Athro o Brifysgol Caerdydd wedi'i benodi'n Gyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 newydd Cymru
20 Ionawr 2021
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi penodi’r Athro Adrian Edwards yn Gyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 newydd Cymru.
Mae’r ganolfan £3m, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, yn cael ei chreu ar ran Llywodraeth Cymru i ddefnyddio canfyddiadau ymchwil ledled y DU a’r tu hwnt er mwyn ateb cwestiynau pwysig a helpu i wneud penderfyniadau yng Nghymru.
Gallai hyn gynnwys mynd i’r afael ag effeithiau tymor hir y pandemig ac edrych ar heriau megis rheoli’r haint a chadw pellter cymdeithasol, goblygiadau hunanynysu ac effeithiau’r aflonyddwch economaidd ar iechyd.
Mae disgwyl i’r Ganolfan Dystiolaeth newydd ym Mhrifysgol Caerdydd agor yn ystod yr wythnosau nesaf gyda thîm ymroddedig o ymchwilwyr allweddol. Bydd y Ganolfan yn cynnig ffordd gyflym o gael gafael ar ganfyddiadau a thystiolaeth ymchwil ryngwladol o bwys er mwyn i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru allu gwneud penderfyniadau. Bydd hefyd yn sicrhau bod modd cynnal astudiaethau ymchwil cyflym a phenodol ar lefel Cymru, gan gynnwys am COVID hir.
Mae’r Athro Edwards yn athro ymarfer cyffredinol ac yn feddyg teulu rhan-amser yng Nghwm-brân. Bydd yn gyfrifol am oruchwylio’r ganolfan fydd yn manteisio ar arbenigwyr academyddion a gwyddonwyr ledled Cymru.
Mae gan yr Athro Edwards chwarter canrif o brofiad ym maes ymchwil. Ef hefyd yw Cyfarwyddwr Canolfan PRIME Cymru, sy’n ganolfan ymchwil gofal sylfaenol a brys ar gyfer Cymru gyfan. Mae ei brif ddiddordebau yn cynnwys ansawdd a diogelwch gofal iechyd, a dod i benderfyniadau ar y cyd.
Meddai’r Athro Adrian Edwards: “Mae angen i ni ddefnyddio ymchwil a thystiolaeth wrth reoli’r pandemig. Mae angen i ni hefyd ddeall effaith y pandemig ar y systemau darparu iechyd a gofal ledled y wlad a sut rydym yn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion iechyd ac ehangach cymunedau a phobl yng Nghymru."
Mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 newydd sbon Cymru yn adeiladu ar waith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sydd wedi bod wrth wraidd yr ymdrech ymchwil ryngwladol. Mae wedi cydlynu tri threial brechlyn hyd yma yn ogystal â nifer o astudiaethau iechyd cyhoeddus brys mewn partneriaeth â'r GIG a phrifysgolion ledled Cymru.
Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae ymchwil wedi chwarae rhan ganolog wrth fynd i’r afael â heriau’r pandemig dros y flwyddyn ddiwethaf. Erbyn hyn mae angen inni ganolbwyntio ar fanteisio ar ymchwil o bedwar ban byd er mwyn mynd i’r afael â heriau tymor hirach COVID-19 i Gymru a’i effaith ar fywydau pob un ohonom.
“Mae gan yr Athro Adrian Edwards rôl flaenllaw eisoes yn ein cymuned ymchwil yng Nghymru ac mae ganddo brofiad helaeth o weithio gyda’r GIG a meysydd academaidd wrth arwain y ganolfan newydd benodedig hon.”
Meddai Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: “Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu ac yn adeiladu ar y gwaith presennol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wrth ymateb i bandemig COVID-19. Mae hyn wedi cynnwys treialon brechlyn ac astudiaethau ymchwil eraill.
“Bydd Canolfan Dystiolaeth COVID-19 newydd Cymru yn ein galluogi i rannu tystiolaeth ymchwil yn gyflym ac yn ddiffwdan ar draws Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a gofal cymdeithasol. Bydd yn golygu y gall staff ar lawr gwlad roi'r gofal a'r triniaethau gorau wrth i bobl wella a dysgu sut i ymdopi ag effeithiau tymor hir y pandemig ar eu hiechyd meddwl a chorfforol.”
I gael gwybod rhagor am yr holl astudiaethau ymchwil a gynhelir ar hyn o bryd, neu sydd ar fin dechrau yng Nghymru, ewch i ymchwil COVID-19 yng Nghymru.