Cyfleusterau ARCCA yn cefnogi gwaith i wella cylcholdeb diwydiant cemegol y DU
26 Ionawr 2021
Mae tîm ymchwil dan arweiniad Dr Alberto Roldan Martinez o'r Ysgol Cemeg wedi derbyn cyllid am eu bod yn rhan o Ganolfan Ryngddisgyblaethol Genedlaethol ar gyfer Economi Cemegol Gylchol (NIC3E). Bydd tîm Alberto yn defnyddio gwasanaethau uwchgyfrifiadura ARCCA er mwyn gwella dyluniad catalyddion gwydn ac effeithlon.
Yn rhan o NIC3E, bydd tîm Caerdydd yn dylunio catalyddion i drawsffurfio cyfansoddion sy'n cael eu gwaredu yn gemegau defnyddiol, megis ireidiau a thanwyddau. Catalysis yw'r broses o ddefnyddio deunyddiau penodol i gyflymu adweithiau cemegol er mwyn gwneud cynhyrchion yn rhatach, glanach, mwy diogel a mwy cynaliadwy. O ystyried bod tua 90% o'r holl adweithiau cemegol yn cael eu catalyddu yn y broses ddiwydiannol gyfredol, mae catalysis wrth wraidd NIC3E.
Gan fanteisio ar ffabrig rhwydwaith Hawk a ehangwyd yn ddiweddar gan Mellanox (200 Gb/s), bydd adnoddau cyfrifiadurol pwrpasol yn cael eu hychwanegu at Hawk drwy’r dull seilwaith y gellir ei blygio i alluogi rhaniad cyfrifiannu pwrpasol newydd i ymchwilwyr. Bydd defnyddio’r rhaniad hwn yn galluogi tîm Alberto i gynnal efelychiadau cyfrifiadurol i sgrinio cannoedd o ddeunyddiau gan wella dyluniad catalyddion gwydn ac effeithlon gan drawsnewid cyfansoddion carbon a ddiystyrwyd, gan gynnwys CO2, yn swmp-gemegau fel oleffinau.
Darllenwch eitem newyddion y Brifysgol a gyhoeddwyd yn ddiweddar am wobr NIC3E fydd yn dod â phrifysgolion, partneriaid diwydiannol a rhyngwladol ynghyd i ddyfeisio ffyrdd o leihau ein dibyniaeth ar fewnforio deunyddiau crai ar gyfer ein diwydiannau.