Tîm Astudiaeth Etholiad Cymru yn paratoi ar gyfer ymgyrch etholiadol y Senedd 2021
11 Chwefror 2021
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd wedi derbyn cyllid gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRG) y DG i gynnal astudiaeth o bwys yn edrych ar etholiad datganoledig Cymru sydd i’w gynnal ym mis Mai.
Bydd yr astudiaeth – Astudiaeth Etholiad Cymru 2021 (WES2021) – yn cynnal arolygon o dros 4000 o ddinasyddion Cymru cyn ac ar ôl etholiadau’r Senedd, yn ogystal ag arolygon yn ystod y cyfnod ymgyrchu a fydd yn canolbwyntio’n benodol ar ddynameg yr ymgyrch ei hun. Am y tro cyntaf, bydd yr arolygon yn cynnwys sampl wedi’i atgyfnerthu o bobl ifanc 16 ac 17 oed, sy’n gymwys i bleidleisio am y tro cyntaf yn 2021.
Yr Athro Richard Wyn Jones fydd yn arwain y tîm fel Prif Ymchwilydd a bydd Dr Jac Larner, Dr Ed Gareth Poole a’r Athro Daniel Wincott o Brifysgol Caerdydd, yn ogystal â Paula Surridge o Brifysgol Bryste yn ymuno ag ef fel Cyd-ymchwilwyr. Bydd y tîm yn cydweithio’n agos â chydweithwyr sy’n astudio’r etholiad datganoledig a gynhelir ar yr un pryd yn yr Alban.
Bydd yr astudiaeth yn cael ei defnyddio i ddadansoddi hunaniaethau a gwerthoedd pleidleiswyr, effaith y pandemig Covid-19, ac agweddau tuag at ddadansoddi treth (ymysg pynciau eraill). Rhwng y cyfan, hon fydd yr astudiaeth â’r dadansoddiad academaidd mwyaf manwl o etholiad yng Nghymru hyd yma.
Dywedodd Yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan a Phrif Ymchwilydd Astudiaeth Etholiad Cymru 2021:
“Mae pob un ohonom yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd yn falch iawn o fod wedi derbyn cefnogaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRG) er mwyn cynnal yr astudiaeth hon o etholiad 2021, yn enwedig gan ei bod hi’n ymddangos mai hon fydd yr etholiad datganoledig mwyaf arwyddocaol hyd yma.
“Gyda Covid-19 yn gefnlen – argyfwng sydd wedi taflu goleuni newydd ar ddatganoli – bydd yr etholiad bron yn sicr yn tynnu sylw at faterion gwahanol i’r arfer. Nid yn unig hynny, ond oherwydd bod gan bobl ifanc 16 ac 17 oed yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf, bydd yr etholaeth ei hun a’i chyfansoddiad yn wahanol y tro hwn.
“Fel tîm ymchwil, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol sy’n cynnwys cyhoeddiadau academaidd yn ogystal â rhannu canfyddiadau ein hymchwil gyda’r cyhoedd yn ehangach. Bydd unrhyw un sydd â diddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru yn clywed llawer mwy gennym ni yn y dyfodol!”