Ewch i’r prif gynnwys

Gwnaeth cannoedd o gyfrifon Twitter ffug, sydd wedi’u cysylltu â Tsieina, ledaenu twyllwybodaeth cyn etholiad yr UD - adroddiad

28 Ionawr 2021

Woman using mobile phone

Roedd gan weithrediad cyfryngau cymdeithasol soffistigedig sy'n gysylltiedig â Tsieina ran allweddol wrth ledaenu gwybodaeth ffug yn ystod ac ar ôl etholiad yr UD, yn ôl adroddiad gan Brifysgol Caerdydd.

Mae'r astudiaeth, gan y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch, yn dangos tystiolaeth bod gweithgareddau'r rhwydwaith wedi cyrraedd cynulleidfa eang. Un o’r enghreifftiau mwyaf llwyddiannus oedd fideo feirol sydd bellach wedi’i ddatgelu’n gelwydd, a rannwyd yn ddiweddarach gan Eric Trump, mab cyn-Arlywydd yr UD, Donald Trump. Roedd y fideo yn esgus dangos pleidleisiau'n cael eu llosgi ar ddiwrnod yr etholiad.

Daeth ymchwilwyr o hyd i dystiolaeth hefyd fod yr un rhwydwaith yn lledaenu propaganda gwrth-UDA a wnaeth annog trais cyn ac ar ôl terfysg y Capitol yn Washington ar 6 Ionawr 2021.

Dywedodd yr Athro Martin Innes, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch, sy'n arwain tîm ymchwil Dadansoddi Cyfathrebiadau o Ffynonellau Agored (OSCAR): “Er mai dim ond Twitter all gadarnhau eu cysylltiad, mae ein dadansoddiad drwy ddefnyddio olion ffynhonnell agored yn awgrymu’n gryf bod yna nifer o gysylltiadau â Tsieina. Awgrymodd ein canfyddiadau cychwynnol nad oedd yr ymgyrch yn arbennig o gymhleth, ond gan ein bod wedi archwilio’r rhwydwaith yn fwy manwl, bu’n rhaid i ni newid ein barn gychwynnol yn sylweddol. Roedd y cyfrifon yn ymddangos yn soffistigedig a disgybledig, ac yn ôl pob golwg wedi'u cynllunio i fedru osgoi cael eu canfod gan wrth-fesurau Twitter. Mae o leiaf un enghraifft o'r cyfrifon hyn a helpodd i ledaenu gwybodaeth ffug a gafodd ei gweld dros filiwn o weithiau."

Mae'n ymddangos fod y rhwydwaith wedi'i gynllunio i redeg fel cyfres o 'gelloedd' annibynnol bron, gyda'r cysylltiadau lleiaf posibl yn eu cysylltu. Mae'r strwythur hwn wedi'i gynllunio i amddiffyn y rhwydwaith yn ei gyfanrwydd os bydd un 'cell' yn cael ei darganfod. Mae hynny’n awgrymu tipyn o gynllunio ac ystyried ymlaen llaw. Felly, mae hyn yn nodi’r rhwydwaith fel ymgais sylweddol i ddylanwadu ar drywydd gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau gan actorion o dramor.

Yr Athro Martin Innes Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch

Ar ddiwrnod etholiad yr Unol Daleithiau (03/11/20), gwelwyd bod fideo camarweiniol o ddyn yn ffilmio’i hun yn llosgi pleidleisiau dros Trump ar Draeth Virginia yn cylchredeg ar draws sawl platfform. Yn ddiweddarach, daeth i’r amlwg mai samplau pleidleisio oeddynt, ond aeth y fideo’n wyllt yn gyflym pan rannodd tudalen Twitter swyddogol Eric Trump ddolen ati ddiwrnod yn ddiweddarach. Cafodd y fersiwn benodol hon ei gweld fwy na 1.2 miliwn o weithiau.

