Myfyriwr gradd Meistr rhagorol yn ennill Gwobr MSc Cymdeithas y Daearegwyr
12 Chwefror 2021
Llongyfarchiadau i Archie Bunney sydd wedi ennill Gwobr MSc Curry Cymdeithas y Daearegwyr 2020.
Dyfernir y wobr hon i'r traethawd ymchwil gradd Meistr gorau yn y Deyrnas Unedig ar bwnc sy'n gysylltiedig â daeareg ac mae’n cynnwys gwobr ariannol o £1000, ynghyd ag aelodaeth o Gymdeithas y Daearegwyr am y flwyddyn galendr ganlynol.
Enillodd Archie am ei draethawd Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol (MSc) oedd yn dwyn y teitl 'Geoconservation and geotechnical engineering of geosites within the newly designated Black Country UNESCO Global Geopark, compared to sites within GEOMON Anglesey UNESCO Global Geopark’. Creodd ei waith argraff fawr ar banel Cymdeithas y Daearegwyr, ac roeddent o'r farn ei fod o safon PhD.
Dywedodd Archie, “Roedd yn rhaid i mi gynnal fy nhraethawd hir yn annibynnol ar unrhyw nawdd cwmni neu leoliad diwydiannol ac o dan gyfyngiadau cenedlaethol a lleol amrywiol, tra hefyd yn cysgodi yn ystod yr amser anodd hwn. Nid oeddwn yn disgwyl cael fy marcio mor uchel ag y gwnes i, ac nid oeddwn erioed wedi disgwyl ennill Gwobr Curry MSc."
Mae Geoparc Byd-eang UNESCO y Wlad Ddu, a ddynodwyd ym mis Gorffennaf 2020, yn sefyll ar wahân i'w 160 cydwladwr yn ei drefoli helaeth; mae ei holl nodweddion daearegol wedi cael eu dinoethi oherwydd ei hanes diwydiannol hir. Mae o ddiddordeb aruthrol i ddaearegwyr a rhai nad ydynt yn ddaearegwyr fel ei gilydd, ac ni allwn ei argymell yn uwch."
Graddiodd Archie mewn Daeareg (BSc) yn 2019 gyda gradd israddedig dosbarth cyntaf ac aeth ymlaen i astudio Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol (MSc) lle graddiodd gyda Rhagoriaeth yn 2020.
Mae gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd record ragorol o ennill y wobr. Mae buddugoliaeth ddiweddar Archie yn nodi’r 5ed tro i fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd ennill Gwobr Curry ers iddi ddechrau yn 2009.
Cymdeithas y Daearegwyr (GA) yw cartref daeareg broffesiynol ac amatur yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n gweithredu fel fforwm ar gyfer selogion o bob oed ac yn cynrychioli buddiannau daeareg ar lefelau lleol a chenedlaethol. Mae'n cydnabod cyfraniadau gwyddonwyr daear trwy ddyfarnu medalau, gwobrau, a grantiau i fyfyrwyr ac ymchwilwyr a thrwy Gronfa Curry.
Sefydlwyd Cronfa Curry Cymdeithas y Daearegwyr ym 1986 trwy rodd gan Dennis Curry (1912- 2001). Er bod Curry yn fwyaf adnabyddus fel Rheolwr Gyfarwyddwr ar y cyd (1946-1968) a Chadeirydd (1968-1984) ar gadwyn nwyddau trydanol y stryd fawr, Currys Ltd, roedd hefyd yn ddaearegwr a phalaeontolegydd dawnus, er nad oedd yn gweithio yn y maes yn broffesiynol, gyda mwy na 130 o gyhoeddiadau ar y pwnc.