Myfyriwr Prifysgol Caerdydd yn awdur cyntaf ar bapur ymchwil - cyn iddi orffen ei gradd gyntaf hyd yn oed
4 Chwefror 2021
Mae llawer o wyddonwyr yn treulio blynyddoedd yn gweithio tuag at y freuddwyd o ddod yn awdur cyntaf ar bapur ymchwil gwyddonol.
Ond i Amy Murray, sy'n 21 oed, mae'r freuddwyd eisoes yn wiri - cyn iddi orffen ei gradd gyntaf hyd yn oed.
Mae'n llwyddiant prin ac yn un y mae Amy, myfyriwr israddedig niwrowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ei chael hi'n anodd i'w gredu.
"Pan ddywedodd fy ngoruchwylwyr y dylwn i gyflwyno papur ar gyfer cyhoeddiad cyfnodolyn, doeddwn i ddim yn gwybod pa mor anarferol oedd hi i fyfyriwr fod yn awdur cyntaf - ro'n i'n meddwl
'Wel, bydd hyn yn cŵl ac yn edrych yn dda ar fy CV'", meddai Amy, sydd yn ei blwyddyn olaf.
"Pan gefais yr ebost i ddweud y byddai'n cael ei gyhoeddi, dechreuais ddawnsio o amgylch yr ystafell cyn ffonio fy mam. Y peth cyntaf ddwedodd hi oedd 'mae fy merch yn mynd i fod yn enwog' - ac roedd rhaid i mi ddweud 'Na mam, gan bwyll, dwi'm yn enwog eto."
Mae'r papur, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Neurobiology of Aging, yn archwilio'r cysylltiadau rhwng y risg genetig o ddatblygu clefyd Alzheimer a'r effaith ar faint strwythurau allweddol yr ymennydd.
Mae'n ychwanegu at ymchwil gynyddol i sail genetig y clefyd hwn sy'n gwaethygu dros amser. Gyda lwc, bydd yn adnabod ardaloedd o'r ymennydd sydd angen eu targedu cyn i'r afiechyd ennill ei blwyf.
Dechreuodd Amy ymddiddori gyntaf mewn gwyddoniaeth pan roedd hi yn yr ysgol gynradd yng ngogledd Iwerddon.
Mae'n cofio dysgu am gyhyrau, meinweoedd ac organau'r corff, a gofyn i'r athro sut roedd yr ymennydd yn gweithio. Atebodd: "Dwi'm yn gwybod, ond efallai y byddi di'n gallu dysgu am hynny yn y dyfodol."
Yn ei harddegau, roedd yn gwneud yn dda iawn yn yr ysgol, ond yn dioddef gydag iselder.
Yr iselder wnaeth ysbrydoli Amy i astudio'r ymennydd, fel bod modd iddi ddeall yn well sut roedd hi'n teimlo.
"Pan ro'n i tua 14 neu 15, dechreuais deimlo'n isel iawn ond nes i erioed ddweud wrth neb - ro'n i'n meddwl mai'r glasoed oedd e," meddai Amy.
“Fe barhaodd trwy f'arddegau. Dwi'n cofio meddwl beth oedd yn bod gyda fy ymennydd oedd yn gwneud i mi deimlo fel hyn."
Mae Amy yn parhau i frwydro ag iselder, ond mae'n dweud bod dysgu amdano a'i achosion yn ystod ei gradd wedi bod o gymorth.
"Dwi'n bwyta'n dda, yn ymarfer corff, yn byw'n dda - mae'n ddefnyddiol gwybod bod sail fiolegol i sut rydw i'n teimlo, a bod ffyrdd o helpu hyn," meddai Amy.
"Dwi wedi clywed 'gwena' neu 'brysia' lawer gwaith. Mae angen i’r cyhoedd ymgysylltu’n well â gwyddonwyr ac ymchwil ar broblemau iechyd meddwl a'u mecanweithiau sylfaenol."
Penderfynodd Amy gyflawni blwyddyn ar leoliad yn CUBRIC (Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd) i gael hyfforddiant ar MRI ac ymchwil genetig.
Yn ystod y flwyddyn hon y llwyddodd i weithio ar yr astudiaeth, gyda chefnogaeth Dr Thomas Lancaster a Dr Hannah Chandler.
"Dwi wedi datblygu'n sylweddol yn academaidd ac yn bersonol oherwydd y gefnogaeth a'r cyfleoedd a gefais gan Tom a Hannah - dwi wirioneddol wedi bod wrth fy modd yn dysgu ac yn prosesu data, yn codio, ac yn ychwanegu at y papur gafodd ei gyhoeddi," meddai Amy.
"Dwi wedi bod wrth fy modd yn gweithio ar bob agwedd ar yr astudiaeth - mae wedi gwneud i mi fod eisiau gwneud mwy o ymchwil ymarferol."
Ar hyn o bryd mae Amy yn cyflwyno ceisiadau PhD i ddechrau ym mis Hydref, ac mae'n gobeithio parhau i ymchwilio i sail genetig newidiadau yn yr ymennydd a welir mewn anhwylderau niwroddatblygiadol a chlefydau niwroddirywiol, gan ddefnyddio genomeg, modelu cyfrifiadurol a niwroddelweddu.
“I have advanced academically and personally in leaps and bounds from the support and opportunities afforded to me by Tom and Hannah – and I’ve genuinely loved learning and actively processing data, coding, and adding to the published paper,” says Amy.
“I loved working on every aspect of the study – and it’s really made me want to do more hands-on research.”
Amy is currently applying for PhD positions to start in October and hopes to continue researching the genetic basis of changes in the brain seen in neurodevelopmental disorders and neurodegenerative diseases, using genomics, computational modelling and neuroimaging.