Mae ymweliadau arbenigol â chartrefi yn gwneud ysgolion yn fwy parod ac yn gwella dysgu, ond nid yw’n lleihau cam-drin ac esgeulustod erbyn Cyfnod Allweddol 1, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd
10 Chwefror 2021
Mae adroddiad newydd dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a ryddhawyd heddiw gan NIHR yn rhoi cipolwg newydd ar sut y gall ymweldiadau arbenigol â chartrefi gefnogi teuluoedd. Mae'r Bartneriaeth Nyrsys Teulu (FNP) yn rhoi cefnogaeth ddwys i famau yn eu harddegau sy'n disgwyl eu plentyn cyntaf, drwy raglen o ymweliadau cartref a allai ymestyn hyd at ail ben-blwydd y plentyn.
Mae'r adroddiad newydd a ariannwyd ac a gyhoeddwyd gan raglen Ymchwil Iechyd Cyhoeddus NIHR yn dangos sut mae plant teuluoedd sydd â chymorth nyrs arbenigol yn perfformio'n well mewn profion cenedlaethol o barodrwydd ar gyfer mynd i’r ysgol yn bedair oed (Proffil Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar) a hefyd yn sgorio'n uwch ar ddarllen yng nghyfnod allweddol 1 pan fydd plant rhwng 6 a 7 oed.
Fodd bynnag, ar gyfer mesurau allweddol eraill, ni wnaeth y rhaglen unrhyw wahaniaeth erbyn 7 oed, yn enwedig cyfraddau lle roedd plant yn cael eu cyfeirio at wasanaethau cymdeithasol neu eu hasesu fel rhai oedd angen cymorth ychwanegol.
Dywedodd y prif ymchwilydd, yr Athro Mike Robling, Cyfarwyddwr Iechyd y Boblogaeth yng Nghanolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd, 'mae'r astudiaeth yn ehangu ein dealltwriaeth yn sylweddol o sut mae'r rhaglen FNP yn cefnogi teuluoedd yn y DU. Cyn hyn, roeddem yn gwybod beth oedd y buddion hirdymor tebygol, ond bellach mae gennym ddealltwriaeth gliriach o effaith tymor hwy'r rhaglen i rai o'r teuluoedd mwyaf agored i niwed yn ein cymuned'.
'Roedd plant o deuluoedd yr oedd Nyrsys Teulu yn ymweld â nhw yn fwy parod yn gyffredinol i fynd i’r ysgol yn eu blwyddyn gyntaf yn y dderbynfa. Erbyn i'r un plant gyrraedd cam allweddol 1, roeddent yn dal i wneud yn well yn ôl mesurau darllen a aseswyd gan athrawon. Mae'n amlwg bod y gefnogaeth gynnar a gawsant wedi cael effaith barhaus arnynt. Mae hyn yn codi'r gobaith o gael effaith fuddiol tymor hwy hyd yn oed ar gyfleoedd bywyd y plant hyn.’
Serch hynny, nid oedd tystiolaeth o effaith y rhaglen ar ganlyniadau sy'n arwydd o gamdriniaeth neu esgeulustod, sef nod allweddol y rhaglen. Felly, mae'r canlyniadau'n cyflwyno darlun cymysg, a bydd llunwyr polisi am ystyried eu blaenoriaethau eu hunain wrth benderfynu sut mae'r dystiolaeth hon yn llywio datblygiadau yn y dyfodol wrth gefnogi teuluoedd.'
Mae’r prif ganfyddiadau'n cynnwys:
Wrth gymharu teuluoedd sy'n derbyn ymweliad arbenigol â'r cartref a'r rhai na wnaethant:
Nid oedd unrhyw wahaniaethau yng nghyfraddau'r plant a gyfeiriwyd at wasanaethau cymdeithasol, y rhai a oedd wedi'u cofrestru fel rhai a oedd angen cymorth ychwanegol, yn cael cynllun amddiffyn plant neu'n derbyn gofal.
