Partneriaeth yn datblygu sglodion ar gyfer cerbydau trydan
10 Chwefror 2021
Dyfarnwyd cyllid Ymchwil ac Arloesedd yn y DU i'r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC) a Wafer Fab Casnewydd (NWF) i ddatblygu cydrannau uwch ar gyfer Cerbydau Trydan (EVs) sy’n gallu teithio’n bellach.
Mae CSC - y fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac IQE Plc - yn ymuno â NWF i greu prosesau cynhyrchu newydd fydd yn cyflwyno technoleg sglodion lled-ddargludyddion foltedd uchel.
Bydd y broses greu newydd, sy’n defnyddio galiwm nitrad ar silicon (GaN ar Si), yn manteisio ar fwy na 30 mlynedd o brofiad mewn cynhyrchu sglodion silicon ar gyfer trosi pŵer yn Wafer Fab Caerdydd.
Mae cyfleuster yng Nghasnewydd - Ffowndri Lled-ddargludyddion integredig gyntaf y byd ar gyfer Silicon a Silicon ar Gyfansawdd - eisoes wedi'i achredu i gyflenwi ei gynhyrchion i'r diwydiant moduro byd-eang. Dyma ffatri weithgynhyrchu lled-ddargludyddion fwyaf y DU, ac mae'n cyflogi 450 o staff.
Bydd NWF yn defnyddio prosesau wafer unigryw a ddatblygwyd gan CSC mewn partneriaeth â'i riant gwmni IQE yn ei gyfleuster yng Nghaerdydd.
Yn ddiweddar, llwyddodd CSC i gael achrediad ISO9001 llawn ar gyfer ei System Rheoli Ansawdd sy’n golygu y gall ddatblygu ei brosesau a chynyddu nifer y cynhyrchion.
Cefnogir y prosiect gan UKRI o dan y 'Gronfa Trawsnewid Moduro: symud sector moduro y DU tuag at ddim allyriadau.'
Dywedodd Sam Evans, Cyfarwyddwr Ansawdd a Materion Allanol NWFs: “Mae hwn yn gam cyffrous tuag at ein gweledigaeth o ddod yn un o’r prif wneuthurwyr cynhyrchion Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ar Silicon. Rydym yn gweld bod y farchnad cydrannau pŵer yn faes rhagorol i’w gynnwys yn ein cynlluniau i ehangu ein hôl troed gweithgynhyrchu cyfredol o 8,000 i 14,000 wafer cychwynnol yr wythnos.”
Ychwanegodd Rob Harper, rheolwr rhaglen GaN yn CSC: “Disgwylir i farchnad sglodion pŵer GaN fod yn werth mwy na £0.5Bn erbyn 2025 ac mae cyfle enfawr i’w ddatblygu ar gyfer defnydd mewn EVs yn y dyfodol. Rydym yn cydweithio â phartneriaid lled-ddargludyddion pŵer yn fyd-eang i helpu i lywio'r ffordd."
Dywedodd Dr Wyn Meredith, Cyfarwyddwr y CSC, 'Mae hon yn enghraifft wych o ddau bartner yn ecosystem lled-ddargludyddion de Cymru yn adeiladu ar eu cryfderau technoleg a gweithgynhyrchu priodol i gynnig gwasanaethau ffowndri y genhedlaeth nesaf i'r diwydiant lled-ddargludyddion byd-eang.
“Rydym eisoes wedi gweld allbwn y diwydiant modurol yn cael ei gyfyngu eleni o ganlyniad i brinder byd-eang mewn sglodion lled-ddargludyddion. Mae Volkswagen, Ford, Subaru, Toyota, Nissan, Mazda, Fiat Chrysler i gyd wedi adrodd am effaith ar gynhyrchu, gan gynnwys rhoi’r gorau i weithio dros dro mewn ffatrïoedd. Bydd y galw cynyddol am Gerbydau Trydan yn gwaethygu problemau cyflenwi o'r fath, felly mae cyfle enfawr i fanteisio ar gyfran fwy o'r farchnad ar gyfer Diwydiant Lled-ddargludyddion Cymru.’
Nod y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a gafodd ei sefydlu yn 2015 yw cyflymu masnacheiddio deunyddiau CS ac ymchwil i ddyfeisiau, gan sicrhau asedau economaidd diriaethol i fuddsoddiad y DU. Mae'n chwaraewr allweddol yn CSconnected - clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf y byd wedi'i leoli yn ne Cymru.