Ewch i’r prif gynnwys

O’r Fferm i’r Fforc: Cynulliad y Werin ar ddyfodol bwyd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd

10 Chwefror 2021

Food Assembly

Mae Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd a Bwyd Caerdydd yn lansio adroddiad a fideo newydd o O'r Fferm i'r Fforc: Cynulliad y Werin ar ddyfodol bwyd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae'r adroddiad yn rhannu barn dros 70 o bobl sy'n byw ac yn gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a ddaeth at ei gilydd ar-lein ar 7 Tachwedd 2020 i ddychmygu dyfodol bwyd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC 2020, trefnwyd y digwyddiad Cynulliad y Werin mewn partneriaeth gyda Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy, Prifysgol Caerdydd. Gan ymateb i alwadau am gyfranogiad y cyhoedd, nod y digwyddiad oedd creu lle i gynnal deialog gyhoeddus ynghylch dyfodol bwyd yng Nghymru. Mae’r digwyddiad ar-lein yn adeiladu ar nifer o gynulliadau’r werin eraill ar fwyd a ffermio a gynhaliwyd ledled Cymru ers dechrau’r cyfnod clo. I gael rhagor o wybodaeth am gynulliadau'r werin, cyfeiriwch at ein canllaw cryno.

Phil

Mae canfyddiadau'r digwyddiad wedi ffurfio sail ar gyfer gweledigaeth a chynllun bwyd cynaliadwy drafft Bwyd Caerdydd ar gyfer y ddinas. Gall unigolion a sefydliadau barhau i gyd-gynllunio'r strategaeth yn ystod y cyfnod ymgynghori rhwng 15 Chwefror a 15 Mawrth 2021: ewch i Food Cardiff i gymryd rhan.

"Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld mudiad bwyd da ac ymgyrch gadarnhaol dros newid ar draws dinas-ranbarth Caerdydd. Roedd hwn yn gyfle gwych i ddod â phobl ynghyd o bob rhan o'r rhanbarth i danio'r egni hwn a ffurfio'r hyn sy'n dod nesaf" dywed Pearl Costello, Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Bwyd Caerdydd.

Dywed Alice Taherzadeh, ymchwilydd yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy: "Rydyn ni'n credu y dylid cyd-gynhyrchu polisi bwyd ar gyfer system fwyd gynaliadwy a chyfiawn nid yn unig gyda'r rheini sy'n cynhyrchu ac yn gwerthu bwyd, ond hefyd gyda defnyddwyr a grwpiau cymunedol.  Mae creu mannau lle gall pobl drafod y materion hyn a theimlo eu bod yn cael gwrandawiad yn hanfodol er mwyn cefnogi dinasyddiaeth fwyd weithredol. Fel gwyddonwyr cymdeithasol, mae gennym ddiddordeb yn y ffordd y mae pobl yn profi’r prosesau democrataidd ystyriol hyn a chanlyniadau dod â gwahanol safbwyntiau i sgwrsio â’i gilydd. ”

People Assembly

Mae'r adroddiad ar gael yma.

O’r Fferm i’r Fforc: Cynulliad y Werin ar ddyfodol bwyd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd

O’r Fferm i’r Fforc: Cynulliad y Werin ar ddyfodol bwyd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae ffilm a grëwyd gan Mud and Thunder yn cyflwyno'r datganiadau allweddol y cytunodd cyfranogwyr y digwyddiad arnyn nhw.

Mae ffilm a grëwyd gan Mud and Thunder yn cyflwyno'r datganiadau allweddol y cytunodd cyfranogwyr y digwyddiad arnyn nhw.

Datganiadau Allweddol

Mae'r datganiadau canlynol yn amlinellu'r hyn yr hoffai aelodau cynulliad y bobl, O’r Fferm i’r Fforc, ei weld yn newid yn system fwyd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd erbyn 2040:

  1. Rydym am weld mwy o fwyd yn cael ei gynhyrchu’n gynaliadwy yn ein rhanbarth.
    Byddai hyn yn golygu atal arferion ffermio sy’n diraddio pridd, a chefnogi arferion ffermio sy’n gwella pridd
  2. Rydym am weld mwy o fwyd yn cael ei gynhyrchu’n rhanbarthol a chryfhau economïau bwyd rhanbarthol.
    I wneud hyn mae angen ffyrdd mwy cydweithredol o fasnachu ar gyfer cynhyrchwyr a defnyddwyr ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
  3. Mae angen i ni amddiffyn y mannau gwyrdd sydd gennym. Rydym am weld mwy o fannau gwyrdd ar gael ac yn cael eu defnyddio i dyfu bwyd.
  4. Mae angen addysg arnom am dyfu, coginio a maeth ar bob lefel – mewn unedau meithrin, ysgolion, colegau a phrifysgolion – ac mewn cymunedau.
  5. Rydym am weld sefyllfa lle mae bwyd fforddiadwy, tymhorol ac o safon yn rhan o’r drefn arferol.
    Byddai hyn yn golygu cadwyn gyflenwi fyrrach a mwy o ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o faint mae bwyd rhad yn ei gostio mewn gwirionedd
  6. Rydyn ni am roi diwedd ar ansicrwydd bwyd a gwneud yn siŵr bod bwyd maethlon ac iach ar gael i bawb.
    Beth pe bai gennym 'siopau cornel iach' lle mae ffrwythau a llysiau ar gael yn rhatach?
  7. Rydym am weld cymunedau’n cydweithio er mwyn llunio’u system fwyd leol.
    Mae angen mwy o gyfathrebu arnom trwy fforymau sy'n canolbwyntio ar fwyd a gwell cysylltiadau rhwng cynhyrchwyr, defnyddwyr, cyrff cyhoeddus a llunwyr polisïau fel bod camau'n gysylltiedig.
  8. Mae angen hinsawdd wleidyddol ffafriol a fframweithiau cyfreithiol arnom i gyflymu newid ac atal arferion sy'n niweidio pobl neu'r amgylchedd.

Rhannu’r stori hon