Nid oedd unrhyw wahaniaethau yng nghyfraddau’r plant sy'n mynd i’r ysbyty neu'n cael eu derbyn i'r ysbyty am anafiadau neu wedi llyncu rhywbeth, nac am ba hyd yr oeddent yn aros yn yr ysbyty os oeddent yn cael eu derbyn.
Roedd plant o deuluoedd yr oedd Nyrs Teulu yn ymweld â nhw yn fwy tebygol o gyflawni lefel dda o ddatblygiad adeg dosbarth derbyn. Cryfhawyd yr effaith hon pan oeddem yn cyfrif am fis geni'r plentyn.
Nid oedd unrhyw wahaniaethau ystadegol arwyddocaol o ran mesurau addysgol yng nghyfnod allweddol 1. Fodd bynnag, pan wnaethom addasu ar gyfer mis geni plentyn, roedd teuluoedd yr oedd Nyrs Teulu yn ymweld â nhw yn fwy tebygol o gyrraedd y safon ddisgwyliedig mewn darllen.
Mae'r adroddiad yn argymell:
Lle mae FNP yn cael ei gomisiynu’n lleol o hyd, gall y canlyniadau astudio newydd hyn lywio’r gwaith o flaenoriaethu cleientiaid
Mae angen archwilio ymhellach pam fod y rhaglen yn mynd i'r afael â rhai o'i chanlyniadau arfaethedig, ond nid y cyfan, yn ôl pob golwg. Dylai hyn ystyried sut mae ei gweithredu mewn lleoliad yn y DU wedi bod yn wahanol i'w tarddiad yn yr UD a hefyd addasiadau diweddar a gyflwynwyd yn Lloegr
Dylid asesu a yw'r buddion a welwyd i blant yn eu bywyd ysgol yn ymestyn i'w blynyddoedd ysgol diweddarach, ac mae'r garfan bresennol o deuluoedd yn parhau i fod mewn sefyllfa dda i gyflawni hyn.
Rhagor o wybodaeth
Cefndir: Cynhaliodd tîm Caerdydd, dan arweiniad yr Athro Mike Robling, dreial gwreiddiol Blociau Adeiladu o'r Bartneriaeth Nyrsys Teulu a ddilynodd dros 1600 o deuluoedd yn Lloegr nes bod plant yn ddwy oed. Ariannwyd yr astudiaeth gan Raglen Ymchwil Polisi NIHR ac adroddodd ei phrif ganlyniadau yn 2016. Ychydig o fuddion a ddangosodd hyn i'r rhaglen ar ganlyniadau mamau a phlant, ond roedd rhai buddion dangosol ar gyfer canlyniadau gwybyddol ac iaith yr adroddwyd amdanynt yn fewnol.
Mae'r astudiaeth newydd yr adroddir amdano yn cynnwys dilyn yr un teuluoedd nes bod plant rhwng 6 a 7 oed (h.y. i asesiadau cyfnod allweddol 1). Cyflawnwyd hyn gan ddefnyddio model newydd o gysylltu cofnodion gwreiddiol y treial â data iechyd, addysg a gofal cymdeithasol a defnyddio hafan ddiogel data trydydd parti dibynadwy. Mae hyn wedi golygu bod cyfran uchel iawn o deuluoedd wedi cael eu dilyn yn llwyddiannus gan leihau rhagfarn yn y dadansoddiad presennol.
Mae’r gwaith hwn yn defnyddio data a gyflwynwyd gan gleifion ac a gasglwyd gan y GIG yn rhan o’u gofal a’u cymorth ac ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb fynediad at y data hwn. Mae’r NIHR yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi rôl data cleifion, wedi’i gyrchu a’i storio’n ddiogel, i fod yn sail ac i arwain gwelliannau mewn ymchwil a gofal: www.nihr.ac.uk/patientdata