Llwyddiant Canmlwyddiant Archaeoleg
25 Ionawr 2021
Blwyddyn o ddigwyddiadau yn archwilio bodolaeth ddynol trwy ddisgyblaethau ymarferol yn dod i ben wrth i gynfyfyrwyr sy’n ymarferwyr edrych i'r dyfodol
Mae blwyddyn o ddathlu gorffennol, presennol a dyfodol archaeoleg a chadwraeth yng Nghaerdydd wedi dod i ben drwy edrych mewn modd ysbrydoledig ar ddyfodol y disgyblaethau, gyda chynfyfyrwyr blaenllaw yn y sectorau treftadaeth, amgueddfa a chadwraeth.
Cyrhaeddodd digwyddiadau blwyddyn 2020 ffiniau a chyfandiroedd wrth arddangos canrif o ymchwil, arferion addysgu cyfredol, a thorri tir newydd gyda ymgysylltiad cyhoeddus ac effaith yn y byd ehangach.
Cynhaliwyd gweithgareddau i ddathlu’r canmlwyddiant yn ystod y flwyddyn. Roedd y rhain yn cynnwysseminarau ymchwil gan gynfyfyrwyr ar-lein a chafwyd gŵyl wythnos o hyd ar-lein yn cynnwys Arddangosfa Lluniau gan Gynfyfyrwyr, diwrnodau â thema Cadwraeth ac Allgymorth, fideos DIY archaeoleg arbrofol ac arddangosfa ddarlunio. Daeth y cyfan i ben gyda chyfres o flogiau wedi'u hysgrifennu gan staff Archaeoleg a Chadwraeth a chynfyfyrwyr. Yn rhan o weithgareddau arloesol Cloddio Gardd Gefn, bu’r cyhoedd yn canfod eu harcheoleg eu hunain yng Nghloddfa Fawr CAER. Hwn oedd y dewis amgen diogel gan Brosiect Treftadaeth CAER o ganlyniad i Covid19 yn lle tymor cloddio traddodiadol yr haf.
Digwyddiad Dyfodol Archeoleg oedd y goron ar y cyfan, gyda chynfyfyrwyr sy’n ymarferwyr yn rhannu eu safbwyntiau unigryw yn Nyfodol y Gorffennol. Arweiniwyd y sesiynau gan Dr Kathryn Roberts (Cadw), yr Athro Carl Heron (yr Amgueddfa Brydeinig), yr Athro Robin Skeates (Prifysgol Durham), Ms Siobhan Stevenson (Legacy Conservation) a Duncan Brown (Historic England). Gwyliwch ddigwyddiad olaf #CUArch100.
Mae'r gyfres yn dathlu sefydlu Archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhan o bartneriaeth lewyrchus gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Dechreuodd y cysylltiadau rhyngddynt ym mis Awst 1920 pan ddechreuodd Mortimer Wheeler mewn swydd newydd fel Darlithydd Archaeoleg a Cheidwad Archaeoleg. Cychwynnodd hyn gydweithrediad esblygol sydd wedi trawsnewid gwybodaeth o'r gorffennol, wedi creu addysgu, gwaith cloddio ac ymchwil sy'n enwog yn rhyngwladol ac wedi anfon graddedigion o Gaerdydd ledled y byd.