Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn cyflwyno rhagor o fondiau pellach sy'n ddyledus yn 2055

11 Chwefror 2021

Main Building_BlueSky_GreenGrass

NID I'W DDOSBARTHU NA'I RYDDHAU YN UNOL DALEITHIAU AMERICA NAC I UNOL DALEITHIAU AMERICA (NAC I UNIGOLION O'R UDA), AWSTRALIA, CANADA NEU JAPAN, NEU MEWN UNRHYW AWDURDODAETH ARALL LLE BYDDAI CYNIGION NEU WERTHU GWARANNAU YN CAEL EU GWAHARDD GAN Y DDEDDF BERTHNASOL.

Nid yw'r datganiad hwn i'r wasg yn gynnig i werthu nac yn gais i brynu unrhyw warannau yn yr Unol Daleithiau. Nid yw'n gynnig, yn gais nac yn werthiant mewn unrhyw awdurdodaeth lle byddai hynny'n anghyfreithlon cyn cofrestru neu gymhwyso o dan ddeddfau gwarannau unrhyw dalaith neu wlad. Ni chaiff unrhyw warannau eu cynnig neu eu gwerthu yn yr Unol Daleithiau oni bai eich bod wedi eich cofrestru o dan Ddeddf Gwarannau 1933 UDA, fel y'i diwygiwyd (y "Ddeddf Gwarannau") neu wedi cael eithriad perthnasol o'r gofynion cofrestru. Ni chaiff unrhyw warannau eu cynnig yn gyhoeddus yn yr Unol Daleithiau. Cyhoeddir y datganiad hwn i'r wasg yn unol â Rheol 135e o dan y Ddeddf Gwarannau.

Mae Prifysgol Caerdydd heddiw yn cyhoeddi ei bod wedi prisio 'tap' pellach o £100m mewn swm enwol o'i bondiau 3% presennol gwerth £300m fydd yn ddyledus yn 2055.

Bydd y bondiau newydd yn cael eu cyhoeddi am bremiwm i'w gwerth enwol, gan adlewyrchu'r ffaith bod cyfraddau llog wedi gostwng ers cyflwyno'n wreiddiol yn 2016.   O ganlyniad, bydd y bond a gyflwynir yn cynhyrchu elw o tua £130m.

Disgwylir i'r bondiau newydd gael sgôr o A1 (rhagolygon sefydlog) gan Moody's, sef yr un fath â'r sgôr gyfredol ar y bondiau presennol.

Bydd y Brifysgol yn defnyddio enillion net y Bondiau at ddibenion corfforaethol cyffredinol, gan gynnwys buddsoddi mewn cyfleusterau ymchwil ac addysgu, yn ogystal ag asedau eraill y Brifysgol.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant y bond hwn a'r gefnogaeth gref a ddangoswyd gan fuddsoddwyr.

"Bydd yr elw a wneir drwy werthu'r bondiau yn ein helpu i ariannu ein nodau strategol.

"Ein nod yw cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer ymchwil, addysgu a'n myfyrwyr drwy weithredu Cynllun Meistr yr Ystadau."

Gweithredodd Barclays Bank a Lloyds Bank Corporate Markets fel Cyd-warantwyr.  Rhoddodd Rothschild & Co gyngor annibynnol ar ddyledion i'r Brifysgol a rhoddodd Mills & Reeve gyngor cyfreithiol.

Rhaid i unrhyw benderfyniad buddsoddi a wneir mewn cysylltiad â rhyddhau'r Bondiau fod yn seiliedig ar y wybodaeth yn y Prosbectws terfynol am y Bondiau yn unig.

Mewn cysylltiad â rhyddhau'r Bondiau, gall [Lloyds Bank plc] (y Rheolwr Sefydlogi) (neu unigolion sy'n gweithredu ar ran y Rheolwr Sefydlogi) ddyrannu rhagor o Fondiau neu roi trafodion ar waith er mwyn ceisio cynnal pris y Bondiau ar lefel uwch na fyddent wedi bod fel arall, o bosibl. Fodd bynnag, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd y Rheolwr Sefydlogi (neu unigolion sy'n gweithredu ar ran y Rheolwr Sefydlogi) yn ymgymryd â chamau sefydlogi. Gall unrhyw gamau sefydlogi ddechrau ar y diwrnod y datgelir telerau'r Bondiau yn gyhoeddus, neu wedi hynny. Os cymerir camau o'r fath, gellir eu dirwyn i ben ar unrhyw adeg. Rhaid eu dirwyn i ben ymhen 30 diwrnod ar ôl dyddiad cyflwyno'r Bondiau neu 60 diwrnod ar ôl dyrannu'r Bondiau, pa un bynnag ddaw gyntaf. Rhaid i unrhyw gamau sefydlogi neu ddyrannu ychwanegol gael eu cymryd gan y Rheolwr Sefydlogi (neu unigolion sy'n gweithredu ar ran y Rheolwr Sefydlogi) yn unol â phob deddf a rheol berthnasol.

Rhannu’r stori hon