Ewch i’r prif gynnwys

Lansio adnoddau addysg newydd i nodi Diwrnod Canser y Byd, ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr

4 Chwefror 2021

Education resource image

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â Chanolfan Ymchwil Canser Cymru i lansio cystadleuaeth a phecyn addysg i nodi Diwrnod Canser y Byd.

Wedi'i ddatblygu gydag athrawon, ymchwilwyr a beirdd, nod y pecyn addysg newydd yw ysbrydoli cenhedlaeth o ymchwilwyr canser y dyfodol wrth wella sgiliau llythrennedd a chymhwysedd digidol.

Mae'r prosiect Mae Ymchwil yn fy Ysbrydoli (RIME) yn cynnwys cwis i addysgu am ffactorau risg canser, adnodd i helpu plant i asesu dilysrwydd honiadau ymchwil feddygol y maen nhw'n dod o hyd iddyn nhw ar-lein a chystadleuaeth sy'n eu herio i fod yn greadigol ac ysgrifennu cerdd am ymchwil canser.

Mae'r adnodd rhad ac am ddim wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio gan athrawon Saesneg, Cymraeg, PSE a gwyddoniaeth sy'n gweithio gyda disgyblion cyfnod allweddol tri (11 - 14 oed). Gall unrhyw un lawrlwytho'r adnoddau; gall fod o ddiddordeb arbennig i rieni sy'n chwilio am weithgareddau ysgol gartref yn ystod y cyfnod clo presennol.

Mae'r gystadleuaeth yn lansio heddiw ac yn gwahodd disgyblion ysgol i ysgrifennu cerdd am ymchwil canser. Er mwyn eu hysbrydoli, mae'r beirdd Ifor ap Glyn (Bardd Cenedlaethol Cymru) ac Owen Sheers wedi cyfansoddi gwaith eu hunain, yn seiliedig ar sgyrsiau gyda rhai o'r ymchwilwyr sy'n taclo canser yng Nghymru.

Dywedodd Dr Joanna Zabkiewicz, ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n datblygu triniaethau newydd ar gyfer cleifion canser: “Mae'n bwysig iawn annog pobl ifanc i feddwl am yrfaoedd mewn ymchwil canser. Mae mynd i'r afael â chanser yn gofyn am bobl mewn pob math o rolau: fferyllwyr, nyrsys, peirianwyr, rheolwyr data... a llawer mwy!

“Rwy'n gobeithio y bydd y ffilmiau hyn a'r pecyn addysg yn annog mwy o bobl i ddilyn gyrfaoedd mewn ymchwil feddygol.”

Helpodd Dr Kieran Foley, ymchwilydd clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd a radiolegydd ymgynghorol, i ddatblygu'r prosiect.

“Mae'n hyfryd gwybod bod fy ngwaith yn helpu i wella bywydau cleifion canser a gobeithio y bydd y pecyn addysg hwn yn annog pobl ifanc i ystyried dilyn gyrfa yn y maes,” meddai.

Dywedodd y bardd, awdur a dramodydd Sheers, a ysgrifennodd y gerdd Saesneg: “Roedd fy sgyrsiau gyda’r ymchwilwyr yn wirioneddol ysbrydoledig a gobeithio bod y gerdd ffilm yn mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at ysbrydoli cenhedlaeth o ymchwilwyr yn y dyfodol.”

Dywedodd Ap Glyn, a gyfansoddodd y gerdd Gymraeg: “Roedd yn fraint cael cyfrannu at y prosiect hwn, yn enwedig oherwydd y cyfle i siarad yn uniongyrchol â rhai o’r gwyddonwyr a’r meddygon sy’n gweithio’n gyson ar ymchwil canser yma yng Nghymru.”

Mae'r gystadleuaeth farddoniaeth ar agor tan 30 Ebrill 2021. Bydd y beirdd yn dewis un enillydd am gerdd Gymraeg ac un enillydd am gerdd Saesneg a byddant yn derbyn £150 yr un mewn tocynnau llyfr ar gyfer eu hysgol. Bydd eu cerddi’n cael eu harddangos yn gyhoeddus mewn cyfleuster ymchwil canser.

Mae'r ffilmiau a'r pecyn addysg ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac maent am ddim i'w lawrlwytho yma. Fe'u cynhyrchwyd mewn cydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd, Canolfan Ymchwil Canser Cymru a'r Ganolfan Ymchwil Treialon, gyda chyllid gan Ymddiriedolaeth Wellcome.

https://youtu.be/3MtI2nUJuGQ

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.