I ddechrau, tybiwyd yn eang bod y fideo yn tarddu o gyfrif sy'n gysylltiedig â QAnon, ond mae ymchwiliad gan Brifysgol Caerdydd wedi datgelu tystiolaeth bod dau gyfrif sy'n gysylltiedig â Tsieina, gan gynnwys un sydd wedi'i wahardd gan Twitter ers hynny, wedi rhannu'r fideo cyn hyn. Mae ymchwilwyr yn credu bod hyn wedi arwain at ledaeniad y cynnwys yn eang, sy'n parhau i gael ei rannu hyd heddiw.

Dechreuodd ymchwil gychwynnol OSCAR i'r rhwydwaith hwn saith diwrnod cyn etholiad yr UD. Fel sy’n cael ei nodi yn y cyntaf o ddau adroddiad, datgelodd y tîm fod mwy na 400 o gyfrifon yn gysylltiedig â gweithgareddau amheus. Anfonwyd y rhain ymlaen at Twitter, a oedd yn eu gwahardd o fewn ychydig ddyddiau.

Mae dadansoddiad diweddaraf y tîm yn yr ail adroddiad wedi datgelu nifer o gyfrifon ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r rhwydwaith sy'n dal i fod yn weithredol, gan awgrymu ei fod yn fwy cymhleth a gwydn nag a ystyriwyd i ddechrau. Mae eu canfyddiadau yn dangos bod gweithredwyr wedi ymateb yn gyflym i'r digwyddiadau yn y Capitol ar 6 Ionawr trwy gyflwyno ystod newydd o fideos propaganda Saesneg o ansawdd uchel sy'n targedu'r Unol Daleithiau o fewn oriau i'r trais.

Mae tystiolaeth gref eu bod yn gysylltiedig â Tsieina; mae'r fideos yn cynnwys defnydd o Dsieinëeg a ffocws ar bynciau sy'n gweddu i fuddiannau geowleidyddol Tsieina. Mae dadansoddiad mwy diweddar yn dangos bod y cyfrifon yn weithredol yn ystod oriau swyddfa Tsieina yn unig; prin oedd y gweithgarwch yn ystod y gwyliau cenedlaethol yn Tsieina; ac ymddengys fod y defnydd o’r Saesneg wedi deillio o offer cyfieithu peirianyddol.

Dywedodd yr Athro Innes: “Ers hysbysu Twitter am y 400 o gyfrifon a waharddon nhw wedi hynny, mae tystiolaeth eu bod nhw wedi nodi gweithgaredd ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r rhwydwaith, gyda chyfrifon amheus pellach yn cael eu cymryd all-lein. Ond mae yna lawer o gyfrifon gweithredol o hyd sy'n parhau i ledaenu cynnwys a allai fod yn niweidiol - fel y dangosir gan eu hymgysylltiad â'r digwyddiadau treisgar diweddar yn Washington DC.

“Mae patrymau ymddygiad y gweithrediad hwn yn anarferol ac ymddengys eu bod wedi’u cynllunio i geisio osgoi cael eu canfod gan Twitter. Er enghraifft, roedd y signalau cydlynu yn aml yn eithaf cynnil ac yn amlwg roeddent yn osgoi defnyddio hashnodau yn fwriadol.

“Mae hyn yn codi cwestiwn diddorol ynglŷn â sut roedd y gweithredwyr wedi dysgu beth oedd yn debygol neu’n annhebygol o 'ddeffro' algorithmau canfod Twitter. Mae’n bosib eu bod wedi casglu’r wybodaeth hon gyda phrofiad ac wrth ddysgu o weithrediadau gwybodaeth ffug y gorffennol ond mae hefyd yn debygol y gwnaethant gaffael gwybodaeth o ffynonellau eraill. Mae angen ymchwil bellach ar frys.”

Mae'r Sefydliad yn aelod o Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd (SPARK) - casgliad o grwpiau ymchwil gwyddorau cymdeithasol blaenllaw sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu atebion arloesol i broblemau cymdeithasol trwy weithgaredd ymchwil cydweithredol. Bydd wedi'i chydleoli mewn hwb arloesedd newydd, sbarc, yn hwyrach eleni.