Archaeoleg arloesol yng nghyfnod y pandemig
4 Chwefror 2021
Y Gloddfa Fawr ac Archaeoleg Cwpwrdd gan Brosiect Bryngaer Gudd Treftadaeth CAER yn derbyn cydnabyddiaeth am weithgareddau arloesol yn ystod y cyfnod clo.
Gan addasu cynlluniau 2020 ar gyfer y cyfnod clo, ymatebodd Prosiect arobryn Bryngaer Gudd Treftadaeth CAER i amgylchiadau esblygol Covid19 drwy ddyfeisio'r Gloddfa Fawr ac Archaeoleg Cwpwrdd a'r cynllun Parseli Bwyd yn seiliedig ar Dreftadaeth gan sicrhau effaith gymdeithasol ac ymchwil sylweddol er gwaethaf anawsterau'r pandemig.
Mae'r prosiect creadigol cymunedol wedi'i gydnabod yng Ngwobrau Marsh Cyngor Archaeoleg Prydain, gan ennill y categori Prosiect Gorau gyda chefnogaeth cyflogedig.
Ar gyfer y Gloddfa Fawr, bu aelodau o'r gymuned yn gwneud gwaith cloddio archeolegol yn eu gerddi er mwyn adrodd stori ehangach yr ardal, gan osod y fryngaer sy'n edrych dros eu cartrefi yn ei chyd-destun.
Llwyddodd pob oedran yn y gymuned i ddod o hyd i'w darganfyddiadau eu hunain gyda chymorth cyfarwyddiadau arbenigol a grëwyd yn bwrpasol ac a nodwyd gan archeolegwyr proffesiynol o Gaerdydd a Phrifysgol Lincoln.
Bu mwy fyth o aelodau'r gymuned yn cloddio am wrthrychau coll yn eu cartrefi ar gyfer Archaeoleg Cwpwrdd, gan fyfyrio ar straeon y gwrthrychau a phostio bywgraffiadau, fel bod cyfle i'r rheini oedd heb fannau agored gymryd rhan hefyd.
Ac ysbrydolodd treftadaeth y safle ryseitiau hanesyddol ar gyfer Parseli Bwyd Treftadaeth, a ddanfonwyd yn ddiogel i gyfranogwyr yn sgil y cynnydd mewn tlodi bwyd a banciau bwyd yn genedlaethol.
Cyrhaeddodd y prosiect dros 130 o unigolion mewn 39 o gartrefi, a 30 o ddisgyblion blwyddyn pump mewn un ysgol leol gyda'r gweithgareddau archaeoleg. Cyrhaeddodd 25 cartref arall gyda pharseli bwyd treftadaeth bob pythefnos.
Sefydlwyd Treftadaeth CAER ddegawd yn ôl ac mae'n canolbwyntio ar ymchwilio Bryngaer Caerau mewn prosiect cydweithredol gyda Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, Prifysgol Caerdydd, ysgolion lleol, preswylwyr, grwpiau cymunedol ac eraill ym maestrefi gorllewinol Caerau a Threlái yng Nghaerdydd.
Addasodd y prosiect esblygol i bandemig Covid-19 a'i effeithiau difrifol, gan ganolbwyntio ar gymuned Caerau a Threlái, sy'n wynebu diweithdra cynyddol, gyda llawer mwy o deuluoedd yn ei chael yn anodd yn ariannol ac yn gymdeithasol, fel cynifer o lefydd eraill yn y DU.
Roedd gweithgaredd Cloddfa Fawr CAER yn galluogi gwirfoddolwyr i wneud pob un o'r pum math o weithgaredd sy'n gwella lles meddyliol: gweithredu'n gorfforol, dysgu rhywbeth newydd, cysylltu gyda phobl eraill, gwneud cyfraniad, a chanolbwyntio ar y funud.
Gyda 100% o'r ymatebwyr yn teimlo mwy o gyswllt gyda threftadaeth leol a bod y gweithgaredd yn lleddfu unigedd cymdeithasol y cyfnod clo, ac 85% yn dweud bod cyfranogi wedi gwneud iddyn nhw deimlo'n fwy cadarnhaol am eu sefyllfa, mae'r canlyniadau cymdeithasol yn sylweddol.
Dywedodd y cyd-gyfarwyddwr Dr Oliver Davis: "Mae'r prosiect wedi helpu pobl i gysylltu â'u treftadaeth leol ac wedi helpu i fynd i'r afael ag angen cymunedol go iawn yn y cyfnod clo hwn"
Yn nhermau ymchwil, mae darganfod offer fflint Neolithig a chrochenwaith o'r Oes Haearn yn awgrymu anheddiad cynhanesyddol yn yr ardal nad oedd yn wybyddus hyd yma, tra bo llu o arteffactau modern yn adrodd stori fodern yr ardal, wedi'i rhannu mewn blogiau. Yn fuan, bydd y darganfyddiadau i'w gweld mewn amgueddfa ddigidol, fydd yn arddangos canfyddiadau i gynulleidfa fyd-eang fwy fyth.
Mae'r archeolegydd Carenza Lewis o Brifysgol Lincoln fu'n cyfranogi ac sy'n adnabyddus i wylwyr TimeTeam, yn dyst i effaith y prosiect:
“Mae prosiect Treftadaeth CAER wedi gwneud cyfraniad rhyfeddol yn ystod pandemig Covid-19. Nid yn unig y llwyddodd y prosiectau i gynnal cysylltiad gwirfoddolwyr ag archeoleg, llwyddon nhw hefyd i'w gynyddu, drwy gyrraedd pobl a lleoedd na fu'n gysylltiedig o'r blaen.
"Roedd y prosiect Archaeoleg Cwpwrdd yn galluogi pobl nad oedd yn gallu cloddio i gysylltu â'r ffyrdd mae gwrthrychau ffisegol yn ein helpu i ddeall y gorffennol, gan ehangu eu dealltwriaeth bersonol o'r amgylchedd hanesyddol. Datblygodd y Gloddfa Fawr hefyd wybodaeth arbenigwyr am y ffordd roedd yr ardal o amgylch y fryngaer gynhanesyddol, y fila Rufeinig a'r hen bentref gardd yn cael eu defnyddio yn y gorffennol, rhywbeth nad oedden nhw'n gwybod cyn hynny."
"Byddai hyn yn drawiadol unrhyw bryd, ond cymaint yn fwy felly yn ystod haf 2020 pan oedd popeth yn anoddach ei drefnu oherwydd y cyfnod clo. Yr hyn sydd bwysicaf, i mi, yw'r ffordd mae gweithgareddau CAER 2020 yn dangos gofal gwych a diffuant y fenter archeolegol hon, sydd eisoes wedi ennill gwobrau, dros ei chymuned."