Menywod yn well na dynion am ddarllen meddyliau – astudiaeth newydd
12 Chwefror 2021
Mae dull newydd o “ddarllen meddwl” wedi cael ei ddatblygu gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgolion Caerfaddon a Llundain i asesu pa mor dda rydyn ni'n deall beth mae eraill yn ei feddwl.
Mae darllen meddwl, y cyfeirir ato weithiau mewn seicoleg fel “meddwleiddio” neu “theori meddwl”, yn allu pwysig ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol a ddefnyddiwn pob dydd. Er enghraifft, mae'n ein helpu i ddewis ffyrdd cynnil o ymddwyn a allai ddangos bod rhywun yn meddwl rhywbeth nad ydyn nhw'n ei ddweud.
Mae gan bob un ohonom alluoedd darllen meddwl gwahanol, gyda rhai ohonom yn gynhenid well arno nag eraill. Efallai y bydd rhai pobl yn profi anawsterau darllen meddwl, fel pobl awtistig, a gall hyn arwain at heriau wrth adeiladu a chynnal perthnasoedd cymdeithasol.
Dyluniodd yr ymchwilwyr brawf darllen meddwl newydd, hawdd ei ddefnyddio, a'i brofi gyda thros 4,000 o bobl awtistig a phobl nad ydynt yn awtistig yn y DU ac UDA.
Daethant i'r casgliad bod menywod yn llawer gwell na dynion am ddarllen meddyliau. Dysgon nhw hefyd bod pobl awtistig yn cael mwy o drafferth darllen meddyliau na phobl nad ydynt yn awtistig.
Mae'r adnodd newydd yn cael ei gyhoeddi heddiw, gyda'r canfyddiadau ymchwil, yn y cyfnodolyn Psychological Assessment.
Dywedodd yr uwch awdur Dr Lucy Livingston, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: “Mae'r gallu i ddeall meddyliau pobl eraill yn bwysig iawn ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol llwyddiannus ymhlith bodau dynol. Fodd bynnag, ychydig iawn a wyddom hyd yma am pam mae rhai pobl yn arbennig o dda am ddarllen meddyliau, neu'n cael trafferth gwneud hynny."
Cafodd yr atebion i'r holiadur pedair eitem eu sgorio, o 4 i 16 (gyda 4 yn arddangos gallu gwael i ddarllen meddyliau; 16 yn dangos gallu ardderchog). Rhwng 12 ac 13 oedd y sgôr ar gyfer eu holiadur ar gfartaledd.
Ar ôl cadarnhau’n ystadegol bod y prawf yn mesur yr un peth ymhlith dynion a menywod, gwelsant fod menywod yn nodi eu bod yn darllen meddyliau'n well na dynion. Fe wnaeth hefyd gadarnhau rhai o’r heriau cymdeithasol adnabyddus y mae’r gymuned awtistig yn eu hwynebu.
Dywedodd Dr Punit Shah, cyd-uwch awdur o Brifysgol Caerfaddon: “Roedd angen i ni wahanu darllen meddyliau ac empathi. Mae darllen meddyliau yn cyfeirio at beth mae pobl eraill yn ei feddwl, ac mae empathi'n cyfeirio at ddeall sut mae pobl eraill yn teimlo.
“Trwy ganolbwyntio’n ofalus ar fesur darllen meddyliau, heb ei ddrysu ag empathi, rydym yn hyderus ein bod newydd fesur gallu pobl i ddarllen meddyliau. Ac, wrth wneud hyn, rydyn ni'n darganfod yn gyson bod gan fenywod mwy o alluoedd darllen meddyliau na dynion.”
Dywedodd Dr Livingston fod gan yr adnodd sydd ar gael yn rhad ac am ddim ddefnyddioldeb clinigol posib i nodi pobl sydd ag anawsterau darllen meddyliau er mwyn rhoi cefnogaeth ychwanegol briodol iddynt.
“Yn nodweddiadol, mae ymchwilwyr wedi dibynnu ar dasgau arbrofol cymhleth i fesur y gallu hwn mewn pobl awtistig. Fodd bynnag, mae ein prawf newydd yn ystyried profiadau byw pobl awtistig, gan ei fod yn dibynnu arnynt i hunan-adrodd ar eu galluoedd a'u hanawsterau cymdeithasol,” meddai.
“Mae ein canfyddiadau’n dangos yn glir bod pobl awtistig, ar gyfartaledd, yn ei chael hi'n anoddach darllen meddyliau na phobl nad ydynt yn awtistig. Nid yw hyn wrth gwrs yn golygu nad yw pobl awtistig yn cael eu cymell i ddeall a rhyngweithio â phobl eraill.
“Nawr, dylai gallu mesur a nodi anawsterau darllen meddyliau mewn ffordd syml helpu i deilwra cefnogaeth i bobl awtistig, yn enwedig y rhai sydd am ymgysylltu’n gymdeithasol ag eraill ond nad ydyn nhw bob amser yn gwybod sut i’w darllen.”
Cefnogwyd yr ymchwil hon gan gyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol UKRI.