Athro Caerdydd yn derbyn Gwobr Ymchwil yr Arglwydd Ashcroft am ddull newydd o drin PTSD ymhlith cyn-aelodau’r lluoedd arfog
9 Chwefror 2021
Mae ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd, yr Athro Jon Bisson, wedi ennill Gwobr Ymchwil yr Arglwydd Ashcroft 2021.
Mae'r Athro Bisson wedi derbyn y wobr i gydnabod ei waith ar ddull newydd o drin cyn-aelodau’r lluoedd arfog sy'n byw gydag Anhwylder Straen Ôl-drawmatig (PTSD).
Roedd yr Athro Bisson yn Brif Ymchwilydd ar gyfer treial dichonoldeb Prifysgol Caerdydd o'r dull triniaeth arloesol 3MDR (dadsensiteiddio ac ailgyfnerthu cof aml-fodiwlaidd gyda chymorth symudedd) ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog sy'n byw gyda PTSD nad oeddent yn ymateb yn llwyddiannus i driniaeth gonfensiynol.
Y prosiect oedd y cyntaf yn y DU ar gyfer defnyddio technoleg o'r fath ac roedd angen cydweithredu helaeth rhwng academyddion blaenllaw o'r DU a'r Iseldiroedd, a Veterans GIG Cymru.
Trwy agwedd benderfynol ac arweinyddiaeth yr Athro Bisson a'i dîm, cafodd y prosiect sylw rhyngwladol eang yn y byd academaidd a’r cyfryngau.
Daeth i'r casgliad fod 3MDR wedi gallu lleihau symptomau PTSD o dan rai amgylchiadau.
Er ei bod yn rhy gynnar i'w argymell ar gyfer ymarfer clinigol arferol, roedd yn cyfiawnhau ac yn llywio'r angen am astudiaeth fwy helaeth sydd â'r potensial i gadarnhau hyn a bod o fudd i gyn-aelodau’r lluoedd arfog sydd â'r mathau anoddaf o PTSD i'w trin.
Dywedodd Ray Lock CBE, Prif Weithredwr y Forces in Mind Trust:
“Darganfu ymchwil drawiadol yr Athro Bisson y gall 3MDR fod yn driniaeth effeithiol. Yn bwysicach fyth na'r ymchwil ei hun yw'r effaith y bydd yn ei chael yn y pen draw ar wella lles seicolegol cymuned cyn-aelodau’r lluoedd arfog.
“Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r wobr hon iddo i gydnabod yr ymchwil arloesol y mae wedi’i harwain, a’r effaith ryfeddol y gallai ei chael ar y nifer bach o gyn-bersonél y Lluoedd Arfog â PTSD nad ydynt yn ymateb yn llwyddiannus i driniaeth.”
Dywedodd yr Arglwydd Ashcroft, Noddwr Canolfan Ymchwil FiMT:
“Wrth weithio fel Cynrychiolydd Arbennig y Prif Weinidog ar gyfer Veterans’ Transition am chwe blynedd tan 2018, deuthum yn ymwybodol o faint yn union o gyn-aelodau’r lluoedd arfog a oedd yn dioddef o PTSD a’r effaith ofnadwy y mae’n ei chael ar gynifer o fywydau.
“Rwyf wrth fy modd bod ffyrdd arloesol ac effeithiol yn cael eu darganfod i fynd i’r afael â PTSD ymhlith cyn-aelodau’r lluoedd arfog.
“Fy mlaenoriaeth yw cydnabod ymchwil sy’n trosi’n weithredu uniongyrchol, ac mae’r gwaith gan yr Athro Bisson yn gwneud hynny i’r dim. Rwy’n ei ganmol am hyn.”
Darllenwch y crynodeb gweithredol o ganfyddiadau’r astudiaeth 3MDR a'r adroddiad llawn amdanynt.