Cyngor Sam Warburton ar gyfer gêm Gornest y Prifysgolion
20 Ebrill 2016
Fe wnaeth capten rygbi rhyngwladol Cymru, Sam Warburton (Cymrawd er Anrhydedd 2015), gyfarfod â charfan Rygbi Undeb Prifysgol Caerdydd, cyn gêm Gornest Prifysgolion Cymru yn erbyn Prifysgol Abertawe ddydd Mercher 20 Ebrill.
Rhoddodd Sam gyngor i'r garfan, ac esbonio sut mae'n ymdopi â phwysau gemau mawr. Cyflwynodd grysau gêm y garfan iddynt hefyd.
Dywedodd Pennaeth Chwaraeon Prifysgol Caerdydd, Stuart Vanstone: "Mae'n brofiad gwych i'r myfyrwyr chwarae yng ngêm Gornest y Prifysgolion. Profiad a fydd yn dal yn y cof, ymhell ar ôl iddynt raddio. Mae cael crys wedi'i gyflwyno gan Sam yn atgof bythgofiadwy arall iddynt.
"Mae gan Ornest Prifysgolion Cymru hanes balch a chyfoethog, ac mae'n wych bod Sam wedi rhoi o'i amser i siarad â'r garfan cyn y gêm fawr."
Dywedodd Louie Tonkin, Pennaeth Rygbi ym Mhrifysgol Caerdydd: "Bydd cael capten Cymru a'r Llewod i siarad â'r garfan cyn gêm Gornest y Prifysgolion yn helpu'r chwaraewyr i reoli eu nerfau a'u cynnwrf.
"Mae'n draddodiad cyflwyno crys cyn gêm rygbi bwysig, ac ni allaf feddwl am unrhyw un gwell na Sam i wneud hyn cyn gêm sy'n argoeli i fod yn wych."
Mae nifer o chwaraewyr sydd wedi ymddangos yn gêm Gornest y Prifysgolion wedi mynd ymlaen i chwarae rygbi proffesiynol, gan gynnwys Jake Cooper-Woolly (Wasps), Ross Wardle (Dreigiau Casnewydd Gwent), James Thomas (Dreigiau Casnewydd Gwent) ac Arthur Ellis (Ealing).
Cafodd Sam Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Caerdydd yn 2015, i gydnabod ei lwyddiannau eithriadol ym maes chwaraeon.
Mae Gornest Prifysgolion Cymru wedi'i gynnal ers 20 mlynedd. Mae wedi tyfu'n sylweddol, ac erbyn hyn, dyma'r ail gystadleuaeth Gornest Prifysgolion fwyaf yn y DU (ar ôl Rhydychen a Chaergrawnt).
Carfan Rygbi Undeb Prifysgol Caerdydd 2015/16
Ben Madgwick(c), Tom Wilson(c)
Propiau: Tom Boot, Fraser Young, James Holmes, Aled Rees, Morgan Bosanko. Bachwyr: Jack Haines, Alun Rees. Blaenwyr clo: Jack McGrath, Tom Bell, Ben Egan, Jon Kenny. Rheng ôl: Tom Wilson, James Sawyer, Chris Williams, Joe Gaughan, Sam Montieri. Mewnwyr: Owen Clemett, Owen Davies, John Preddy. Maswyr: Julian Mogg, Elliot Clement, Lewis Molloy. Canolwyr: Harry Salisbury, Ben Madgwick, Harry Griffiths, Matt Roberts. Cefnwr ac Asgellwyr: Iwan Phillips, Greg Heath, Lloyd Lewis, Bentley Halpin.