Gwyddonwyr i greu mwgwd wyneb sy'n ffitio'n berffaith
28 Ionawr 2021
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Southampton wedi cydweithio i greu mwgwd wyneb sy'n ffitio'n berffaith, gan helpu i amddiffyn gweithwyr rheng flaen sydd wrth wraidd pandemig y coronafeirws.
Mae'r tîm yn defnyddio meddalwedd gyfrifiadurol o'r radd flaenaf a sganiau wyneb MRI i bennu'n union sut mae offer amddiffynnol anadlol (RPE) yn rhyngweithio ag ystod o siapiau a meintiau wyneb.
Ar hyn o bryd, mae mygydau wyneb fel arfer yn cael eu dylunio ar gyfer gweithlu gwrywaidd gwyn, sydd weithiau'n rhy dynn oherwydd nad yw'n ffitio'n gywir, all arwain at anafiadau meinwe meddal a risg uwch o gael haint.
Gan weithio gyda gweithgynhyrchwyr y DU, mae'r tîm yn gobeithio datblygu templedi dylunio ar gyfer mygydau newydd yn ogystal â dulliau prawf safonol i werthuso'r risg o anaf i'r wyneb.
Maent hefyd yn datblygu meddalwedd ffitio deallus ar ffurf ap ffôn clyfar am ddim a fydd yn galluogi defnyddiwr i ddewis y mwgwd sy'n ffitio orau ar eu cyfer.
“Mae RPE sy'n ffitio'n gywir yn hollbwysig, gydag unrhyw ollyngiad yn peri risg o drosglwyddo aerosol o COVID-19,” meddai’r Athro Sam Evans o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd.
Nododd adroddiad yn 2017 gan yr undeb llafur TUC fod "y rhan fwyaf o PPE yn seiliedig ar feintiau a nodweddion poblogaethau gwrywaidd o rai gwledydd yn Ewrop a'r Unol Daleithiau".
"O ganlyniad, mae'r rhan fwyaf o fenywod, a llawer o ddynion hefyd, yn cael trafferth yn dod o hyd i PPE addas a chyffyrddus oherwydd nad ydyn nhw'n cydymffurfio â'r model gweithwyr gwrywaidd safonol hwn," meddai.
Datgelodd arolwg diweddar ar raddfa fawr yn Tsieina fod tua 42% o weithwyr ysbyty wedi nodi anafiadau meinwe meddal, a oedd yn cynnwys anafiadau pwysau yn gysylltiedig â dyfeisiau, dermatitis croen sy'n gysylltiedig â lleithder a dagrau croen.
Fel rhan o'r astudiaeth, defnyddir modelu cyfrifiadol a sganio MRI i archwilio sut mae meinweoedd meddal yr wyneb yn dadffurfio pan fyddant mewn cysylltiad â mwgwd.
Bydd gwirfoddolwyr yn cael sgan MRI tri dimensiwn o'u hwyneb gyda a heb fwgwd gan ddefnyddio sganwyr o'r radd flaenaf yng Nghanolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC).
Bydd y tîm hefyd yn archwilio effeithiau RPE ar iechyd croen ynghyd â defnyddio cronfeydd data mawr o siapiau wyneb i ymchwilio i ffit masgiau ar ystod fwy cynrychioliadol o ddefnyddwyr.
“Gan ddod â’r holl ymchwil hon at ei gilydd, rydym yn gobeithio creu cyfres o ddyluniadau y gellir profi RPE newydd a phresennol yn eu herbyn, gyda’r gobaith o gefnogi dyluniad masgiau wyneb newydd sy’n darparu ar gyfer ystod o siapiau wyneb,” parhaodd yr Athro Evans.
Bydd y tîm hefyd yn creu ap ffôn clyfar sy'n tynnu llun 3D o wyneb defnyddiwr ac yna'n nodi'r masgiau wyneb sy'n ffitio orau o ystod o opsiynau.
Dywedodd Dr Peter Worsley, Athro Cysylltiol mewn Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Southampton, sy'n arwain y tîm: “Mae cyfarpar diogelu personol, neu PPE, yn hanfodol i weithwyr rheng flaen, gan gefnogi diogelwch unigolion sy'n trin y rhai â COVID-19. Efallai na fydd y dyfeisiau hyn yn ffitio'n iawn a gallant achosi rhai adweithiau croen wrth eu gwisgo am gyfnodau hir. Bydd y prosiect hwn yn darparu templedi dylunio newydd ar gyfer dyfeisiau PPE diogel, gan sicrhau eu bod yn ffitio i bob unigolyn ac yn rhyngweithio'n ddiogel â'u croen. ”
Bydd y prosiect yn rhedeg am 18 mis ac mae wedi cael dros £350,000 gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol.