Ewch i’r prif gynnwys

Broken String Biosciences yn ymuno â chyflymydd byd-eang

12 Chwefror 2021

Broken string image

Mae busnes genomeg newydd Prifysgol Caerdydd, Broken Strings Biosciences, sy'n gweithio ar ddatgloi meddyginiaethau'r genhedlaeth nesaf, yn ymuno ag Illumina, Inc - y peiriant creu cwmnïau byd-eang.

Mae'r cwmni newydd yn un o naw o fusnesau o'r DU a UDA sydd wedi'u dewis ar gyfer cymhellion ariannol gan Illumina, sy'n canolbwyntio ar ddod yn bartneriaid gydag entrepreneuriaid i adeiladu busnesau genomeg newydd.

Mae Broken String Biosciences Limited yn datblygu platfform o offer dilyniannu DNA newydd i asesu sefydlogrwydd genomau ac i ddatgloi'r genhedlaeth nesaf o feddyginiaethau arloesol, gan gynnwys therapïau celloedd a genynnau.

Dywedodd yr Athro Simon Reed, Canser a Geneteg, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a Phrif Swyddog Gwyddonol y cwmni: “Rydym yn falch iawn o ymuno â'r Cyflymydd Illumina yn ei Bencadlys ymchwil Ewropeaidd yng Nghaergrawnt. Mae Illumina, Inc yn dod â chyfoeth o arbenigedd mewn meithrin busnesau genomeg newydd byd-eang a sbarduno cyfalaf menter wrth hela am feddyginiaethau genomeg.”

Yn ystod cylch cyllido chwe mis, bydd Cyflymydd Illumina Caergrawnt yn rhoi mynediad i Broken String at fuddsoddiad egino a systemau ac adweithyddion dilyniannu Illumina, ynghyd â chanllawiau busnes, arbenigedd genomeg, a gofod labordy cwbl weithredol wrth ymyl campws Illumina yng Nghaergrawnt.

“Mae Broken String yn un o bedwar ymrwymiad cyfalaf yn y DU a ddewiswyd i yrru gwerth fel rhan o fusnesau newydd Cyflymydd Illumina Caergrawnt wrth iddynt ymdrechu i ddatgloi pŵer y genom,” meddai Amanda Cashin, Ph.D., cyd-sylfaenydd a Phennaeth Byd-eang Illumina ar gyfer Busnesau Newydd.

“Mae ein buddsoddiadau mwyaf newydd yn dangos dyfnder ac ehangder rhaglenni genomeg ledled y byd,” meddai Alex Aravanis, MD, Ph.D., Prif Swyddog Technoleg yn Illumina.

Mae'r naw busnes newydd genomeg hyn yn canolbwyntio ar ddarganfod therapiwteg arloesol, diagnosteg, a rhaglenni uniongyrchol-i-ddefnyddwyr i drawsnewid iechyd pobl a thu hwnt.

Alex Aravanis, M.D, Ph.D.

Nod Broken String Biosciences yw hyrwyddo darganfyddiad a datblygiad therapiwtig trwy asesu sefydlogrwydd y genomau.

Mae mapio manwl gywirdeb seibiannau genomeg a ddatblygwyd gan Felix Dobbs, myfyriwr PhD yn labordy Reed a chyd-sylfaenydd Broken String, yn rhoi mewnwelediadau a fydd yn galluogi datblygu therapïau newydd.

Dr Patrick van Eijk o labordy Reed, a Simon Kerr o Kerr Consult yw cyd-sylfaenwyr eraill y cwmni, sy'n datblygu platfform o adnoddau dilyniannu i alluogi datblygiad diogel a chynaliadwy'r genhedlaeth nesaf o feddyginiaethau arloesol, gan gynnwys therapïau celloedd a genynnau.

Mae Illumina wedi datgelu bod dros £20 miliwn mewn ymrwymiadau cyfalaf cychwynnol yn y DU wedi’u sicrhau gan grŵp dethol o fuddsoddwyr, gan gynnwys ymrwymiad o £10 miliwn gan y buddsoddwr conglfaen LifeArc, elusen ymchwil feddygol annibynnol flaenllaw yn y DU sydd wedi’i lleoli yn Stevenage.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.