Menyw yn cymryd yr awenau am y tro cyntaf
2 Chwefror 2021
Mae Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd wedi croesawu’r Athro Gill Bristow fel Pennaeth newydd yr Ysgol.
Gill yw’r fenyw gyntaf i fod yn Bennaeth ar yr Ysgol ers iddi agor 55 mlynedd yn ôl. Mae hi’n olynu'r Athro Paul Milbourne sy'n rhoi’r gorau i’r swydd ar ôl wyth mlynedd lwyddiannus.
Ychwanegodd: “Rydym yn Ysgol arbennig o gryf gydag arbenigedd o bwys mewn meysydd sy’n gysylltiedig â datblygiad a chynaladwyedd ar sail lleoedd, materion sy’n berthnasol i rai o heriau amlycaf ein hoes. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chydweithwyr, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a’n partneriaid er mwyn parhau i wella a rhannu ein dealltwriaeth o’r heriau hyn.”
Ar ôl cwblhau ei PhD mewn Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd, ymunodd Gill â Phrifysgol Caerdydd ym 1995 fel darlithydd mewn Economeg cyn symud i'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio fel Darlithydd mewn Daearyddiaeth Economaidd yn 2001. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys datblygiad economaidd rhanbarthol, cadernid economaidd rhanbarthol, cystadleurwydd lleol/rhanbarthol a pholisïau rhanbarthol.
Yn fwy diweddar, bu Gill yn Ddeon Ymchwil ac Arloesedd Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Roedd y rôl eang hon yn cynnwys cefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth Ymchwil ac Arloesedd y Brifysgol, ac agenda ymchwil y Coleg. Ar ben hynny, arweiniodd Gill ar baratoadau'r Coleg ar gyfer cylch presennol y Rhagoriaeth Fframwaith Ymchwil (REF) a datblygu amgylchedd a diwylliant ymchwil y Coleg.