Pafiliwn Grange ar y rhestr fer yng Ngwobrau Eiddo Caerdydd
8 Chwefror 2021
Mae'n bleser gan bartneriaeth adeiladu Pafiliwn Grange o Borth Cymunedol, Bwrdd Pafiliwn Grange, IBI Group, Pensair Dan Benham a Cardiff Planning gyhoeddi bod Pafiliwn Grange ar y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau Eiddo Caerdydd 2021: Trawsnewid a Datblygu Dinesig.
Gan gefnogi ymgysylltiad creadigol ac ymroddedig â rhanddeiliaid dros gyfnod o dair blynedd, roedd cysyniad dylunio IBI Group yn seiliedig ar gynhwysiant, perchnogaeth gan breswylwyr, cydlyniant cymdeithasol a lles cymunedol.
Mae adeilad y Pafiliwn yn cynnwys tri lle mawr sy'n hawdd eu bwcio gan breswylwyr cymunedol a grwpiau sy'n galluogi rhyngweithio o ansawdd da gan gynnwys clybiau gwaith cartref, therapi celf a gweithgareddau chwaraeon dan do, siop goffi sy'n cyflogi preswylwyr Grangetown, swyddfa a thoiledau hygyrch. Dyluniwyd ystafell ddosbarth allanol hefyd, gan greu gofod dysgu a chydweithio awyr agored sy'n gysylltiedig ag ysgolion lleol a gweithgareddau garddio cymunedol ar ôl ysgol.
Mae deunyddiau adeiladu yn cyd-fynd â gwaith brics presennol y tai teras o'u cwmpas ac yn cynrychioli wal yr ardd gwaith maen sy'n lapio ffasâd y gogledd a'r dwyrain, gan weithredu fel ffin addas sy'n creu rhyngweithio â'r parc Fictoraidd presennol.
Mae morter calch yn y gwaith brics yn cyd-fynd â'r gwaith cerrig presennol ar dai cyfagos, ac mae cladin pren du yn cyd-fynd â'r byrddau pren ar lain y to. Mae to igam-ogam yn adleisio tai teras yr ardaloedd cyfagos, ac mae to sinc yn adlewyrchu to'r stand band cyfagos ac, mewn ffordd fodern, y to llechi o'r tai cyfagos. Mae briciau gwenyn, adar ac ystlumod wedi'u gosod i greu cartref ar gyfer pryfed a gweithgaredd anifeiliaid, ac i ddarparu man nythu.
Mae ailddatblygu'r mannau gwyrdd yn cynnwys ardaloedd ar gyfer nifer o weithgareddau cymunedol. Dyluniwyd, adeiladwyd a gosodwyd y rhain yn unol â mentrau cymunedol.
Mae ardaloedd bywyd gwyllt cyfagos yn cynnwys cymysgedd rhywogaethau planhigion arbennig wedi'i lywio gan brosiect Pharmabees Prifysgol Caerdydd, dan arweiniad yr athro Les Baillie, a ddyluniwyd i helpu i greu Mêl Manuka Cymreig.
Mae system ddraenio gynaliadwy wedi'i hintegreiddio i ddyluniad y dirwedd i gefnogi gwell rheolaeth ar gylchrediad dŵr. Dyluniwyd system gerddi glaw a swales hefyd i storio a rhyddhau dŵr wyneb yn araf.
Bydd Gwobrau eiddo Caerdydd yn cael eu cynnal fel rhan o symposiwm ddydd Gwener 26 Mawrth rhwng 2-5pm