngwladol, cyfraith a pholisi'r DU a Chymru. Mae'n gyfle i fyfyrwyr ymchwilio'r hyn maen nhw'n meddwl sydd angen ei newid er mwyn paratoi ar gyfer newid yn yr hinsawdd a'i frwydro. Yn goruchwylio'r gwaith mae'r arbenigwr mewn Cyfraith Amgylcheddol Guy Linley-Adams a'r gobaith yw y bydd modd cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion y grŵp yn Senedd Cymru yn ddiweddarach eleni.

Camweinyddu Cyfiawnder

Mae'r her fawr hon yn edrych ar hanes a chyd-destun camweinyddu cyfiawnder. Mae myfyrwyr wedi edrych ar beth sy'n achosi camweinyddu cyfiawnder, sut mae dogfennau heddlu'n cael eu casglu a'u curadu, methiannau ymchwiliadau a'r system apelio, a beirniadaeth o'r foeseg y tu ôl i Brosiectau Dieuogrwydd a'r gobaith ffug y gall ei roi i'r rhai a ddedfrydwyd am droseddau maen nhw'n gwadu eu cyflawni. Caiff yr her ei goruchwylio gan Dr Dennis Eady a Dr Holly Greenwood sy'n hwyluso Prosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd.

Fel rheol, mae ein cynlluniau Pro Bono yn cynnig cyfle i fyfyrwyr weithio ar achosion go iawn a helpu aelodau o'r gymuned yn rhad ac am ddim. Ond mae'r gwaith hwnnw'n dibynnu ar gydweithio wyneb yn wyneb a lleoliadau gwaith i fyfyrwyr gyda chyfreithwyr ac amrywiol sefydliadau nad oes modd iddynt ddigwydd yn ystod cyfyngiadau coronafeirws.

Dywedodd yr Athro Julie Price, Pennaeth yr Uned Pro Bono, “Mae pawb wedi gorfod addasu eu ffyrdd o weithio ers mis Mawrth y llynedd. Roedd yn hynod bwysig i ni barhau i gynnig y profiad ychwanegol i'n myfyrwyr y mae'r Ysgol mor adnabyddus amdano. Mae ein heriau mawr yn annog myfyrwyr i feddwl yn weithredol am y ddau bwnc gan weithio gydag arbenigwyr yn y maes ac rwyf i wrth fy modd yn gweld sut mae'r myfyrwyr wedi ymateb hyd yma."

Rhannu’r stori hon